Dechreuodd Croen Siwgr fel archwiliad o'r cysylltiadau rhwng y diwydiant llechi, ystâd Penrhyn a Jamaica.
Cefais fy ysbrydoli gan ymchwil Dr Marian Gwyn, yn benodol yr hyn a ddysgwyd am ideoleg a meddyliau pobl y planhigfeydd ar y pryd. Cafodd yr esgusodion a roddwyd am ddiffyg llwyddiant rhaglenni bridio menywod gafodd eu caethiwo effaith arnaf. Roeddwn i am edrych yn fanylach ar ba mor hawdd yw cuddio neu beidio â siarad am bethau. Mae ychwanegu'r pigment sy'n dangos yn y tywyllwch at y siwgr yn dangos bod yr olion yno o hyd (i'w gweld yn amlwg) hyd yn oed os nad ydyn ni'n gallu eu gweld yng ngolau dydd.
Hydref 1804, mae Richard Pennant yn ysgrifennu at ei asiant: ‘It seems surprising that … 229 field women besides house women and the others should produce only 11 children’. (Archifau Prifysgol Bangor, Penrhyn 1329)
Mae'r Asiant yn ysgrifennu ym mis Hydref 1805: ‘… their own imprudences in going out visiting at night the neighbouring estates, consequently colds, obstructions, other maladies that women are subject to ensure, which are enemies to procreation… I did endeavour to persuade all my people … to do away with that rambling at night but I found it a tiresome and arduous task and gave it up as a bad job.’ (Archifau Prifysgol Bangor, Penrhyn 1355)
Mae'r project wedi bod yn gysylltiedig â fy nhreftadaeth fy hun fel menyw o dras Caribïaidd. Roedd The Rush gan Olympia Vitalis yn ddarn anhygoel o gerddoriaeth i weithio gyda hi; mae'r geiriau'n archwilio'r Windrush a sut mae wedi effeithio ar y cenedlaethau a ddilynodd. Roeddwn i eisiau wynebu'r gorffennol a dangos na ellir ei adael heb ei ddadorchuddio – mae angen ei wynebu a siarad amdano mewn gwahanol ffyrdd.
‘I don’t wish the negroes and cattle to be overworked.’ Richard Pennant (Archifau Prifysgol Bangor, Penrhyn 1332)
Dydw i ddim wedi gwneud llawer o berfformio fy hun, mae tu hwnt i fy ngofod cysurus i fel artist. Roedd dewis creu dan o gelf berfformio yn cydnabod y ffaith fod yn rhaid i ni gamu tu hwnt i'n gofodau cysurus weithiau, a bod creadigrwydd ar ei orau pan fyddwch chi wedi teimlo'n anghysurus fel yna. Mae yna deimlad o ryddid, eiliad 'o, dwi'n gweld', a gellir creu pethau mewn ffordd gwbl newydd. Os ydw i'n fodlon cymryd risg, gall pawb arall hefyd. Roeddwn i eisiau dathlu bod dawns a symudiad yn rhan greiddiol o'r diwylliant Du a'u bod wedi dod â Phobl y Mwyafrif Byd-eang at ei gilydd. Roeddwn i'n benodol eisiau cynnwys penddelwau siwgr o mi fy hun i'w datgymalu oherwydd mae wedi bod yn daith o ddarganfod fy hun, yn ogystal â'r gwaith ymchwil a'r sgyrsiau sydd wedi deillio o'r project.
Mae Croen Siwgr yn rhan o Safbwynt(iau), sef project ar y cyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru gyda’r bwriad o weddnewid sut mae’r sector treftadaeth a chelfyddyd weledol yn adlewyrchu amrywiaeth diwylliannol ac ethnig ein cymdeithas. Cefnogir y project gan Lywodraeth Cymru fel rhan o ymdrech i gyflawni amcanion diwylliant a threftadaeth y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
VIOLET, Jasmine, Croen Siwgr © Jasmine Violet / Amgueddfa Cymru