Mae Luned Rhys Parri yn gweld y potensial i bron popeth ddod yn rhan o waith celf. Mae darnau o gardfwrdd, ffoil, gwlân a phapur newydd ymhlith y deunyddiau y mae Luned yn eu crefftio'n fedrus yn olygfeydd tri dimensiwn chwareus a hiraethus sy'n disgrifio bywyd Cymru - fel yr oedd yr artist yn ei adnabod wrth dyfu i fyny ac fel y mae heddiw.
Yn y ffilm hon gan Pete Telfer, mae Luned yn siarad am ei gwaith Teulu o'i chartref a'i stiwdio yng ngogledd Cymru. Hunanbortread prin yw'r gwaith, ac mae'n dangos yr artist gyda'i gŵr a'i dau o blant yn eu cegin wrth y stôf. Gyda sylw nodweddiadol i fanylion bychain, mae Luned yn dod â'r ffigurau'n fyw i ni ac yn ein gwahodd i'w byd. Beth sy'n eich denu fwyaf i'r olygfa ddomestig hon? Yr offer coginio a grëwyd yn fanwl? Y parot, neu'r ci?
Dewch i ddysgu mwy am y darn a'r cyfnod hapus o fywyd teuluol sy'n cael ei gyfleu drwyddo.
Am gael gwylio gydag isdeitlau? Cliciwch ‘CC’ ar y fideo i ddewis gwylio gydag isdeitlau [closed captions].
Ymddangosodd Teulu yn yr arddangosfa Teulu Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth o Fawr - Fehefin 2024, ac mae'n rhan o'r casgliad celf yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.