Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae bardd yn dechrau meddwl am yr hyn maen nhw’n mynd i'w ysgrifennu, a sut y gallen nhw ddechrau? Ewch ar daith greadigol gyda Rufus Mufasa i ddarganfod sut y cafodd ei hysbrydoli gan ddarn Blancedi Argyfwng Cymreig Daniel Trivedy, a’r hyn a ysgrifennodd mewn ymateb i’r gwaith drwy gerdd Saesneg.
Daniel Trivedy - Blancedi Argyfwng Cymreig
Rydw i’n cofio gweld y gwaith yma yn Eisteddfod Genedlaethol 2019 a chael fy syfrdanu ganddo, harddwch y darn a’r cysyniad y tu ôl i’r gelfyddyd sy’n gofyn cwestiynau mawr am faterion moesol cyfoes.
Fe ddechreuais i drwy ddod o hyd i wefan Daniel Trivedy ac erthyglau eraill ar-lein, darllen, gwneud nodiadau, a chreu map meddwl o eiriau a meddyliau perthnasol, am y gelfyddyd a'r teimladau roedden nhw’n eu creu.
hiraeth - blancedi yn nhŷ Nanna - cynhesrwydd - bob amser wrth law - ffyddlon - coll - plentyndod - pasio i lawr drwy linellau matriarchaidd - cofio - sgwrs - hunaniaeth - daearyddiaeth - cysur - persbectif byd-eang - is-destun - treftadaeth - yma - fan draw - cenedlaethol - byd-eang - euogrwydd - gyts - iaith - gwrthdaro - atgyfodi - balchder - blinder - asiad - breuder - tapestrïau - tafod - tiriogaeth - cyffwrdd - achub - ail-ddychmygu - gwreiddiau - noddfa - diogelwch - canlyniad - erledigaeth - cythrudd - trawma - ymateb - rhannu - cynnig - dyletswydd - gofal - Calais - gwersylloedd - diwylliant - cymuned - llygredd - Cymru - noddfa...
Yna fe ddechreuais ysgrifennu, un frawddeg ar y tro nes i fi lunio pedair. Ac yn union fel yna, mae gennych chi bedair llinell - pennill - calon a stori yn datblygu o bennill i bennill i bennill, blociau adeiladu o iaith - yna ewch yn ôl â llygaid ffres i olygu. Rwy'n addo, dechreuwch gyda geiriau, lluniwch frawddeg ar y tro, rydych chi'n gwybod yr atebion, byddwch â ffydd yn eich hunan ac yn yr ysgrifbin.
Nation of Sanctuary
We are ready to welcome you
to give you all we've got
culture - languages - talk your mother tongue
& I will perfect the lullabies of loved ones.
Come let's start by getting you warm
this is from my mam's mam
barróg, dóibh siúd go léir a bhí le teacht
a hug, to all those who were to come.
I found a new hack for rarebit - using sourcrout
start on that before your cawl
then tea full of honey
@ this micro-macro intersection.
Please take this cwtch
then list everything you need
to feel
home.
Wedi’ch ysbrydoli? Beth am edrych am ddelwedd yn y casgliad sy’n tanio rhywbeth ynoch chi ac ysgrifennwch amdano, gallwch ysgrifennu darn o farddoniaeth, gair llafar, neu hyd yn oed ei droi’n gân.
Bydden ni wrth ein bodd yn gweld eich ymdrechion – rhannwch nhw gyda ni drwy e-bostio sean.kenny@amgueddfacymru.ac.uk