DYSGU

Glyn Price
1 Gorffennaf 2024

Ein Byd: Gweithgaredd Paentio

Glyn Price

1 Gorffennaf 2024 | Minute read

Cafodd Glyn Price ei ysbrydoli gan y thema Ein Byd ar Celf ar y Cyd, a fel rhan o’r gweithgaredd yma mae Glyn yn eich gwahodd i ddarganfod y byd o’ch cwmpas, gan gymryd sylw o beth yn yr ardal sy’n eich ysbrydoli. Darllenwch y camau i’ch helpu chi i greu eich darn o gelf eich hun wedi ei seilio ar eich ardal leol.

Ein Byd: Ymateb i'r tirlun a'r byd o'n cwmpas

Gweithgaredd 5 cam i’ch ysbrydoli i greu darn o gelf gwreiddiol o’ch byd chi.

Chwiliwch am ysbrydoliaeth gan ddarn o waith celf neu arddull sydd yn y casgliad. Wedyn atebwch drwy ddefnyddio’ch iaith ac arddull eich hunain i greu darn o gelf o’ch ardal a’ch cynefin.

Cam 1: Dysgu

Edrychwch ar ddarn o waith celf gan yr artistiaid gweledol o’r casgliad – oes yna artist neu arddull sydd yn tynnu eich sylw?

Cam 2: Bod yn actif

Crwydrwch yn yr awyr agored, yn eich ardal, eich cynefin, a’r byd o’ch cwmpas er mwyn hel syniadau ar gyfer creu eich darn o gelf gwreiddiol eich hunain.

Cam 3: Cymryd sylw

Ymatebwch i beth sydd yn eich diddori yn yr awyr agored. Gall hyn fod yn dirlun, adeiladau neu unrhyw beth yn y byd o’n cwmpas. Tynnwch lun gyda chamera, creu sgets sydyn neu gymrwch sylw drwy eistedd a chymryd eich amser.

Cam 4: Cysylltu

Meddyliwch am greu darn gorffenedig sydd yn adeiladu ar y gwaith ymchwil, y sgets neu’r ffotograff. Edrychwch yn ôl ar y dysgu o ‘cam 1’ er mwyn datblygu'ch arddull eich hunain drwy arbrofi.

Cam 5: Creu

Gwnewch ddarn o gelf gwreiddiol sydd yn bersonol i chi drwy ymateb i’ch cynefin. Cofiwch ddefnyddio eich arddull a’ch iaith eich hun i sicrhau eich bod yn mwynhau.

Esiampl o'r broses

1. Ymchwiliwch a dysgwch am ddarnau o gelf yn y casgliad cenedlaethol, er enghraifft, Castell Dolbadarn gan William George Jennings:

Dolbardarn Castle
JENNINGS, William George
© Amgueddfa Cymru

2. Byddwch yn actif a mynd allan i’r awyr agored – ‘eich byd chi’.

3. Cymerwch sylw drwy archwilio eich cynefin, drwy wneud sgets neu dynnu llun gyda chamera.

4. Cysylltwch drwy archwilio arddulliau gwahanol a meddwl ymlaen am greu gwaith gorffenedig.

5. Crëwch eich gwaith celf gwreiddiol eich hun o’ch byd chi.

PRICE, Glyn, Castell Dolbadarn © Glyn Price

Castell Dolbadarn – Glyn Price (2023), dyfrlliw 

Am yr artist

Amdanaf fi: Glyn Price

Swyddi: Arlunydd tirluniau, Tiwtor Celf, Gweithiwr Cymorth Ieuenctid 16-25

Ble allwch chi weld fy ngweithiau celf: Instagram @glynprice; Facebook CELF GlynPrice ART; a fy ngwefan www.glynprice.com

Fy hoff artistiaid: William Turner, Van Gogh, Kevin Sinnott a'r Argraffiadwyr

Datganiad Artist:

"Mae’r broses o greu fy ngwaith celf yn cychwyn tra rwyf allan yn yr awyr agored, yn cerdded gyda fy ffrindiau a fy nheulu yn ardal Eryri. Mae gen i ddiddordeb mawr yn siâp y tirlun, y lliwiau a’r golau. Rwy'n ymateb i'r tirlun drwy ddefnyddio fy iaith fy hun. Yn fy stiwdio byddaf yn cael y cyfle i archwilio’r broses a creu darnau o gelf o’r galon, o lefydd sydd yn golygu rhywbeth i mi. Rwyf eisiau ysgwyd pobl i wneud y mwyaf o beth sydd gennym yma yn barod yng Nghymru, drwy ddefnyddio fy angerdd, egni a balchder drwy broses greadigol.

Dyma fy nhir i, mae gen i wreiddiau yma a dyma lle rwy'n byw ac un diwrnod byddaf yn gorffwys. Yn y cyfamser mae gen i waith i'w wneud. Rwyf yn y tir ac mae’r tir ynof i."

Share


More like this