


Rydw i wedi bod yn datblygu syniadau am strwythurau grym a systemau rheoli – o dynnu grym a dymchwel strwythurau sy'n ymddangos yn amhosib eu dinistrio. Drwy gydol y pandemig mae 'n teimlo fel petai popeth yn y fantol.
Am bron i ddeunaw mis fe newidiodd ein bywyd o ddydd i ddydd yn ddramatig. Lle gynt fu cysur y cyfarwydd roedd ansicrwydd diderfyn, ac roedd hi'n anodd iawn addasu. Dros amser fe welais i bobl yn torri.
Yn ei sgil (os ydyn ni drwyddi'n llawn) mae natur fregus strwythurau oedd yn ymddangos yn oesol wedi dangos fod dyfodolau newydd yn bosib. Dyma'r syniad rydw i wedi bod yn arbrofi ag ef yn y stiwdio, drwy gyfrwng materoldeb y plinth.
Drwy arbrofi â photensial cerfluniol y plinth, fy niddordeb yw sut y mae'n fodd i ddyrchafu yn y diwydiant celf a'r diwydiant adeiladu. Mae'r hyn sy'n ymddangos fel strwythurau cadarn, oesol yn cael eu dinoethi yn gau a bregus.