Mae Edward Burne-Jones yn ddrwg i’ch iechyd – neu dyna oedden nhw’n ei ddweud. Roedd rhai cyfoeswyr yn gweld olion gwyredd rhywiol, salwch a chlefyd yn ei waith. Artist y rhyfedd. ‘Pan fyddai pobl yn rhoi eglurhad am Burne-Jones i fi amser maith yn ôl,’ ysgrifennodd y beirniad Ffrengig Octave Mirbeau ym 1896, ‘bydden nhw’n dweud: ‘Sylwch ar yr hematoma o amgylch y llygaid: mae’n unigryw mewn celf. Ni ellir dweud a yw wedi’i achosi gan hunan-niweidio neu arferion lesbiaidd, gan gariad naturiol neu dwbercwlosis.’1
Mae gan Amgueddfa Cymru gyfres o bedwar ffoto-engrafiad – atgynhyrchiadau printiedig o baentiadau Legend of Briar Rose gan Burne-Jones ym Mharc Buscot, Swydd Rydychen – yn seiliedig ar stori dylwyth teg y Rhiain Gwsg. Pedair ennyd o stori dylwyth teg, mewn monocrom melfedaidd. Darnau ymylol yw’r rhain – nid ffotograff nac ysgythriad, ond rhywbeth arall, rhywbeth rhyfedd, rhywbeth rhwng popeth. Arwynebau matte, cysgodion tywyll; ffocws meddal fel ymylon cwsg. Prydferth, ond hunllefus hefyd, ac – fel pob stori dylwyth teg dda – erchyll. Wedi’u hargraffu ym 1892 gan gwmni Thomas Agnew a’i Feibion dan arweiniad Burne-Jones, y bwriad oedd y byddent yn gofroddion i ddiwallu’r galw cyhoeddus am atgynhyrchiadau o’i baentiadau Briar Rose poblogaidd
Mae’r delweddau’n dangos Tywysog yn darganfod y Castell Brenhinol hudolus, sydd o dan swyn o 100 mlynedd o gwsg. Mae rhosod wedi tyfu’n wyllt ac yn drwchus dros y Castell dros amser. Mae’r ferch hardd hudolus mewn trwmgwsg rhyfedd; ei chorff wedi’i osod fel pe bai ar lechen mewn marwdy ond gyda’i chorff ar ogwydd. Mae ei breichiau’n anystwyth wrth ei hochr, ei hwyneb wedi plygu tuag aton ni. Dyw hi ddim yn fyw nac yn farw, ddim yn y byd hwn nac yn y byd arall, mae hi’n bodoli yn rhywle arall, yn rhywle rhyfedd, rhywle rhwng dau fyd.
Ac felly, dyma sut rydych chi’n ein canfod ni. Mewn cwsg llwyd. Yn breuddwydio am ddeffroad, rydyn ni’n aros.
Mae Edward Burne-Jones yn aml yn cael ei ddisgrifio fel breuddwydiwr. Yn gysylltiedig â’r mudiad Esthetig, gyda’i arwyddair enwog ‘celf er mwyn celf’, mae rhai yn dal i weld ei weithiau fel ffantasïau chwedlonol: arall-fydoedd hudolus a oedd yn cynnig seibiant o realiti bywyd yn Oes Fictoria. Erbyn heddiw, mae llawer o haneswyr celf yn ceisio chwalu’r myth hwnnw, gan ddangos sut mae gwleidyddiaeth, sylwebaeth gymdeithasol a phrofiad dynol bob dydd wedi’u cyd-blethu’n ddwfn yn ei waith. Yn Interlacings (2008), mae Caroline Arscott yn dadlau dros ddull corfforedig o ymdrin â’i waith. Mae hi’n honni bod ei baentiadau yn cyfleu pryder ynghylch breuder y ffurf ddynol, ac mae hi’n cysylltu hynny â’i bryderon ynghylch ei gorff a’i iechyd ei hun.
Drwy gydol ei oes roedd Burne-Jones yn dioddef ‘pyliau’ nad oedd yn gallu cael diagnosis yn eu cylch – diffyg egni, cur pen, llewygu, blinder, iselder ac anhunedd – a oedd, er mawr rwystredigaeth iddo, yn aml yn ei atal rhag gwneud ei waith. Wrth weithio ar y paentiadau mwy o Briar Rose, roedd yn dod yn fwyfwy ymwybodol ei fod yn heneiddio ac yn bryderus ynghylch dirywiad ei gorff: mae Kirsten Powell yn nodi ei fod yn ofni y byddai’n marw cyn i’r gyfres gael ei chwblhau. Mewn rhai ffyrdd, gellid dweud ei fod wedi datblygu ymwybyddiaeth gynyddol o’r berthynas rhwng amser allanol a’i gloc biolegol ei hun.
Mae byw gyda salwch cronig yn golygu datblygu perthynas unigryw gydag amser: rydyn ni’n galw hyn yn ‘amser crip’. Mae’r term ‘amser crip’ yn deillio o ddamcaniaeth crip, ac adferiad radical y gair ‘cripl’ gan ymgyrchwyr anabledd yn y 1970au. Mae’n disgrifio’r ffyrdd unigryw mae pobl â salwch cronig a phobl anabl yn delio ag amser. Yn Feminist, Queer, Crip, mae Alison Kafer yn nod bod amser crip yn gofyn am ailddychmygu ein syniadau o beth all ddigwydd a beth ddylai ddigwydd mewn amser, neu gydnabod sut mae disgwyliadau o ‘ba mor hir mae pethau’n ei gymryd’ yn seiliedig ar feddyliau a chyrff penodol iawn.
Rwy’n byw gyda chyflwr sy’n achosi i fy lefelau egni amrywio – sy’n gyffredin i bobl â salwch cronig. Mae rhai yn ei ddisgrifio fel byw ar fatri sy’n draenio’n hawdd ac nad yw’n gallu dal ei wefr. Mae fy nghorff yn llithro’n hawdd i fath o gysgadrwydd cyntefig – yn drwm, ond nid yn orffwysol. Yn y cyfnodau cynnar, rwy’n cofio dod yn ymwybodol iawn bod y byd y tu allan yn symud ar gyflymder nad oedd yn cyd-fynd â fy ffordd newydd o fod. Roeddwn i’n byw mewn amser crip, a fy mhrif flaenoriaeth oedd goroesi.
Mae amser crip yn aflonyddwr / Rydych chi’n llifo i mewn ac allan o batrwm arferol y byd / Mae’n herio dealltwriaeth normadol o amser; yn torri ar draws, yn ymyrryd gyda’i resymeg ryfedd ei hun / Rydych chi’n cysgu pan ddylech chi fod yn effro, yn effro pan ddylech chi fod yn cysgu / Mae amser crip yn gwrthod y syniad y dylai ein cyrff orymdeithio i ofynion cloc cyfalafol didostur; mae’n cydnabod weithiau, bod rhai cyrff yn cymryd mwy o amser / Rydych chi’n symud gyda chlociau gwahanol, nawr. Rydych chi’n mesur amser fesul fflamychiad, cyntun, rhwymyn, apwyntiad, cramen, llwy. Pa mor gyflym y gallwch chi lenwi hen jar â naddion o’ch croen marw eich hun.
Yn nelweddau Briar Rose rwy’n gweld rhywbeth o fy mhrofiad fy hun o fyw mewn amser crip: rhyw fath o rwyg mewn disgwyliadau normadol o’r berthynas rhwng cyrff ac amser.
Yn ddwfn yn The Briar Wood, mae tywysog androgynaidd yn dod o hyd i gyrff pum marchog, yn cysgu ar y llawr. Eu gyddfau am yn ôl a’u hesgyrn cefn yn feddal, wedi’u clymu mewn drain – rhybudd. Ers pa mor hir maen nhw yma? Mae coeden rosod yn gwau o’u cwmpas, yn eu cylchu, gan eu rhwymo’n araf wrth iddynt gysgu ymhlith ei drain miniog. Dros amser mae wedi tynnu eu tarianau oddi ar eu cyrff; ac wedi’u hongian yn ei changhennau, fel tlysau gorfoleddus. Y tywysog, ar y chwith, yw’r unig un sy’n effro. Gyda llygaid gwydrog mae’n sefyll yn llonydd fel cerflun, a’i gleddyf yn llac wrth ei ochr – wedi syfrdanu efallai, neu’n myfyrio ar beth ddylai wneud nesaf. Ond ni all fforddio gwastraffu amser. Mae canghennau drain eisoes yn clymu o amgylch ei draed, fel nadroedd.
Rydych chi wedi bod yn gorwedd yn eich gwely ers amser – misoedd, munudau, blynyddoedd efallai – gyda chyflwr nad yw’n bodoli. Ac rydych chi’n gwybod nad yw’n bodoli oherwydd bod y meddygon yn dweud nad yw’n bodoli, oherwydd nad ydyn nhw wedi dod o hyd iddo eto. Cyflwr ffug, dirgelwch, medden nhw. Am ryfedd. Ond rydych chi’n bodoli, mae eich poen yn bodoli, ac felly rydych chi’n aros mwy i gael eich darganfod.
Mae amser crip hefyd yn amser rydych chi’n ei dreulio’n aros. Aros am apwyntiadau, aros am ganlyniadau. Aros i gael eich rhoi ar restrau aros. Aros am ddiagnosis, am driniaeth, am ymchwil feddygol i ddal fyny â’n cyrff. Mae rhai pobl yn gorfod aros yn hirach nag eraill. Y llynedd, canfu adroddiad ‘Waiting for a Way Forward‘ gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr fod dros hanner miliwn o fenywod, neu’r rhai a ddynodwyd yn fenywod adeg eu geni, yn aros i gael eu trin am gyflyrau fel ffibroidau, endometriosis, neu ofal menopos yng ngwledydd Prydain. Misogynistiaeth feddygol ar waith.
Rydych chi’n symud yn araf, yn arafach, wrth i chi aros i gael eich gweld tra bod y byd yn symud ymlaen yn gyflym, yn rhuthro o’ch cwmpas mewn dolenni tagu rhyfedd, tra eich bod chi’n dal i aros. Ac aros. Y tu mewn i chi, mae briwiau a chreithiau’n tyfu’n drwchus yn ardal eich pelfis. Yn chwyddo, yn ail-lunio, yn rhwymo’ch organau at ei gilydd. Mae eich ofarïau bellach wedi glynu wrth wal eich croth, eglura’r meddyg. Wedi’u tynnu o fan hyn – i fan hyn – dros amser. Pryderus iawn, a chymhleth, ydy. Llawdriniaeth, adlyniadau, toriadau, sganiau. Poen endometriaidd fel cwlwm trwchus o ddrain. Dannedd miniog yn tyllu meinweoedd tyner. Ac unwaith eto, rydych chi’n aros.
Mae endometriosis yn effeithio ar 1 o bob 10, ac mae ar restr y GIG o’r 20 cyflwr iechyd mwyaf poenus, ond mae’n cymryd saith mlynedd ar gyfartaledd i gael diagnosis ffurfiol. Yn y cyfamser, mae’r clefyd yn gwaethygu sy’n golygu, i lawer o fenywod, erbyn iddyn nhw gael diagnosis ffurfiol, bod y cyflwr wedi dod yn fwy difrifol a chymhleth i’w drin.
Fel pob stori dylwyth teg dda – erchyll.
Yn The Council Chambers, mae’r Brenin sy’n cysgu yn sigo ar ei orsedd yn dal i ddal sgrôl weinyddol, a’i gynlluniau ar gyfer y dyfodol wedi’u hatal am y tro. Mae mantell anystwyth o amgylch ei ysgwyddau sy’n ei ddal i fyny, a’i ben brenhinol yn plygu o dan bwysau’r goron. Mae swyddogion y cyngor yn cysgu ar y llawr, mewn pentwr o gyrff diegni. Ar fwrdd i’r dde mae awrwydr mawr, a thywod amser yn llonydd. Ond hyd yn oed yn y llonyddwch, mae yna symudiad o hyd, a thwf o hyd. Mae drain yn gwau o amgylch y cyrff mewn dolenni araf, diog.
Mae’r ddelwedd hon yn herio dealltwriaeth normadol o sut mae cyrff yn symud drwy amser: mae rhesymeg newydd rhyfedd yma. Yn Interlacings, mae Caroline Arscott yn nodi – fel yng ngherdd Alfred Tennyson The Day-dream – fod barf 100 mlwydd oed y Brenin yn ymestyn i lawr i’w lin, yn wyn fel yr eira, yn dal i dyfu er bod ei gorff yn segur, wedi rhewi mewn amser. I’r Fictoriaid, roedd barfau a blew corff yn arwyddion o ddoethineb ac iechyd.
Rydych chi’n gorwedd am oriau yn y bath. Stêm melys o rosod a lafant, dŵr hufennog gyda llaeth o’r fron a anfonwyd gan ffrind a ddarllenodd yn rhywle y gallai – efallai – helpu. Rydych chi’n trochi’ch pen o dan y dŵr, i weld am ba mor hir y gallwch chi ddal eich anadl. Mae eich calon yn arafu – yn araf – yn arafach. Rydych chi’n colli eich gwallt. Rydych chi’n trefnu’r llywethau tywyll ar ymyl y bath: fel caligraffi, yn gain, ond yn hunllefus hefyd. Rydych chi’n colli hen groen marw, mwy bob dydd. Mae naddion yn arnofio ar wyneb y dŵr, dotwaith o gelloedd. Mae eich corff yn lladd rhannau ohono’i hun er mwyn goroesi. Mil o farwolaethau bach i gynnal un bywyd. Y gadael fynd fel offrwm cysegredig: amnaid ysgafn tuag at dreigl organig amser.
Rhoddodd amser crip ddealltwriaeth newydd i fi o’r ffyrdd y mae’r corff yn symud drwy amser: rhyngweithiad cymhleth o dwf a dirywiad, ildio ac adnewyddu, ymostwng ac anghydffurfio. Mae rhai rhannau’n cael eu hatal er mwyn i eraill ffynnu: weithiau, mae symptomau newydd yn arwyddion. Doethinebau rhyfedd y corff ar sut i oroesi.
Rydyn ni bellach yn yr ardd yn The Garden Court. Mae chwe gwehydd yn cysgu, eu cyrff yn gorwedd ar ffynnon mewn gardd a gwŷdd pren. Mae rhosod gwylltion – a’u canghennau yn llawn blodau – yn eu hamgylchynu mewn dolenni rhydd, gan ddilyn siâp bwaog eu cefnau. Mae eu cyrff yn llipa ac yn drwm, ond mae eu traed noeth a’u breichiau wedi’u trefnu’n osgeiddig. Dwylo bale, traed cain: curiad y breichiau noeth. I’r dde, mae un o’r gwehyddion wedi’i phlygu ymlaen dros yr wŷdd, ei chorff fel siâp Z ddiog. A thaw ar y llafur.
Bydd angen i bob un ohonon ni, ar ryw adeg, oedi llafur ein bywyd, am nifer o resymau. Canser, covid, annwyd, cyflwr cronig. Galar, chwythu plwc. Weithiau dim ond i gael saib. Mae rhai seibiannau’n rhai dros dro, ac eraill am weddill ein hoes. Yn aml, mae’n llai o ‘saib’, ac yn fwy o symud ein hymdrechion a’n hegni i fathau eraill o lafur. Dod yn rhieni neu’n ofalwyr. Troi’n fewnblyg, er mwyn gofalu amdanon ni ein hunain. Ond mae economi heddiw yn dweud wrthon ni nad oes llawer o werth i gorff oni bai ei fod yn gwasanaethu cyfalafiaeth ac elw yn gyson. Ac mai ein prif bwrpas mewn bywyd yw gweithio’n gyflymach, yn galetach, ac yn fwy (am lai, llai, llai). Bod cyrff nad ydyn nhw’n gallu cadw i fynd yn werth llai, yn ddiwerth hyd yn oed.
Mae ymgyrchwyr Hawliau Anabledd wedi rhybuddio’n ddiweddar y gallai’r bil marw â chymorth newydd ym Mhrydain gael ‘effaith negyddol ddifrifol a dwys’ ar sut mae bywydau pobl anabl yn cael eu hystyried a’u gwerthfawrogi, gan atgyfnerthu ymhellach y syniad y gallwn wneud heb gyrff anabl pan nad ydyn nhw’n gweithio. Ond edrychwch ar y gwehyddion yma – eu cyrff wedi’u plygu a ddim yn gweithio dros dro. Edrychwch pa mor angenrheidiol, pa mor brydferth ydyn nhw. Bywyd er mwyn byw: a yw hynny’n syniad mor radical?
Bu Burne-Jones yn gweithio ar thema’r Briar Rose am ddegawdau. Roedd yn bwnc yr aeth yn ôl ato dro ar ôl tro, gan gynhyrchu sawl fersiwn wahanol – teils ceramig, paentiadau, printiau – obsesiwn parhaus a oedd yn aml yn ei lethu. Fel rhywun oedd yn ymwybodol iawn o heneiddio, roedd mewn rhai ffyrdd mewn ras a gychwynnodd ei hun yn erbyn cloc ei gorff ei hun. Ar yr un pryd, cofleidiodd arafwch y greadigaeth, gan ofalu am y manylion, y gweadau a’r arwynebau cymhleth; roedd ei waith yn brotest yn erbyn masgynhyrchu, yn weithred o ymroddiad i Gelf. Fel amser crip, mae’r gweithiau hyn yn awgrymu ffyrdd newydd o ddeall y berthynas rhwng cyrff ac amser. Trais araf yr aros. Yr harddwch yn yr hoe. Sut mae cyrff yn symud i’w rhythmau a’u rhesymeg eu hunain: y treiglau amser rhyfedd organig.
Gyda diolch i Kaite O’Reilly am adborth gwerthfawr ar ddrafft cynnar, fel rhan o Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad 2024-5, cyfle a drefnwyd gan Lenyddiaeth Cymru mewn partneriaeth â Chelfyddydau Anabledd Cymru.
Curadur, awdur ac ymchwilydd yw Steph Roberts y mae ei gwaith yn archwilio’r croestoriadau rhwng y celfyddydau gweledol, geiriau a chyfiawnder anabledd. Fel cyn Uwch Guradur Celf Hanesyddol yn Amgueddfa Cymru, mae hi bellach yn gweithio gydag artistiaid, amgueddfeydd, orielau ac eraill ledled Cymru a thu hwnt i herio a tharfu ar systemau sy’n allgáu, ac i amlygu naratifau a lleisiau sydd wedi’u hesgeuluso. www.stephcelf.co.uk.
References:
Anderson, A., Edward Burne-Jones The Perseus Series (Sansom & co, 2018)
Arscott, C., William Morris and Edward Burne-Jones: Interlacings (Gwasg Prifysgol Yale, 2008)
Kafer, A., Feminist, Queer, Crip (Gwasg Prifysgol Indiana, 2013)
Powell, K., ‘Burne-Jones and the Legend of the Briar Rose’ Journal of Pre-Raphaelite Studies (Mai 1986)
Samuels, E., ‘Six Ways of Looking at Crip Time’, Disability Studies Quarterly (Haf 2017)
1‘Les Artistes de l’âme’, Le Journal, 23 Chwefror 1896, dyfynnwyd yn Anderson, t.10
Cafodd y darn hwn ei gomisiynu gan CELF a Chelfyddydau Anabledd Cymru.