CYNFAS

Geraint Ross Evans
15 Rhagfyr 2021

Bydolwg

Geraint Ross Evans

15 Rhagfyr 2021 | Minute read

Mae darlunio yn broses ddefnyddiol i arbrofi â datrysiadau i broblemau cymhleth – maes chwarae o bosibiliadau am fyd gwell sy'n gyfoeth o amser a gofod hydrin. Tu hwnt i bleser pur creu lluniau, mae'r gofod darlunio yn rhoi cyfle i fi'n bersonol gwestiynu a llunio atebion i gwestiynau mawr heddiw: sut all ein bydolwg fel unigolion ddod ynghyd yn wyneb problemau byd-eang anferth? 

Gall darluniau ddal ein sylw, ein trwytho mewn bydysawd paralel a gadael i'n llygaid grwydro drwy ddyfnder rhithiol. Gall delweddau grymus droi ein byd wyneb i waered, a rhoi persbectif newydd ar sut i ddehongli'r byd. Gallant fod yn straeon cyfoethog gyda dechrau, canol a diwedd, sy'n datgelu rhywbeth newydd â phob darlleniad.

Yn fy ngwaith diweddar rydw i wedi dwyn ysbrydoliaeth o aestheteg a ‘mhrofiad o banorama a murluniau, yn ogystal ag arbrofi â chartograffeg, adeiladu bydoedd a ffigyrau. Tu hwnt i'r stiwdio rydw i wedi bod yn darlunio byw, yn ymchwilio i fframweithiau economaidd newydd, ac yn chwilio am lwybrau i ddringo o'r helbul rydyn ni'n byw ynddo, a'r cyfan tra'n ceisio diffinio rhyw fath o fydolwg.

Isod bydda i'n rhannu 4 cainc ymchwil rydw i' wedi bod yn eu dilyn dros 2021, ymweliadau murluniau, Comisiwn Ysbyty Prifysgol y Faenor, Panorama a'r Olwg Gyfannol a Bydolwg. 

Mae croeso i chi gamu mewn i 'mhroses o ddatblygu darluniau mawr a chymhleth, a gweld y brasluniau a'r gwaith meddwl tu ôl i'r gweithiau sydd ar eu hanner.  

Ymweliadau Murluniau 

Mae darlunio o ddelweddau dwi'n eu hedmygu fel cael sgwrs bersonol gyda'r artist, cyfle i drafod sut cafodd y darlun ei greu a chymryd nodiadau. Ym mis Gorffennaf fe ges i gyfle i ymweld am y tro cyntaf â dau hoff furlun; The Dance of Life (a gomisiynwyd ym 1951) gan Elsie Mildred Eldridge ym Mhrifysgol Glyndŵr, Wrecsam, a The Oratory of All Saints sy'n fwy adnabyddus fel Capel Coffa Sandham yn Burghclere ac yn llawn murluniau gan Stanley Spencer.  

Mae'r ddau furlun yn fawr, yn gymhleth, ac wedi'u creu mewn ymateb i'r ddau Ryfel Byd a'u heffaith. Mae'r pwnc fel petai'n adleisio’r argyfwng presennol, yn enwedig y pandemig a newid hinsawdd, ac mae'r ddau, yn allweddol, yn cynnig datrysiad i'r sefyllfaoedd hyn. Yn achos Stanley Spencer y themau allweddol yw atgyfodiad, maddeuant, ymwybyddiaeth o'r presennol, a chadoediad. Er taw rhyfel yw pwnc y murlun, does dim un arf i'w weld yma. Mae ei ddelweddau yn llawn gobaith ac adfywiad, gyda ffigurau wedi ymgolli mewn gweithgareddau a phrosesau dydd i ddydd.

Mae chwe phanel Elsie Mildred Eldridge yn gresynu arwahanrwydd dynoliaeth o fyd natur. Ceisia ei ffigurau trist ddangos hyn drwy ymgysylltu â'r tir drwy gyfrwng defod, traddodiad a chwarae – allai'n hawdd gyfleu'r presennol hefyd. Mae pawb yn fregus oherwydd y pandemig ac mae'n gwleidyddion yn llusgo'u traed dros weithredu polisiau gwyrdd brys. Llwyddodd nifer ohonom i gysylltu â'n hamgylchfyd lleol drwy arddio, neu gerdded drwy barciau a llefydd llawn bywyd gwyllt yn ystod ein hawr o ymarfer corff. Yn ogystal â chynrychioli cenedlaethau’r dyfodol, mae darlunio plant a gwneud amser i chwarae yn hanfodol i sicrhau bod egni i oroesi adfyd.

Roedd darlunio'r gweithiau yma yn ffordd o amsugno'r myrdd o ddyfeisiau a ddefnyddiwyd i greu delweddau mor gymhleth. Roedd defnydd yr artist o orwel pell, wynebau diemosiwn, gweithredoedd a phrosesau damhegol/symbolaidd (fel y plant yn rhyddhau teloriaid ym murlun Elsie) yn gysyniadau defnyddiol wrth ddatblygu fy ngwaith fy hun. Mae rhan o furlun Stanley Spencer yn canolwbyntio ar ei brofiad yn Ysbyty Beaufort ym Mryste, a ddylanwadodd ar gomisiwn celf gyhoeddus oedd yn yr arfaeth ar y pryd (isod). 

Ysbyty Prifysgol y Faenor

Ar yr un pryd â'r comisiwn Creu Gwaith Newydd, roeddwn i'n artist preswyl yn creu comisiwn ar gyfer Ysbyty Prifysgol y Faenor yn Llanfrechfa, Cwmbran.  Roedd creu comisiwn cyhoeddus gyda defnydd cymdeithasol yn broject roeddwn i wedi bod yn gweithio tuag ato yn fy ngyrfa yn ddiweddar. Mae'r gwaith yn dyst i brofiadau staff a chleifion wrth i fi eu gwylio, gan ddefnyddio'r gwersi a ddysgais o lwyddiant murluniau Stanley Spencer o gyfuno gwahanol safbwyntiau a phrofiadau yn eglur. 

Roedd cael profiad agos a phersonol o ysbyty fodern yn gip prin a chignoeth ar y cyflwr dynol, o gloriannu bywyd a marwolaeth, poen a rhyddhad, penderfyniadau brys ac amynedd di-ben-draw. 

Roedd hwn yn gyfle i fi geisio crisialu'r niferus safbwyntiau a phrofiadau yn un portread cyfannol (o ysbyty fodern) ac yn ymchwil hanfodol i lywio fy awydd i greu gofod y gallwn i ei lenwi â gwahanol safbwyntiau. Mae'r ddelwedd derfynol yn gyfres o ofodau panoramig mewn haenau llorweddol yn efelychu lloriau'r ysbyty, gan symud o'r arwynebol i'r dwfn, o'r tu mewn i'r tu allan, a gyda'r tirlun yn uchel yn y pellter. Weithiau bydd y gofodau'n croesi'i gilydd fel bwrdd nadroedd-ac-ysgolion wrth i wybodaeth, gwrthrychau a phobl hyd yn oed basio rhwng adrannau. Mae'r Gwasanaeth Iechyd ei weithwyr a'i rwydwaith gefnogol, fel yr elfennau o natur y bydda i'n eu darlunio, yn hanfodol ac yn esiampl arall o adnodd yn wyneb difodiant sydd angen ei feithrin, ei werthfawrogi, a'i warchod os ydyn ni am fyw yn dda. 

Panorama a'r Olwg Gyfannol

Nod yr ymchwil hwn oedd (ac yw) astudio'r tensiwn rhwng cartograffeg (llun awyr) a phersbectif person cyntaf, ac arbrofi ag ef. Y bwriad yw creu gofod topograffig a phersonol ofodol drwy roi'r 'olwg' yn y 'tirlun'. Drwy arbrofi gyda safbwyntiau a gofod panoramig 360 rydw i'n datblygu dull o ymdrwytho'r gwyliwr yn llwyr ar arwyneb gwastad, gan ddwyn ysbrydoliaeth o ddirnadaeth a chartograffeg.

Mae'r arbrofion hyn yn fy helpu i ddeall a disgrifio cyfyngiadau'r gofod mae pob unigolyn yn ei ddefnyddio, ac yn pontio'r naid ddychmygus angenrheidiol i feithrin empathi rhwng pob un ohonom. Yn ystod y cyfnod clo fe ddarllenais The Order of Time gan Carlo Rovelli, yn aml yn ystod fy awr ymarfer corff ar Fryn Grangemoor gyda'i banorama o Gaerdydd. Mae'r llyfr yn llawn eiliadau datguddiol sy'n dadelfennu dirnadaeth dyn o amser drwy gyfrwng esboniadau ffiseg. Ysgogodd rhai o'r datguddiadau yma ryw fath o vertigo gofodol ynof i. Ymwybyddiaeth o'r blaned yn arnofio mewn gofod wrth i mi ddechrau gweld y byd yn troi, fel y ffŵl ar y bryn yng nghân y Beatles. 

Bydolwg

Mae'r gangen hon o fy ymchwil a 'mhractis yn canolbwyntio ar y nod o greu darlun hanesyddol mawr yn ymateb i'r presennol, gan gasglu ynghyd y problemau sy'n ein hwynebu a datrysiadau posibl ochr yn ochr. 

Wrth i fi ddysgu mwy am y problemau cymhleth sy'n ein hwynebu os ydyn ni am oroesi, a ffynnu yn hapus ac iach fel rhywogaeth, rwy'n dod i ddeall yn well bod cyswllt rhwng problemau drwy amser a gofod, a gall un gael effaith domino ar y nesaf. Mae canfod strategaeth i ddehongli a darlunio'r cyfan mewn modd cynhyrchiol yn her, ac mae nifer o'r modelau y mae ein llywodraethau yn eu defnyddio yn gaeth i dwf doed â ddêl. Nid yw hyn yn ychwanegu gwerth i'n bywydau, fel unigolion neu'n gymdeithasol, felly rhaid i ni ymchwilio ac ystyried syniadau amgen.

Drwy ddefnyddio dychan rydw i wedi gallu trafod materion byd-eang a nodweddion dinistriol y natur ddynol yn ddi-dramgwydd. Mae dychan yn galluogi i mi ddefnyddio damhegion i ddisgrifio gwrthdaro a phegynnu fel dau ffigwr anferth yn brwydro dros ynys gyda thrais sy'n tanseilio eu hunain ac yn dinistrio systemau cynnal bywyd y ddaear.

“Nid arian, na hyd yn oed algebra, yw arf cryfaf economeg, ond pensel. Gyda phensel gallwch chi ail-lunio'r byd.” – Kate Raworth (cyfieithiad)

Yn ei llyfr, Donut Economics, mae Kate Raworth yn cynnig model newydd i gymryd lle ein hymlyniad crefyddol at dwf. Mae ei 'donut' hi yn cynnig fframwaith gofodol rydw i wedi ei ddychmygu fel ynys i'w chrwydro'n weledol gan symboleiddio pob elfen o'r pos cymhleth, a'u cyfuno yn olygfa gyfannol a disgrifio'r byd fel system glo gydgysylltiedig. 

Rydw i wedi llwyddo i ymchwilio a datblygu a gadael i syniadau newydd fagu gwreiddiau. Byddaf i'n parhau i ymchwilio a darlunio pob rhan o'r model 'donut' cyn symud o'r cyfnod ymchwil at gyfansoddiadau mawr terfynol. 

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â fi.

Mwy o wybodaeth 

www.geraint-evans.com

Instagram @geraintevans_artist

Share


More like this