NASH, David, Cyfres Wooden Boulder © David Nash. Cedwir Pob Hawl. DACS 2025/Amgueddfa Cymru
Mae David Nash (1945-) yn byw ac yn gweithio ym Mlaenau Ffestiniog. Dyna lle cafodd ei 'gerflun rhydd' mwyaf anarferol ei greu. Cerfiwyd Wooden Boulder o dderwen ym 1978, a chychwynnodd ar daith epig anfwriadol i lawr Afon Dwyryd, cyn teithio allan i ddyfroedd agored.
Am flynyddoedd, bu David Nash yn monitro ac yn dogfennu taith y cerflun, tan fis Awst 2015, pan achosodd glaw trwm lanw anarferol o uchel a symud y cerflun o’r man a oedd yn ymddangos fel cartref parhaol iddo ym mhen uchaf aber Afon Dwyryd. Does neb wedi'i weld ers hynny, ac mae ei leoliad yn y dirwedd eto i’w ailddarganfod.
Ar gyfer y gweithgaredd hwn, rydw i wedi dewis gwaith David Nash gan fod gen i ddiddordeb mewn sut mae tirnodau yn caniatáu i bob un ohonon ni deimlo'n gyfarwydd yn ein hamgylchedd a chysylltu ag e. Boed yn garreg rydych chi wedi arfer ei gweld bob dydd, yn goeden, yn llyn, neu’n fynydd ar y gorwel – pob math o dirnodau personol sy'n cadarnhau ein perthynas a'n cysylltiad â'r tir.
I fi, y tirnod hwnnw yw carreg fawr yn y pentref lle cefais fy magu, a lle nad ydw i’n byw bellach. Mae wedi bod yno ers i fi gofio, a phryd bynnag rydw i’n ymweld â fy rhieni, rydw i'n hoffi mynd i weld fy ngharreg hefyd. Mae'n gwneud i fi feddwl am fy ngorffennol, fy ffrindiau, am yr anturiaethau a gefais yn y caeau a'r coedwigoedd cyfagos, ac am gysondeb newid. Fel ‘carreg’ David Nash, mae fy ngharreg i hefyd wedi newid ei lleoliad, wedi i ffermwyr lleol ei symud o’r ffordd ychydig flynyddoedd yn ôl ar gyfer cynaeafu. Erbyn hyn mae'r garreg yn eistedd ar ymyl coedwig. Gallwch weld y lluniau rydw i wedi'u tynnu ohoni dros y blynyddoedd. Mae'n edrych yn wahanol bob tro, ond rydw i'n gallu ei hadnabod yn ddi-ffael.
Ar gyfer y gweithgaredd hwn, meddyliwch am eich tirnod eich hun. A oes rhywbeth yn eich amgylchedd sy'n gwneud i chi deimlo'n gartrefol yn syth? Nodwedd naturiol yn y dirwedd? Strwythur wedi'i wneud gan ddyn? Golygfa benodol? Llyn lle buoch chi'n pysgota gyda'ch tad-cu efallai? Hen goeden rydych chi'n mynd heibio iddi ar eich ffordd i'r ysgol?
Ewch ati i ddogfennu’r tirnod hwn, ar wahanol adegau, o wahanol onglau, mewn tywydd amrywiol. Drwy greu portffolio bach, byddwch yn adeiladu portread o'ch tirnod personol.
Meddyliwch am y ffyrdd hoffech chi ei ddogfennu. Roedd David Nash yn defnyddio ffotograffiaeth a darluniau, ond efallai y byddai'n well gennych chi baentio, neu ysgrifennu, neu ddefnyddio cymysgedd o gyfryngau efallai? Eich tirnod chi yw hwn a chi sy’n cael dewis sut i adrodd ei stori.
IWANOWSKI, Michal, Carreg Fawr ©
Michal IwanowskiEich tro chi yw hi nawr.
Dilynwch y camau hyn:
- Dewch o hyd i’ch tirnod personol.
- Ar ôl penderfynu, meddyliwch am sut hoffech ei ddogfennu, sut i'w gynrychioli orau. Drwy ffotograffau ar eich ffôn symudol neu gamera SLR? Braslunio? Paentio? Ysgrifennu? Cerfio? Beth bynnag fo'r cyfrwng, paratowch eich cit.
- Gwnewch gynllun o sawl gwaith byddwch chi’n ymweld â’ch tirnod, a sawl gwaith byddwch chi’n ei ddogfennu. Gosodwch nod realistig, efallai rhwng 4 ac 8 gwaith? Meddyliwch sut mae'r tirnod yn newid yn ôl amodau golau a thywydd. Cynlluniwch ymweliadau yn y bore a’r nos, ar ddiwrnod heulog a diwrnod diflas, ac ati. Efallai y byddwch chi’n dewis gwneud pob ymweliad o fewn wythnos, neu efallai dros gyfnod llawer hirach, fel blwyddyn gyfan? Does dim brys.
- Ar ôl i chi gwblhau eich gwaith dogfennu, meddyliwch am ffordd i'w gyflwyno. Os mai cyfres o ffotograffau/lluniadau/paentiadau sydd gennych chi, efallai y byddai llyfryn bach yn syniad da? Byddai modd ei droi’n llyfryn digidol fel PDF, neu ei argraffu. Gall hefyd fod ar gael ar-lein ar eich cyfrif Instagram neu blatfform arall.
- Y cam olaf yw ei rannu gyda ni. Rydyn ni’n awyddus iawn i weld eich tirnod personol.