DYSGU

Sioned Young, Mwydro
28 Mawrth 2025

Dylunio GIFs Cymraeg

Sioned Young, Mwydro

28 Mawrth 2025 | Minute read

Sefydlwyd Mwydro, busnes bach wedi'i leoli yng Nghaernarfon gan Sioned Young yn 2019. Mae Mwydro yn arbenigo mewn dylunio GIFs, Gweithdai a Fideo Ffurf-Fer, felly roedden ni’n awyddus i’w holi am ei gwaith!

Pam benderfynaist ti fynd ati i greu busnes animeiddio?

Busnes yn creu cardiau cyfarch oedd Mwydro yn wreiddiol. Ond yn ystod y cyfnod clo wrth geisio hyrwyddo fy nghynnyrch ar gyfryngau cymdeithasol sylweddolais fod yno prin ddim GIFs iaith Gymraeg ar gael i mi ddefnyddio i fy nghefnogi fy ymdrechion marchnata, felly dyma fi’n meddwl pam lai ateb y bwlch yn y farchnad a dysgu fy hun i greu GIFs Cymraeg i bawb eu defnyddio! Mewn amser datblygodd hynny i fusnesau yn fy nghomisiynu i greu GIFs yn arbennig i’w brand nhw.

Erbyn hyn dwi wedi dylunio bron i 1,000 o GIFs o eiriau, dywediadau ac Enwau Lleoedd Cymraeg sydd wedi’i gweld dros 190 miliwn o weithiau.

O ble wyt ti’n cael dy ysbrydoliaeth?

Gyda’r GIFs iaith Gymraeg, yn aml fy nghynulleidfa yw fy ysbrydoliaeth. Dwi wastad eisiau creu GIFs sydd o ddefnydd iddyn nhw felly’n aml yn holi am awgrymiadau ar Instagram Stories neu’n achlysurol yn dylunio GIFs yn fyw ar Instagram Live a’n creu GIFs yn y fan a’r lle yn ddibynnol ar beth yw’r cais.

Fel arall, mae Cymru a fy milltir sgwâr yn chwarae rhan fawr yn fy ysbrydoliaeth hefyd. Dwi wedi bod yn ffodus o gael fy nghomisiynu i arwain ar sawl prosiect dylunio arwyneb i fusnesau bach ac mae ‘na hunaniaeth Gymreig i fy holl waith dylunio, o batrymau brethyn Cymreig ar gynnyrch i gwmni Silver Cuddles, neu ddehongliad modern o’r wisg draddodiadol Gymreig yn fy nyluniad o Ferched Cymraeg ‘Dilys, Siân ac Elsi’ i gwmni Clyd.

Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am dy waith?

Dwi’n caru bod pob diwrnod yn y busnes yn wahanol a’n aml iawn tydi o ddim yn teimlo fel gwaith. Dwi’n aml yn meddwl yn ol i fi fel plentyn yn creu delweddau cartwns ar ol ysgol, a pheth rhyfedd a chyffrous yw gallu dweud erbyn hyn bod hynny’n rhan o fy ngwaith!

Pa brojectau wyt ti fwyaf balch ohonyn nhw?

Yng Ngorffennaf 2022 mi wnes i ennill grant drwy brosiect #HacYGymraeg Llywodraeth Cymru ac M-SParc i ariannu peilot o brosiect i fynd allan i ysgolion yn dysgu plant i ddylunio GIFs Enwau Lleoedd Cymraeg eu hunain. Roedd y prosiect peilot a bu’n rhedeg o Fawrth - Gorffennaf 2023 yn hynod lwyddiannus, gan roi cyfle gwerthfawr i bobl ifanc ddatblygu sgil newydd ond hefyd defnyddio celf i adnabod gwerth defnyddio a gwarchod Enwau Lleoedd a’r iaith Gymraeg.

Mae’r prosiect wedi parhau tu hwnt i’r cyfnod peilot a dwi bellach wedi ymweld â dros 50 o ysgolion sydd wedi creu dros 400 o GIFs Enwau Lleoedd Cymraeg. Dwi hefyd wedi cael y cyfle drwy’r prosiect i gyflogi fy aelod cyntaf o staff, sef y cerddor a dramodydd Tesni Hughes. Mae hi’n deimlad braf gallu rhoi yn ôl a helpu Tesni ar gychwyn ei gyrfa gyda llu o brofiadau hwyl a gwerthfawr.

Beth yw’r her fwyaf wrth weithio fel dylunydd graffeg?

Fi yw’r unig berson o fy nheulu a fy nghylch ffrindiau i ddod yn hunangyflogedig felly roedd meistroli’r hanfodion o redeg busnes yn anodd ar y cychwyn. Fel Llawrydd Ifanc mi wnaeth estyn allan am help i gynlluniau megis Syniadau Mawr Cymru a Llwyddo’n Lleol gwneud byd o wahaniaeth mewn datblygu fy nealltwriaeth a hyder yn yr ochr ymarferol o redeg busnes llwyddiannus.

Pa gyngor sydd gennyt ti ar gyfer rhywun sydd am fentro yn y maes?

Paid ag bod ofn llunio a dilyn llwybr dy hun! Pan wnes i gychwyn fy musnes oeddwn i’n teimlo’n ddihyder gan fy mod i’n artist hunan-addysgiedig a’n rhedeg fy musnes yn rhan amser. Mewn amser dwi wedi dod i ddysgu bod siwrne pob artist yn un unigryw a bod mentro i fynd amdani a bod yn greadigol yn gymaint gwell defnydd o’m hamser na chymharu fy hun i eraill.

WPan dwi’n arwain fy ngweithdai yn yr ysgolion a’n rhannu gyda’r plant fy mod i wedi dysgu fy nghrefft o wylio ‘tutorials’ ar TikTok a YouTube yn ystod y cyfnod clo mae hi’n meddwl y byd gweld y plant yn cael eu hysbrydoli o hynny, gan wybod gall unrhyw un o unrhyw gefndir a gallu fod yn artist.

Share


More like this