Dros gyfnod o ddeng mlynedd, drwy gydweithio’n agos gyda phobl ifanc ar draws y Cymoedd, mae Clémentine Schneidermann a Charlotte James, wedi creu corff o waith dan enw’r project It’s Called Ffasiwn. Yn enw’u stiwdio Bleak Fabulous, mae’r pâr wedi cynhyrchu darluniau sy’n cyfuno ffotograffiaeth ddogfennol gydag elfennau o ffasiwn, perfformiad, tirluniau a phortreadau, gyda chanlyniadau annisgwyl ac weithiau swreal.
© Clémentine Schneidermann a Charlotte James
© Clémentine Schneidermann a Charlotte James
© Clémentine Schneidermann a Charlotte James
Mewn arddangosfa newydd sy’n dathlu creadigrwydd, cymeriad, a chymuned, dyma gyfle i weld gwaith sy’n rhoi llwyfan i bobl, llefydd a hunan-fynegiant.
Gellir gweld arddangosfa Ffasiwn yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o 23 Mai 2026 tan 4 Ebrill 2027. Am ragor o wybodaeth ac i archebu tocynnau, ewch i wefan Amgueddfa Cymru.