Cyfansoddwyr o Eryri, yw Liam a Siôn, sydd bellach yn byw ym Machynlleth. Maen nhw’n sgwennu ac yn perfformio fel rhan o’r band Lo-fi Jones. Yma, maen nhw’n disgrifio’r broses o greu’r gân Bydd goleuni yn yr hwyr a gyfansoddwyd mewn ymateb i’r peintiad o’r un enw gan Lisa Eurgain Taylor. Digwydd bod, mi wnaeth Liam wneud Sylfaen Celf yng Ngholeg Menai gyda Lisa Eurgain, flynyddoedd yn ôl.

“Dechreuon ni’r broses drwy fynd i mewn i’r Llyfrgell Genedlaethol i edrych ar rai o’r darnau celf yn y casgliad, gan ddefnyddio ein ffonau symudol i dynnu lluniau o’r rhai wnaeth ddal ein sylw. Adra, wnaethon ni lunio rhestr fer o’r darnau roedden ni’n meddwl y gallen ni ymateb iddyn nhw’n reddfol, yn gerddorol ac o ran geiriau. Dechreuon ni gyfansoddi sawl cân mewn ymateb i wahanol weithiau celf o’n rhestr fer. Hwn oedd y trydydd a’r olaf o’r caneuon wnaethon ni gyfansoddi, a hwn oedd yr un wnaethon ni orffen. Mae ‘Bydd Goleuni...’ yn beintiad hynod drawiadol sy’n cipio tirwedd garw cyfarwydd Eryri’n feistrolgar, ac ar yr un pryd yn cyfleu ansawdd ethereal ac arallfydol. Rydyn ni’n teimlo ei fod yn cyfleu teimlad o obaith wedi’i asio â thristwch.
Ar ôl gwrando ar drac gan Gruff Rhys fel ysbrydoliaeth ychwanegol, wnaethon ni ddangos ffotograff o’r peintiad (o’r we) ar sgrin ein cyfrifiadur, a dechreuodd Liam chwarae cordiau atmosfferig, ethereal, seicedelig ar synth Korg. Wedyn, chwaraeodd Liam major sevenths ar y gitâr. Cychwynnodd y ddau ohonom ganu’r geiriau ‘Bydd goleuni yn yr hwyr’, a llifodd rhagor o eiriau a’r alaw allan o hynny. Fe wnaethon ni fyrfyfyrio harmoni uwchben y cordiau strymiog, ac roedd yr alaw i’w gweld yn datgelu ei hun yn naturiol ochr yn ochr â’r geiriau. Wnaeth y ddau ohonom fwydo syniadau am linellau a geiriau i mewn i’r pot creadigol, gyda Siôn yn cymryd yr awenau wrth grefftio’r canlyniad terfynol. Fe wnaeth nodiadau’r artist helpu i bennu’r themâu yn y gân: ‘byd sydd heb ei gyffwrdd gan ddynoliaeth – gwarchodwch y byd naturiol.’ Unrhywbryd aethon ni’n styc, edrychon ni ar y llun am ysbrydoliaeth. Mi wnaeth jetiau ymladd pasio dros ein pennau sawl gwaith yn ystod y broses, ac felly fe wnaethon nhw ddod yn rhan o’r gân. Mae'r ail bennill yn cyfeirio at gerdd o’r 19eg ganrif Aros Mae gan John Ceiriog Hughes, gan wyrdroi’r delweddau gwreiddiol i gyfleu’r gwrthgyferbyniad frawychus rhwng y peiriannau hyn a dirwedd hynafol Eryri.
Cychwynnon ni tua 3yh, ac ar ôl rhyw ddwy awr roedd y gân wedi’i gorffen. Y diwrnod wedyn recordion ni’r gân yng nghartref stiwdio Siôn gan ddefnyddio meddalwedd multitracking (Logic).
Mae’r ddau ohonom yn canu ar y trac. Rydyn ni’n cychwyn mewn unsain ac wedyn symud i harmoni dwy ran, gyda Siôn yn canu’r prif lais neu’r llais uwch, a Liam yn canu’r harmoni is. Liam wnaeth chwarae’r synth, gitâr a bas ar y trac. Ychwanegodd Siôn ragor o synthiau a seiniau eraill, a fo wnaeth cynhyrchu a chymysgu’r trac.”
Geiriau:
Bydd goleuni yn yr hwyr
Mae’n hawdd anghofio’n llwyr
O ddydd i ddydd
Beth sydd yn y pridd
O dan ein traed, yn yr aer ac yn y gwaed
Ac wrth i’r cwmwl cuddio’r copa
A’r glaw i lanhau’r clwyf
Pan ti’n teimlo fel rhoi’r gorau i bopeth
A fydd goleuni yn yr hwyr?
Aros mae’r mynyddau
Tawel gwylio megis cynt
Rhuo drostynt awyrennau
Trais peiriannau ar y gwynt
Yn y creigiau hen atgofion
Cyn dyn, a’i mentrau mawr
Ai niwl neu fwg o’r tanau
Sy’n gorchuddio’n llwybr nawr?
Ac wrth i’r cwmwl cuddio’r copa
A’r glaw i lanhau’r clwyf
Pan ti’n teimlo fel rhoi’r gorau i bopeth
A fydd goleuni yn yr hwyr?
Ac wrth i’r cwmwl cuddio’r copa
A’r glaw i lanhau’r clwyf
Pan ti’n teimlo fel rhoi’r gorau i’r ymdrech
Bydd goleuni yn yr hwyr.
Cafodd y darn hwn ei gomisiynu gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru pan gafodd Low-fi Jones a'r triawd o Aberystwyth Internet Fatigue eu gwahodd i archwilio'r casgliad celf a chyfansoddi eu hymateb i ddarn yn y casgliad.