Dysgu

Perfformiad Nash

Maria Hayes

19 Chwefror 2026 | munud i ddarllen

Perfformiad Nash

 Ar 19 Hydref 2025 cafodd y cyhoedd eu gwahodd i Ganolfan Grefft Rhuthun ar gyfer diwrnod arbrofol lle cyfunwyd celf, cerddoriaeth a dawns. 

 Cafodd y cerddorion Aneirin Jones a Patrick Rimes a’r ddawnswraig a choreograffydd Angharad Harrop eu gwahodd i ymateb i arddangosfa David Nash: Doethineb Natur. Dros y diwrnod crewyd a chasglwyd ymadroddion cerddorol a symudiadau wedi’u hysbrydoli gan Nash. Yna perfformiodd y cwmni'r gwaith arbrofol newydd mewn digwyddiad am 4yp. 

Cafodd yr holl ddigwyddiad ei ffilmio gan Meinir Siecyn o Snapyn TV 

Mae Jones a Rimes yn adnabyddus am eu gwaith gyda Vrï https://www.vri.cymru 

Roedd Angharad Harrop yn arfer gweithio gyda Chywaith Dawns / Dance Collective Cymru ond ers hynny wedi cael ei phenodi fel Swyddog Dawns i Gyngor Celfyddydau Cymru. 

Rhoddwyd gwahoddiad i'r cyhoedd glywed, tynnu lluniau a ffotograffio'r digwyddiad. 

Roedd dros 50 o bobl gyda ni yn y digwyddiad a mwy yn ymweld drwy'r dydd.

Adborth a dderbynwyd: 

'Syfrdanol – emyn i ysbryd y coed!'  'Fe wnes i garu’r gerddoriaeth, y ddawns a'r arddangosfa. Dwi wedi gweld yr arddangosfa ddwywaith o'r blaen, ond roedd hyn yn rhywbeth arall!'  'Anhygoel – cymysgedd gwych o ieithoedd Cymraeg a Saesneg, celfyddydau cyfryngau cymysg a pherfformiad celfyddydol. Mae sioeau ar y promenâd yn rhyngwaith gwych rhwng artistiaid a'u cynulleidfa. ‘Rhyfeddol o'r dechrau i'r diwedd. Roeddwn yma'r trwy’r dydd ac wedi gwylio'r ymarferion/cyfansoddiad hynod ddiddorol. Hefyd, roedd yn berfformiad eithaf dewr o ran y gallai popeth fynd o'i le. Diddorol gweld dehongliad gwaith David Nash - byddai gweld dehongliad gwaith arall hefyd yn ddiddorol.’  ‘Yn wirioneddol anhygoel – roeddwn wrth fy modd!’  ‘Hudolus. Roedd y gerddoriaeth ffidil fyw yn teimlo fel pe baent wedi dod o’r llunwaith a’i ddod yn fyw.’ ‘Pob un o'r synhwyrau - am ffordd wych i gyrraedd pobl yn y byd creulon cyfredol hwn.’

Dyma Maria Hayes yn siarad am ddyfeisio Perfformio Nash: 

Roedd y cerddorion a'r dawnswyr yn adnabod ei gilydd, ac roeddwn i wedi eu gweld nhw'n gweithio gyda'i gilydd ar brojectau sy'n ymwneud â cherddoriaeth a dawns traddodiadol Cymru. Fe wnes i ddod â nhw at ei gilydd a’u gwahodd i ymateb i'r sioe Nash yn y ffordd fwyaf arloesol a gwreiddiol posib. Rhoddais rywfaint o gefndir i'r gweithiau ond yn bennaf gofynnais iddyn nhw ymateb yn y foment gymaint â phosib. Roedd y canllawiau iddyn nhw yn cynnwys teimlo'r gweithiau, gwrando arnyn nhw ac ymateb yn ôl eu argraffiadau. Canllawiau gafodd cyswllt dwfn gyda nhw.

Wythnos cyn y digwyddiad, fe wnes i, Angharad, Patrick a Meinir gwrdd yn Cae’n Y Coed, tir Nash lle mae’r gwaith sy’n tyfu’n wedi’i leoli. Fe wnaethom ni ychydig o ffilmio yno, a golygodd Meinir hynny i mewn i’r ffilm o’r diwrnod byrfyfyr yn y oriel.

Mae'n cymryd dewrder i sefyll i fyny ac arbrofi yn y foment ac o flaen y cyhoedd, ond mae gan y celfyddydwyr hyn lawer o’r dewrder hwnnw. Roeddent hefyd wrth eu bodd yn gwrando ar ei gilydd ac roedd hynny’n amlwg trwy'r dydd. Roedd eu hegni gwrando gofalus ac ystyriol yn dawnsio gyda gwaith Nash, a gyda'i gilydd fe llwyddon nhw drawsnewid y gofod. Mae hyn yn adlewyrchu sut mae Nash yn gwrando ar bren wrth iddo weithio arno.

Pan mae artistiaid wedi gweithio gyda'i gilydd o'r blaen mae ganddyn nhw ffordd fyr o gyfathrebu wrth berfformio sy'n galluogi iddyn nhw greu rhywbeth o ansawdd mewn diwrnod byr. Roedd gofyn mawr arnyn nhw, ond roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol.

Yn ogystal â’r gwaith ar y dydd, mae Patrick wedi rhoi sgôr i ni felly os ydych chi'n gerddor, gallwch ei ddefnyddio. Fe welwch chi nhw isod. Y gobaith yw y bydd y ‘Nash Reel’ yn cael ei ddysgu a gwneud ei ffordd i sesiynau cerddoriaeth draddodiadol Gymreig drwy’r wlad ac ymhellach.

Sgôr llawn Bas Alto


Share

More like this

Craigie Aitchison (1926-2009)
Carys Tudor, Curadur Cynnwys Digidol, Amgueddfa Cymru
David Nash: Doethineb Natur
Canolfan Grefft Rhuthun
Deialog
Oriel Davies
Curo'r Crysau Duon
Gareth Rhys Owen
Inc afalau derw
Jen Bowens, Cadwraethydd Papur, CELF
Comisiwn newydd: From land to Fire, 2025
Andrea Powell, Oriel Gelf Glynn Vivian
Sut i greu Gwawdlun
Siôn Tomos Owen
Going to Africa
Isabel Adonis
Grisaille I-III
Charlotte Grayland
Mam a'i phlentyn, a cherddi eraill
Tracey McMaster, cyfieithiadau gan Iestyn Tyne
Amser yw Arian
Anne Brierley, cyfieithiad gan Iestyn Tyne
The Waning
Rachel Helena Walsh
Teimlo
Efa Blosse-Mason a Karina Geddes
Wrth Ymyl y ffin
Paul Eastwood
Saunders Lewis
Paul Eastwood ac Owain Lewis
Croen Siwgr
Jasmine Violet
Clogfaen Pren 1978-2015
Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Stiwdio gyda Menyg yn Storiel, gweld casgliad y Llyfrgell mewn Gofod Newydd
Phoebe Murray-Hobbs, Swyddog Benthyciadau Cymunedol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Tirnodau Personol
Michal Iwanowski
Celf Mewn Ysbytai: Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Sara Treble-Parry, Steph Roberts a Siân Lile-Pastore
Lan yr Afon
Julian McKenny
Morlun Bach
Lucy Purrington
Thyrza Anne Leyshon: Eicon y Portreadau Miniatur o Gymru
Imogen Tingey, Cynorthwyydd Arddangosfeydd, Oriel Gelf Glynn Vivian
Dylunio GIFs Cymraeg
Sioned Young, Mwydro
Artcadia
Barbara Bartl, Rheolwr yr Amgueddfa ac Oriel Gelf, Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Cerdded Adref
Dagmar Bennett
Teulu Wakelin: chwarter canrif o gefnogaeth i artistiaid cyfoes
Andrea Powell, Cynorthwyydd Arddangosfeydd, Oriel Gelf Glynn Vivian
Helen Sear (g.1955)
Mari Griffith
David Nash (g.1945)
Mari Griffith
Rhyfel Mawr Glo Cymru
Maddie Webb, Curadur Gweithiau ar Bapur, Amgueddfa Cymru
Ymdeimlad o Le
Jon Pountney
Toriad
Ffin Jordão
Cadwraeth Paentiadau George Poole
Sarah Bayliss, Uwch Gadwraethwr Paentiadau, Amgueddfa Cymru
Frank Auerbach: Pen E.O.W
James Milne, Technegydd CELF, Ffotograffiaeth gan Rhian Israel, CELF
Ymson ar draeth
Iestyn Tyne
Tyrrau Mawr ar grwydr i Lanbedrog
Gwyn Jones, Alex Boyd Jones, Zoe Lewthwaite, Plas Glyn-y-Weddw
Gweithio gydag artist
Rhian Israel, Swyddog Ffotograffiaeth, CELF
Llwybr Tref Gŵyl Grefft
Rachel Vater, Cynorthwyydd Yr Oriel, Oriel Myrddin
Panopticon
Tina Rogers
Y Cyffredin
Ayesha Khan
Mapiau, celf, a dadgoloneiddio
Ellie King, Curadur Cynorthwyol Mapiau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Dadgoloneiddio’r Casgliad Celf Cenedlaethol
Morfudd Bevan, Curadur Celf, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Delfryd a Diwydiant: Curadu'r arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mari Elin Jones, Swyddog Dehongli, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Dan ddŵr sy'n llifo
Geraint Ross Evans
Golygfa Ddyrchafedig
Geraint Ross Evans
'Arhoswch adre'
Gwynfor Dafydd
Cardiau Post Protest
Osian Grifford
David Garner: Wylo
Nicholas Thornton a Ceri Jones, Amgueddfa Cymru
Storiel: Comisiynau Artistiaid
Esther Elin Roberts, Swyddog Celf Gweledol, Storiel
Collage Fabrig Scrap
Ella Louise Jones
Teulu
Ffion Rhys, Curadur, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Arddangosfa Teulu, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Ffion Rhys, Curadur ac Elin Vaughan Crowley, Artist - Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Oriel Myrddin: Comisiynau Artistiaid
Rachel Vater, Oriel Myrddin
Arnofio
Arddun Rhiannon
Geng Xue (g.1983)
Mari Griffith
Cerddi newydd gan ddisgyblion Cymru
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Dhruva Mistry: O’r astudiaeth i’r cerflunwaith
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Tu ôl i'r llen: Cadwraeth
Sarah Bayliss a Kitty Caiden, Amgueddfa Cymru
Darn Canol Bwrdd Con Brio: Comisiwn Ymddiriedolaeth P&O Makower
Andrew Renton, Pennaeth Casgliadau Dylunio, Amgueddfa Cymru
Arddangosfa Cyfoes: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Morfudd Bevan a Nia Dafydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Yr Eda
Llio Maddocks
Cymharu dau artist: John Selway a Denys Short
Nicholas Thornton, Pennaeth Celf Gain a Chelf Gyfoes, Amgueddfa Cymru
Caffaeliad newydd: Pulped Fiction gan David Shrigley
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Cerflunwaith Prydeinig Newydd yr wythdegau
Jennifer Dudley, Curadur Rheoli Casgliadau Celf a Hygyrchedd, Amgueddfa Cymru
Toredig Ond Prydferth
Apekshit Sharma, Intern Curadurol, Amgueddfa Cymru
Five Minutes
Mari Ellis Dunning
Swyn I
Efa Lois
Gesiye (g. 1992)
Mari Griffith
Eich Map Chi o’r Byd
Michal Iwanowski
Tirlun Anhysbys
Evie Banks
Crogdlws
Lydia Niziblian
Calon yn Deilchion
Tanyaradzwa Chiganze
Beth sy’n bosib ei wneud mewn oriel?
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Dwylo ar Dreftadaeth: Codi’r Llen ar Gaffael
Neil Lebeter ac Umulkhayr Mohamed
Rheolau Celf? Sgwrs gyda’r artist Caroline Walker
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Siarad â Phlant am Gelf
Sian Lile Pastore
Pêl-Droed Cymru a Byd Celf
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Rheolau Celf?
Neil Lebeter