DYSGU

Bedwyr Williams
18 Hydref 2024

Her Y Gorwel - Bedwyr Williams

Bedwyr Williams

18 Hydref 2024 | Minute read

I gyd-fynd â dangosiad fy ngwaith ffilm Tyrrau Mawr yn yr Amgueddfa yng Nghasnewydd rydw i’n creu llun panoramig arbennig (ddim yn annhebyg i’r gêm lle mae un person yn tynnu llun pen, a’r nesa yn ychwanegu y corff a.y.y.b.) Bydd hwn yn lun grŵp a'r unig beth sydd angen bod yn gyson ymhob tamaid o’r llun ydi'r gorwel fel bod yr holl luniau yn cysylltu i greu panorama.

Dw i wedi dechrau drwy greu dinas lan y môr ddyfodolaidd rhywle yng ngogledd Cymru. Mae’r gorwel union hanner ffordd i fyny’r darlun sgwâr a dyma’r man cychwyn i bawb arall greu eu dinasoedd abswrd neu ryfeddol eu hunain. Dinasoedd ddyfodolaidd. Pa fusnesau fydd yno? Meddyg traed drive thru neu ganolfannau trwsio androids efallai. Dylai eich llun chi fod â gorwel yn yr un lle ond heblaw am hynny fe all y dref neu'r ddinas rydych chi'n ei dychmygu fod mor dros ben llestri neu mor gysglyd ag y dymunwch. Gallwch dorri rheolau cynllunio a does dim angen poeni am chwaeth. Anfonwch y lluniau at contact@celfarycyd.cymru ac mi fyddwn ni yn datgelu’r rhes annhebygol hon o ddinasoedd ddyfodolaidd yng Nghymru.

Share


More like this