Erioed wedi meddwl beth sy'n digwydd tu ôl i'r llen yn Amgueddfa Cymru, a sut mae'r timau Cadwraeth yn edrych ar ôl y casgliad celf cenedlaethol? Dewch i ddysgu am eu prosesau, y cit maen nhw'n ei ddefnyddio, a sut ddaethon nhw at eu gwaith fel Cadwraethwyr. Mae'r byd cadwraeth yn aml yn teimlo rywbeth estron i nifer. Yma mae Kitty a Sarah yn ein gwahodd ni i'r stiwdio i weld beth allen nhw fod yn gweithio arno mewn diwrnod. Ydych chi wedi'ch ysbrydoli eto?
Am wylio’r fideo gydag isdeitlau? Cliciwch ‘CC’ ar y fideo i ddewis gwylio gydag isdeitlau [closed captions].