Taith ddadlennol drwy ddelweddau, barddoniaeth a sain, wedi’i gyflwyno fel profiad sinematig sy’n rhoi cip unigryw ar glytwaith o gymunedau arfordirol, ble mae natur a diwylliant yn asio. Mae’r daith yn ymdrochi yn y dyfroedd sanctaidd sy’n cofleidio a chyfoethogi amrywiaeth diwylliannol arfordir Cymru, gan eich atgoffa o’r undod dwfn sy’n clymu’r mosaig arfordirol, amgylchynol hwn.
Ar lwyfan mawr natur, wrth i’r tir gwrdd â’r lli 
Mae clytwaith y glannau’n amrywiol a rhydd. 
Planhigion – cyndeidiau yn galon cymuned, 
Traddodiadau i’w canfod, a straeon i’w dweud.
Yn un dan rhythmau llanw a thrai 
Gwrthdaro hen wreiddiau a bydoedd newydd 
Mewn caleidosgop byw, fe safwn 
Mewn undod a rhyfeddod, law yn llaw.
I’r gorllewin, rhwng coflaid môr a thir 
Tyf planhigion y glannau, yn unigryw a byw. 
Eu straeon, fel sibrwd ar yr awel 
Wedi’u gwreiddio yn ddoe ond yn dawnsio’n ffri.
Dilynwn y tonnau, gan drosi a throi 
Drwy goflaid natur, i gartref clyd. 
Harmoni dawns diwylliant a daear, 
Yn dyst i rhythmau geni glannau ein gwlad.
Wrth i’r lleuad gusanu’r gorwel gwelwn ‘Galeidosgop Arfordirol’ yn datgelu byd cyfareddol lle mae tir a môr yn uno, yn paentio darlun disglair o fywyd.
Naratif hynafol sy’n cydfodoli â straeon newydd
Mentrwn ymhellach, at y llwybr sy’n ein denu’n nes at ddyfroedd disglair glannau’r gorllewin.
Yma, mae pob planhigyn byw yn dyst i’r mosaig astrus o ddiwylliannau sy’n cyfoethogi’r arfordir hwn.
Yn sisial ysgafn y llanw daw’r straeon mewn islais yn fyw.
Straeon sy’n ein hatgoffa taw undod, yn newid beunyddiol ein byd, yw ein hangor disymud, y grym a’n gyrr ymlaen.
Gam wrth gam, ymgollwn mewn byd sy’n gymuned unigryw a grëwyd gan blanhigion y glannau, cysgod cytûn o’r darlun disglair o’u cwmpas.
Planhigion sydd yn y bôn, fel y glannau sy’n teithio i’w gweld a’u gadael, wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn ddoe, a heddiw, i’r dyfodol.
Cydnabyddiaeth
Cyfarwyddo, Sinematograffi, Barddoniaeth a Gair Rhydd gan
Onismo Muhlanga
Camera Cynorthwyol a Ffotograffau gan
James Matthew-Mitchell
Darlleniad gair rhydd gan
Ffion Campbell-Davies
Water Wisdom, Sacred Legacy gan
Malidoma Patrice Some
Cymorth eglurdeb sain gan
Tanaka Chitsamba
Diolch i Gyndeidiau, Urban Circle Newport, ac Amgueddfa Cymru
Ysbrydoliaeth
Malidoma Some – Water Wisdom, Sacred Legacy: How Oral History and Tradition Can Inform the Future
Tirlun Anhysbys, Banks, Evie, © Evie Banks
 
			 
   
			             
			
             
              
			             
			
             
              
			             
			
             
              
                 
                 
                 
                 
                