Archwilio

Y Corff

Mae amrywiaeth o gyrff dynol o bob lliw a llun, ond wrth edrych ar y corff drwy gelf, sut ydyn ni’n ei ddehongli? O bortreadau i gerflunwaith, mae’r corff wedi ysbrydoli nifer fawr o artistiaid ym mhob cyfrwng.

Ers canol yr 20fed ganrif, mae artistiaid ac ymchwilwyr wedi herio sut mae celf orllewinol draddodiadol wedi portreadu ffigyrau benywaidd drwy lygaid dynion. Yn ystod y cyfnod hwn, aeth artistiaid ati i geisio heirio’r hen drefn a’r ystrydebau, y nodweddion a’r stigma sy’n gysylltiedig â gwahanol gyrff.

Mae’r corff yn parhau i ysbrydoli artistiaid cyfoes hyd heddiw wrth iddyn nhw drafod pob math o syniadau a chysyniadau yn ymwneud â’r corff, o rywioldeb a rhyw, i ethnigrwydd, gallu corfforol ac oedran.

Gall trafod ac edrych ar gelf sy’n ymwneud â’r corff fod yn brofiad anghyfforddus, grymusol, dadlennol, a llawer mwy. Ond all hyn hefyd ein gorfodi i ddod i ddeall ein hunain?
 


Gweithiau celf

SEARLE, Berni
© Berni Searle/Amgueddfa Cymru - Museum Wales
BUTLER, Reginald
© Reginald Butler/Amgueddfa Cymru - Museum Wales
VAUGHAN, Keith
© Ystâd Keith Vaughan. Cedwir Pob Hawl. DACS 2024/Amgueddfa Cymru
SEPUYA, Paul Mpagi
© Paul (Sepuya) Mpagi/Amgueddfa Cymru - Museum Wales
JAMES, Merlin
© Merlin James/Amgueddfa Cymru
EVANS, Geraint
© Geraint Evans/Amgueddfa Cymru - Museum Wales
BRETT, Karen
© Karen Brett/Amgueddfa Cymru - Museum Wales
Chris, STEELE-PERKINS
© Chris Steele-Perkins / Magnum Photos // Amgueddfa Cymru
Britton, Alison
© Alison Britton/Amgueddfa Cymru - Museum Wales
GESIYE,
© Gesiye/Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Erthyglau