CYNFAS

Sioned Jones
27 Mai 2021

Dim Newid

Sioned Jones

27 Mai 2021 | Minute read

Ysbrydolwyd y gwaith celf hwn gan dun a drodd yn flwch casglu ar gyfer ymgyrch gwaredu TB y perchennog glofeydd David Davies. Mae’n dangos y cylch cyffredin o ymelwa, anghydraddoldeb ac elusennu a wreiddiodd ym Merthyr o ganlyniad i ddiwydiant, corfforaethau a gwleidyddion, o Golera i’r Fogfa i Goronafeirws.

Mae’r delweddau’n dogfennu hanes anghydraddoldeb iechyd ym Merthyr Tudful dros gyfnod o 200 mlynedd. Gwelir cyswllt personol yr artist i’r hanes yn yr olion bysedd sy’n cyffwrdd yr anghydraddoldeb a ddylanwadodd ar ei phrofiad bywyd hi a’i theulu.


Cafodd Sioned Jones ei geni a’i magu ym Merthyr, ac mae’n fam a gweithiwr cymunedol yn brwydro yn erbyn y system ddosbarth drwy ROUGHCASTE. Mae wrthi’n creu cyfres inffograffig am brofiadau bywyd o anghydraddoldeb yn y DU.


Share


More like this