Darganfyddwch Gelf Foley: Adnodd Sain Creadigol a ysbrydolwyd gan arddangosfa ddiweddar Anthony Shapland yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Celwyddgi Celwyddgi.
I ddathlu arddangosfa ddiweddar Anthony Shapland Celwyddgi Celwyddgi, ‘rydym wedi creu adnodd hwyliog ac addysgiadol sy'n ymwneud â chelf Foley - yr hudoliaeth gudd y tu ôl i'r synau ‘rydych yn eu clywed mewn ffilmiau ac ar y teledu. P'un ydych yn blentyn chwilfrydig, yn berson ifanc creadigol, neu'n oedolyn sy'n chwilio am ddiddordeb newydd, mae'r adnodd hwn yn llawn gweithgareddau chwareus, ffeithiau diddorol, a phrosiectau ymarferol i'ch helpu i ddod yn adroddwr straeon ym maes sain.
Beth yw Foley?
A ydych erioed wedi clywed sŵn traed yn crensian yn yr eira neu ddrws yn gwichian mewn ffilm arswyd? Efallai nad yw'r synau hynny'n real o gwbl! Mae artistiaid Foley yn eu creu gan ddefnyddio eitemau bob dydd - fel papur wedi'i greinsio ar gyfer sŵn tân neu gnau coco ar gyfer carnau ceffylau. Mae Foley i gyd yn ymwneud â defnyddio'ch dychymyg a'ch clustiau. Fe'i enwir ar ôl Jack Foley, un o'r bobl gyntaf i wneud effeithiau sain ar gyfer ffilmiau. Heddiw, mae'n dal i fod yn rhan hanfodol o sut mae straeon yn cael eu hadrodd ar y sgrîn.
Beth sydd gan hyn i wneud efo Celwyddgi Celwyddgi?
Yn Celwyddgi Celwyddgi mae Anthony Shapland yn archwilio'r llinellau aneglur rhwng gwirionedd a ffuglen. Mae'r arddangosfa'n gwneud i ni feddwl am sut mae straeon yn cael eu llunio - a sut mae sain yn chwarae rhan fawr yn yr hyn a gredwn. Mae’n hadnodd Foley yn cysylltu â'r syniadau hyn. Mae'n eich gwahodd i chwarae gyda sain a meddwl am sut y gall sain newid sut mae stori'n teimlo, neu hyd yn oed beth yw ei hystyr.
Mae’r adnodd yn cynnwys
Gwneud eich Effeithiau Sain eich hun - Rhowch gynnig ar driciau Foley gartref neu yn yr ystafell ddosbarth gan ddefnyddio eitemau syml.
Heriau Sain a Stori - Parwch synau â golygfeydd, crëwch eich sainlun eich hun, neu newidiwch ystyr un foment jyst trwy newid y sain.
Meddwl a Siarad - Awgrymiadau hwyliog i’ch helpu i archwilio cwestiynau mawr: Beth sy’n gwneud i rywbeth deimlo’n “real”? A all sain ddweud celwydd?
Mae'r adnodd hwn yn berffaith ar gyfer ysgolion, grwpiau ieuenctid, teuluoedd, neu unrhyw un sy'n chwilfrydig ynglyn â sut mae sain yn llunio straeon.
Pam roi cynnig ar Foley?
Mae Foley yn greadigol, yn flêr, yn syndod - a gall unrhyw un roi cynnig arno! Nid oes angen offer drud. Dim ond eich clustiau, rhywfaint o ddychymyg, ac ychydig o eitemau bob dydd. Hefyd, ni fyddwch byth yn gwrando ar ffilm yn yr un ffordd eto!
Adnodd:
- Lawrlwythwch i-Movie i'ch iPhone neu iPad, neu Cap Cut i'ch ffôn neu dabled Android.
- Ar eich pen eich hun neu gyda ffrind neu aelod o'r teulu, dewiswch glip ffilm byr neu grëwch olygfa syml i ychwanegu effeithiau sain ati. Mae golygfeydd delfrydol yn cynnwys gweithredu, symudiad, neu amgylcheddau (e.e. cerdded yn y goedwig, agor drws). Gan ddefnyddio'r ap golygu fideo o'ch dewis, golygwch eich fideos i greu dilyniant o ddelweddau sy'n adrodd stori o'ch dewis.
- Gwyliwch eich golygfa a gwnewch daflen ciw sain trwy ysgrifennu i lawr pob sain sydd angen arnoch a phryd mae'n digwydd (e.e. "00:05 - traed ar raean").
- Trefnwch le recordio tawel mewn ystafell gyda’r sain neu sŵn cefndir lleiaf posibl.
- Byddwch yn greadigol! Defnyddiwch eitemau o'ch cwmpas i greu eich synau, e.e. Sŵn traed = esgidiau ar wahanol arwynebau, Drws yn gwichian = drysau cypyrddau, Glaw = plastig neu reis yn crychu ar hambwrdd. Recordiwch bob sain sawl gwaith er mwyn cael amrywiaeth.
- Unwaith yr ydych yn hapus gyda'r effeithiau sain, recordiwch eich synau gan ddefnyddio'r opsiwn 'Ychwanegu llais' ar yr ap golygu fideo. Neu, gallwch rag-recordio eich synau mewn memo llais neu ap recordio sain (Cofiwch ffeilio pob effaith sain gydag enw clir e.e. 'camau troed' neu 'gwynt'), a'u mewnbwnio i'r ap golygu fideo i'w hychwanegu at eich llinell amser.
- Defnyddiwch reolaeth sain yr ap o’ch dewis i gydbwyso lefelau’r sain. Gallwch docio clipiau neu eu symud ychydig i gydamseru'n well.
- Ystyriwch ychwanegu sŵn amgylchol (e.e. synau’r ddinas, adar yn y goedwig) er mwyn cael realaeth. Cadwch y sŵn yn gynnil fel nad yw'n gorlethu'r prif effeithiau.
- Cadwch eich prosiect a'i rannu gyda ni! Anfonwch eich fideos at contact@celfarycyd.cymru