CYNFAS

Llŷr Titus
5 Rhagfyr 2023

Golygyddol

Llŷr Titus

5 Rhagfyr 2023 | Minute read

Dwi’n clywed y gwylanod o fy swyddfa dros dro mewn stafell sbâr bore ’ma. Dwi’n nes yng Nghaernarfon at yr arfordir nac oeddwn i yn lle ges i fy magu. Eto fedrai’m gweld y môr, mae o’n cuddio tu ôl i strydoedd a chastell a biniau ail-gylchu. Dwi wedi byw o fewn pellter gweld, arogli neu gerdded i’r môr erioed fwy nac ydw i heb, a’r gweld sydd orau gen i. Mae ‘cymuned arfordirol’ yn gyfystyr a ‘chymuned arferol’ i fi felly mewn ffordd. Tydi cymunedau arfordirol ddim o reidrwydd yn gymunedau ar y cyrion, cofiwch. Wrth feddwl am arfordir efallai fod rhywun yn meddwl am linell, am ffin a thrwy hynny yn meddwl am rywbeth ymhell o’r canol. Ond i fod ar arfordir mae’n rhaid i chi fod rhwng tir a môr does? Yn y canol rhwng dau fyd.

Mae ’na stori, berffaith wir, (neu yn sicr mi ddylai hi fod) am was ffarm o Uwchmynydd – ardal ym mhen pellaf Penrhyn Llŷn – dyma le sydd mor arfordirol nes bod rhywun yn gallu gweld y môr ar ddwy ochr iddyn nhw mewn mannau. Fe wnaeth o ennill cystadleuaeth ‘Spot the Dog’ rywbryd tua canol y ganrif ddiwethaf. Cystadleuaeth ydi honno lle mae llun o ddefaid mewn cae hefo’r ci sydd yn eu hel nhw wedi ei dynnu ohono fo. Y gamp ydi defnyddio profiad o nabod cŵn a defaid a nodi lle fyddai’r ci wedi bod. Beth bynnag am hynny, y wobr oedd mynd i Lundain ac felly dyma fo, dyn nad oedd wedi mentro’n fawr pellach na Phwllheli y dref agosaf iddo fo, yn mynd i lawr yno am wythnos. Wedi iddo fo ddod yn ei ôl dyma rhywun yn ei holi o os oedd o wedi licio Llundain? ‘Ma’r lle yn iawn’ medda fo ‘Dim ond fod o’n bell o bob man.’  

Mae canol eich byd chi yn lle bynnag yda chi isio iddo fo fod dwi’n meddwl. Mae hynny’n amlwg wrth ddarllen y rhifyn yma o Cynfas wrth i’r llefydd ymylol, ffiniol yma rhwng dau fyd gwahanol ddod yn ganolbwynt i weithiau dwi wedi cael y fraint o’u golygu.  

Dwi wrth fy modd hefo nhw. Yn yr un modd ag yr ydw i wrth fy modd efo’r arfordir waeth sut siâp sydd arno fo. Ac fel mae pob arfordir yn debyg ond eto’n heb fod yr un fath mae’r gweithiau yma’i gyd yn wahanol ond hefo rhyw gerrynt yn llifo rhyngddyn nhw.

Stori, neu straeon caru sy’n sbardun i fonolog teimladwy Lois Elenid. Un rhwng dau bysgotwr a rhyngddyn nhw a’r môr. Mae yna gariad at gymuned a ffordd o fyw hefyd ac ymwybyddiaeth o anawsterau byw mewn lle gwledig fel person cwiar. Eto’i gyd mae’r môr yn cynnig noddfa a gwarchodfa.

Mae yna gymysgedd o deimladau a safbwyntiau yn rhan o waith hudolus Lowri Hedd hefyd wrth i sain a barddoniaeth fyrfyfyr gyfuno hefo gwaith gweledol. Ffin lythrennol iawn ar un ystyr sydd dan sylw hefo’r Fenai a Phorthaethwy yn ganolog i’r gwaith wrth i’r ‘croeso’ fynd a dod fel y llanw.

Chwarae ar y gair ‘llanw’ mae Gwenno Robinson wrth iddi drafod rhywbeth cyfarwydd iawn i mi sef y mynd a dod tymhorol sy’n rhan annatod o sawl cymuned arfordirol. Fe gawn ni gip o gwmpas Porth Einion mewn cyfres o ffotograffau hefyd. Mae hi’n myfyrio ar sut le ydi ei phentref genedigol a’i pherthynas hi a’i theulu hefo natur dymhorol ei chartref wrth iddo amrywio o drwy gydol y flwyddyn.  

Caleidosgop amrywiaeth sy’n gwreiddio darn breuddwydiol Onismo Muhlanga hefyd wrth i sain, barddoniaeth, llais a fideo gyfuno i greu taith o gwmpas cymunedau arfordirol Cymru. Mae yna dynnu ar y gorffennol yn ogystal â’r presennol wrth i’r llanw, planhigion a chymunedau uno. Fe ges i deimlad nostalgaidd wrth wylio’r gwaith am y tro cyntaf ond mae yma sbio tua’r dyfodol hefyd.

Gobeithio y gwnewch chi fwynhau crwydro drwy’r cymunedau a’r tirweddau arfordirol sydd yn y rhifyn yma o Cynfas. Dyma gymunedau sydd o’u hanfod yn newid yn gyson. Mewn mwy nac un ystyr maen nhw hefyd yn geiliogod gwynt, yn ganeris mewn caetsys o waith haearn Fictoraidd neu Gassandras mewn temlau sy’n dywod, baw cŵn a gwylanod i gyd. Mae’n werth i ni gofio amdanyn nhw – y  llefydd hynny ar flaen y llanw sy’n ei brofi fo gyntaf wedi’r cwbl.

Llŷr Titus 
Caernarfon 2023


Share


More like this