DYSGU

Kyle Legall
14 Mawrth 2024

Dylunio a Stensil - Super Furry Animals

Kyle Legall

14 Mawrth 2024 | Minute read

 

 

Mae celf stensil yn rhywbeth mae’r Artist Kyle Legall yn arbenigwr ynddo, edrychwch ar y canllaw cam wrth gam i weld sut aeth ati i greu'r darn hwn sy’n darlunio’r band Super Furry Animals.

 

Deunyddiau

Fe wnes i ddefnyddio paent chwistrell Montana. Plastig tenau, papur, cerdyn neu finyl a chyllell grefft syml, rydw i wedi’i lapio â phadin dros y blynyddoedd i’w gwneud hi’n fwy cyfforddus ac ergonomig. Y rheswm pam rydw i’n torri stensiliau yw fel bod modd eu hailddefnyddio dro ar ôl tro. Mae’n well gen i ddeunydd finyl trwm i greu stensil, oherwydd mae papur yn gallu bod yn frau gyda dyluniadau cymhleth. Ond yn dibynnu ar sawl gwaith rydych chi’n dymuno defnyddio stensil, bydd papur neu gerdyn yn gwneud y tro. Awgrym da: defnyddiwch gyllell grefft finiog, os byddwch yn gwneud camgymeriad ac yn torri drwy eich stensil ar ddamwain, gallwch bob amser ddefnyddio tâp gludiog i’w drwsio! A bydd hyn yn cryfhau eich stensil mewn rhai achosion.

Cam 1. Dewis llun

Ces i fy ysbrydoli wrth feddwl am wneud rhywbeth cyfoes, fel clawr albwm ar gyfer band roc a rôl o Gymru. Yn gyntaf fe wnes i edrych ar y llun o'r band a dynnwyd gan Sophie Keyworth Ro’n i’n meddwl sut y gallen i ail-greu rhywbeth sy’n defnyddio fy steil i o gelfyddyd. Roedd y llun yn un tawel iawn gyda'r band yn eistedd yn aros am eu gig. O wybod am y Super Furry Animals a’u cerddoriaeth, ro’n i am ychwanegu deinameg y perfformiad llwyfan byw i fy nyluniad rhywsut, heb newid y ddelwedd yn ormodol. Wrth wylio eu fideos cerddoriaeth cefais fy ysbrydoli gan y gwisgoedd Super Furry Yeti maen nhw’n eu gwisgo i orffen eu sioe, ac ro’n i’n meddwl y byddai hynny’n nodwedd wych i’w hymgorffori. Mae'n bwysig i fi ychwanegu fy nychymyg at beth bynnag rydw i’n ei ddarlunio.

Cam 2. Creu braslun o’r syniad fel dyluniad

Rydw i’n dechrau drwy fraslunio'r band, ond yn lle eu bod yn eistedd ar y soffa, rydw i'n tynnu llun ohonyn nhw ar eu traed gyda’u hofferynnau. Ar ôl creu siâp a dynameg eu hystumiau, rydw i’n gallu ychwanegu ffwr a manylion i’w gwisgoedd. Rwy'n defnyddio pensil glas ac yna unwaith rydw i’n hapus, rydw i’n creu amlinelliad gyda phen Sharpie du.

Cam 3. Amlygu'r llinell i greu stensil

Defnyddiwch Sharpie i greu llinell drwy ddargopïo eich braslun gwreiddiol mewn lliw du. Ar y cam yma, rydw i’n gallu cywiro unrhyw gamgymeriadau rydw i wedi’u gwneud yn y llun, er enghraifft osgo a manylion. Ar ôl cwblhau’r llinell, bydd modd i chi weld sut olwg fydd ar y stensil terfynol.

Cam 4. Torri’r gofod negyddol allan

Roedd hwn yn lluniad llinell cymhleth iawn, does dim rhaid i bob dyluniad llinell fod mor denau â hyn. Gallech ddewis llinell dewach yn eich llun, a fydd yn ei gwneud hi’n haws i dorri’r siâp. Ond y syniad yw torri allan y llinell ddu gan adael bylchau fel nad yw’r stensil yn torri’n ddarnau. Mae hon yn broses anodd iawn, ond gydag amynedd a llaw gadarn fe ddaliais ati. Mae'n bwysig nad ydych yn torri'r llun cyfan allan oherwydd bydd y stensil yn torri’n ddarnau fel arall. Rydw i wedi darganfod techneg lle nad yw'r llinellau byth yn cyffwrdd â'i gilydd. Felly, er enghraifft, rydw i’n gallu tynnu llun o fraich y cymeriad, ond gan fod yn ofalus i beidio â thorri'r fraich gyfan allan, rydw i'n gadael bylchau fel bod y llinell yn cael ei thorri allan yn weladwy ond yn dal i fod ynghlwm wrth gorff y llun, felly dydy’r toriad ddim wedi’i gwblhau i bob pwrpas, fel eich bod yn gwneud tyllau yn hytrach na thorri.

Cam 5. Chwistrellu paent ar y stensil

Ro’n i’n gallu dewis arwynebau gwahanol i baentio arnyn nhw. Fy newis arferol yw crys-T gwyn plaen gan fod y lliwiau'n sefyll allan yn fwy llachar, yn fwy bywiog ac yn cadw eu lliw am gyfnod hirach. Fe wnes i hefyd ddewis cadair droi ddu i ddangos technegau a gorffeniadau gwahanol ar arwynebau eraill, yn hytrach na chynfas arferol, gan fod graffiti yn cael ei baentio yn y llefydd mwyaf rhyfedd. Gan roi fy stensil yn ofalus ar fy arwyneb rydw i'n mynd i baentio, gan wneud yn siŵr nad oes dim o'r ochrau yn sticio allan neu wedi’u plygu. Yna rydw i'n dewis lliw golau i wneud fersiwn cyflym o fy nyluniad. Yna dwi'n codi'r stensil ac yn lliwio'r cymeriadau yn llawrydd, gan ddefnyddio ychydig o gerdyn i guddio’r paent wrth i fi weithio. Unwaith y bydda i’n hapus gyda hynny, rydw i'n rhoi'r stensil yn ôl ar ei ben, yn yr un lle gan baentio amlinelliad du i orffen y gwaith.

 

Share


More like this