05.07.2025 - 31.08.2025
Mae’r arddangosfa hon o dorluniau leino, ysgythriadau, darnau cerameg, ac ysgyfarnog efydd yn amlygu ystod ryfeddol cynnyrch Barry Flanagan, ei natur arbrofol ac, ar yr un pryd, diddordeb hynod o gyson a heriol yn hanfod defnyddiau a phroses. Cydweddwyd y fath chwilfrydedd gan ffraethineb chwareus a pharhaus Flanagan.
Ganed Barry Flanagan ym Mhrestatyn ym 1941 ac aeth ei gyrfa artistig ag ef i fannau ledled y byd. Mae’r arddangosfa hon yn ddychweliad i ogledd Cymru.
Mewn cydweithrediad ag Ystâd Barry Flanagan.
Amgueddfa Cymru
FLANAGAN, Barry
© Ystâd Barry Flanagan. Cedwir Pob Hawl 2025/Bridgeman Images/Amgueddfa Cymru
