Dysgu

My Mother. My Father. My Sister. My Brother gan Donald Rodney: Myfyrdod

Dr Roiyah Saltus

6 Mawrth 2026 | munud i ddarllen

Gwrthrych mewn siap ty wedi' greu o croen yr artist

My Mother My Father My Sister My Brother, Donald Gladstone Rodney - © Donald Gladstone Rodney/Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Un: Y Nod

Wedi’i ffurfio’n ofalus ac yn gain a’i binio at ei gilydd â phinnau bach, mae’r model bach hwn o dŷ wedi’i greu o groen wedi’i sychu a’i gadw a gafodd ei dynnu ar ôl llawdriniaeth i drin anemia'r crymangelloedd. Dyma un o weithiau celf mwyaf adnabyddus yr artist amlgyfrwng, Donald Rodney (g.1961, West Bromwich; m.1998, Llundain). Roedd The House yn un o bum darn newydd o waith celf a ddangoswyd yn arddangosfa olaf Rodney, Nine Nights in Eldorado (1997), y mae’r teitl a’r myfyrdod ar ei waith yn deillio ohono.

Dau: Y Celf

Roedd arfer artistig Rodney yn eclectig ac yn arbrofol, ac nid yw’n hawdd ei roi mewn categori. Yn ystod ei fywyd byr, gweithiodd ar draws gosodwaith, archifau, gludwaith, cerflunwaith, ffotograffiaeth, delweddaeth feddygol, cyfryngau torfol a diwylliant pop, ffilm, darlunio, cyfweliadau a phaentio. Defnyddiai ddeunyddiau amrywiol – gan gynnwys ei gorff – gan arloesi â thechnegau digidol a roboteg fel Autoicon (1998 -2000). Creodd Autoicon ychydig cyn ei farwolaeth gyda Deallusrwydd Artiffisial syml yn seiliedig ar Java a phlatfform sgript rhwydwaith niwral sy’n galluogi ymwelwyr i sgwrsio gydag e a gweld ei waith. Ymhlith arddangosfeydd unigol Rodney mae 

• 9 Night in Eldorado, South London Gallery (1997);        
• Cataract, Camerawork, London (1991);            
• Critical, Rochdale Art Gallery (1990);            
• Crisis, Chisenhale Gallery, London (1989);            
• The Atrocity Exhibition & Other Empire Stories, Black Art Gallery, London (1986);            
• The First White Christmas & Other Empire Stories, Saltley Print and Media, Birmingham (1985).

Mae yna archwiliad parhaus o archif Rodney, fel sydd i’w weld drwy brosiectau fel "Reimaging Donald Rodney" (2016) a’r arddangosfa deithiol bresennol “Visceral Canker” (2024 – 2025). Mae’r arddangosfa fawr ddiweddar hon yn cynrychioli’r rhan fwyaf o gasgliad Rodney o 1982 i 1997, a dywedir ei bod yn cynnwys “pastelau olew graddfa fawr ar belydrau-X i gerfluniau, gosodweithiau wedi’u hail-osod, a hyd yn oed casgliad cyfan o lyfrau braslunio’r artist, yn cwmpasu pymtheg mlynedd o waith”. Caiff ei chyflwyno ochr yn ochr â llu o adnoddau a gynhyrchwyd gan y tair oriel: canllawiau i athrawon, rhaglen o ddigwyddiadau, a chyhoeddiad arbennig – Donald Rodney. Art, Race and the Body Politic (2025). Drwy gyflwyno’r artist i genhedlaeth newydd o gynulleidfaoedd, daw’n amlwg bod y themâu sy’n sail i’w waith yn dal i fod mor amserol a dybryd â’r oedden nhw pan gawsant eu creu yn y 1980au.

Tri: Yr Artist

Magwyd Donald Rodney yng Nghanolbarth Lloegr (West Bromwich), a threuliodd yr wythdegau yn ddyn ifanc yn astudio Celf Gain yn Bournville, Nottingham ac yna Celf Gain Amlgyfrwng yn Llundain. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd hefyd yn aelod o’r Grŵp Celf BLK., sef casgleb o bump o artistiaid cysyniadol, artistiaid gosodwaith, cerflunwyr a churaduron o dras Affricanaidd-Caribïaidd oedd yn byw yn Wolverhampton. Cynhyrchodd Grŵp Celf BLK gyfres o arddangosfeydd o dan y teitl The Pan-Afrikan Connection rhwng 1981 ac 1984. Gan dynnu ar y mudiadau rhyngwladol dad-wladychu a hawliau dynol oedd yn digwydd ledled y byd, roedd llawer o’r themâu roedd y gasgleb yn eu harchwilio yn ystod ei flynyddoedd ffurfiannol i’w gweld yn ei waith diweddarach hefyd. Mae gwaddol gwladychiaeth a chaethwasiaeth, yr hiliaeth a’r anghyfiawnder systemig barhaus yng nghymdeithas Prydain, a safle pobl Ddu yng ngwledydd Prydain i’w gweld yn amlwg yn ei waith. O ystyried y cyd-destun cymdeithasol y cafodd ei fagu ynddo, yn ddyn ifanc Du yn y 1980au, roedd y cyfeiriadau creadigol hyn wedi’u gwreiddio yn ei brofiadau byw. Fel a gofnodwyd ganddo mewn myfyrdod yn ‘Autoicon’:

Ro’n i’n byw yn Smethwick ac ar ryw adeg yn ystod yr etholiadau yn y chwedegau roedd Smethwick yn adnabyddus am fod â rhyw aelod seneddol Torïaidd a fathodd yr ymadrodd ‘If you want a nigger neighbour, vote Labour.’ Roedd hwn yn slogan poblogaidd iawn a fyddai’n cael ei ddefnyddio llawer. A thua’r amser yma, traddodwyd araith Enoch Powell “Rivers of Blood” yn Wolverhampton. Felly roedd gan Birmingham a Wolverhampton gyfraniad mawr o bobl ragfarnllyd ar hyd y lle, oedd yn golygu bod pethau ychydig yn frawychus, (inlVA, www.iniva.org/autoicon)

Wrth iddo ddatblygu ei arfer fel artist, daeth ei waith cysyniadol yn ddyfnach ac yn ehangach, gyda’i waith celf yn archwilio gwleidyddiaeth gwrywdod Du, a’r syniad o berthyn, teulu a’r cartref.

Pedwar a Phump: Llinachau Gwaed – ‘Flesh of my Flesh’

Ysbyty Britannia 2, 1988

Ysbyty Britannia 2, 1988 - Donald Gladstone Rodney © Sheffield
Museums Trust/Bridgeman Images

Yn unol â’r dywediad Affricanaidd, bu farw Donald Rodney yn “high noon” ei fywyd, gan ildio i erchyllter clefyd y crymangelloedd yn 36 oed. Cafodd y tŷ bach hwn ei gysyniadu a’i gynhyrchu yn rhannol mewn ystafell ysbyty roedd yn ei rhannu, yr oedd wedi’i throi’n stiwdio. Grŵp o anhwylderau etifeddol yw clefyd y crymangelloedd sy’n effeithio ar y prif brotein sy’n cario ocsigen i gelloedd coch y gwaed. Fel arfer, mae celloedd coch y gwaed yn siâp disg ac yn hyblyg er mwyn gallu symud yn hawdd drwy’r pibellau gwaed; ond yn y grŵp hwn o anhwylderau mae’r celloedd yn siâp cryman.

Roedd Rodney’n profi cyfnodau o boen a blinder amrywiol ers ei eni (o ganlyniad i’w waed yn crymanu, yn gludo ac yn talpio). Cafodd nifer di-ri o lawdriniaethau, triniaethau ymyrrol, trallwysiadau gwaed ac, wrth i’r blynyddoedd fynd yn eu blaen, profodd anabledd llethol a dirywiad ei gorff, gan arwain at ei farwolaeth gynnar yn y pen draw. Felly efallai nad yw’n syndod bod effaith yr anhwylder etifeddol hwn ar ei fywyd yn thema allweddol arall yn ei waith – fel y mae’r tŷ a wnaed o’i groen sy’n mesur ychydig gentimetrau yn ei ddatgelu’n bwerus. Bu Rodney fyw a marw mewn cyfnod pan nad oedd llawer o ymwybyddiaeth o’r clefyd a phrin oedd y driniaeth ar ei gyfer, nid oedd fawr ddim gwasanaethau ar ei gyfer, ac roedd stigma a hiliaeth tuag at y rhai â symptomau yn helaeth. 

Wrth i’r clefyd effeithio’n gynyddol ar ei fywyd, daeth hefyd yn rym creadigol. Byddai’n ei ddefnyddio’n drosiadol i gynrychioli poen corfforol a phersonol, a hefyd fel cynrychiolaeth o boen gymdeithasol â’i gwreiddiau mewn mathau systemig o orthrwm hiliol. Mae ei ddefnydd o ddelweddau a deunyddiau meddygol, fel pelydrau-X a hen offer meddygol, i’w weld yn Ffigur 32 'Britannia Hospital 2'. Dyma enghraifft o’r cydblethu rhwng y personol a’r cymdeithasol-wleidyddol, a’r gwadiad a’r esgeulustod parhaus tuag at gyrff a phobl ddu mewn celf, mewn bywyd cymdeithasol, ac yn y gwyddorau biofeddygol. Yn yr un modd, gellir ystyried y delweddau o’i gorff yn ei waith ‘Flesh of My Flesh’ (1996), sef triptych ffotograffaidd sy’n cynnwys llun agos o graith sy’n codi ar glun Rodney, fel trosiadau ar gyfer anghydraddoldeb hil fel clefyd ar gymdeithas.

Braslun Donald Rondey

Roedd ei waith hefyd yn rhannu cryfder y profiad Du. Yn hwn, mae gwaed yn rhywbeth arall sydd wedi siapio ei fywyd a’i gelf, fel y mae Ishion Hutchinson yn manylu yn ei erthygl ar y ‘Splash Crowns’ (1995)'. Cyfres o frasluniau a grëwyd gan Rodney pan oedd yn yr ysbyty yw Splash Crowns, sy’n dangos sut roedd yn defnyddio gwaed—gwaed wedi crymanu fel ei waed ei hun, wedi’i bigo a’i dywallt fel gwaed hynafiaid wedi’u caethiwo—fel trosiad am wrthsafiad, gwytnwch, a chysylltiad. Fel y mae Hutchinson yn ei ddatgan, “Iachâd: dyna yw urddas parhaus Splash Crown gan Rodney, a grëwyd o’i wely yn yr ysbyty ac sy’n mawrygu tarddle gwirioneddol gwaed – y gwaed sy’n goroesi wedi llawdriniaeth a chaethwasiaeth, ac sy’n tyfu, yn ddiatal, heb ddiwedd, ar draws yr Iwerydd du.”

Chwech a Saith: Nine Night – House, In hand

Yn ystod yr un flwyddyn iddo grefftio’r tŷ, daeth ffotograffydd dawnus i’r ysbyty i’w weld a thynnu llun ohono, yn dal y tŷ yn dyner yng nghledr ei law. Roedd tŷ ‘My Mother, My Father, My Sister, My Brother’ a’r ffotograff dan yr enw ‘In My Father’s House’ (1996-7) yn ddarnau newydd a ddaeth yn rhan o’i arddangosfa olaf, ‘Nine Nights in Eldorado’ (1997). Mae ‘Nine Night’ yn ddefod Garibïaidd (Jamaicaidd) sy’n digwydd ar ôl i aelod o’r teulu farw. Mae’n cynnwys naw noson lle mae teulu a ffrindiau yn dod at ei gilydd i anrhydeddu bywyd yr ymadawedig cyn yr angladd. ‘Eldorado’ yw teitl hoff ffilm ei dad, gydag enw’r arddangosfa’n anrhydeddu marwolaeth ddiweddar tad Rodney a’r ddefod nad oedd modd i Rodney gymryd rhan ynddi oherwydd ei salwch. Wedi’u creu yn ystod cyfnod hir yn yr ysbyty, anallu cynyddol a marwolaeth yn agosáu, mae’r darnau hyn – fel llinyn nodedig o’i waith ond yn fwy agos-atoch a theuluol nag erioed – yn gwasanaethu fel trosiadau rhyng-gysylltiedig ar gyfer agosrwydd teulu, treftadaeth a rennir, defod Garibïaidd ar ôl marwolaeth, a bregusrwydd bywyd, i’w gweld yn glir mewn man cyhoeddus.

Disgrifiwyd y tŷ fel “house as body” gan Eddie Chambers, a gellir edrych ar y tŷ fel symbol o fregusrwydd ac oferedd Rodney, o orfod byw mewn strwythur sy’n methu’n lân a chynnal ei hun. Ac eto, ar yr un pryd, roedd y tŷ’n atseinio herfeiddiad, cryfder rhyfedd, a syniadau cysurus o gartref. Hefyd, yn yr ystyr hwn, fel cyflwr genetig etifeddol sy’n effeithio ar bobl o dras Affricanaidd, Caribïaidd, Dwyrain y Canoldir, y Dwyrain Canol ac Asiaidd, mae’r tŷ – yn debyg iawn i’w ddefnydd o waed – yn dwyn i gof brofiadau ymgorfforedig rhyng-genhedlaeth o berthyn trawswladol (sy’n mynd y tu hwnt i ffiniau cenedlaethol ac sy’n gwrthsefyll syniadau unffurf o berthyn). Gyda hyn, mae neges ddwys am brofiad etifeddol yn y ffotograff o dŷ yn ei law. Nid yn unig mae’r gweithiau hyn yn adlewyrchu bywyd Rodney fel dyn Du sy’n byw ag anemia’r crymangelloedd, ond mae hefyd yn gwasanaethu fel sylwebaeth glòs ar deulu a pherthyn, ac ar farwolaeth a defodau marwolaeth mewn cymunedau Affricanaidd-Caribiaidd ar wasgar.

Amgueddfa Cymru
RODNEY, Donald Gladstone
© Donald Gladstone Rodney/Amgueddfa Cymru

Wyth a Naw: Myfyrdod ar Artist, yn gryno

… Mae treftadaeth… yn un o’r ffyrdd y mae’r genedl yn araf ffurfio i’w hunan ryw fath o gof cymdeithasol ar y cyd. Fel y mae unigolion a theuluoedd yn llunio eu hunaniaethau yn rhannol drwy greu stori o’r digwyddiadau amrywiol ar hap a’r trobwyntiau hanfodol yn eu bywydau yn un naratif cydlynus, felly hefyd mae cenhedloedd yn llunio hunaniaethau drwy ddewis rhwymo’r uchafbwyntiau o’u dewis a’u llwyddiannau cofiadwy yn ‘stori genedlaethol’ ddatblygol. Y stori hon yw’r hyn a elwir yn ‘Draddodiad’. (t.17) 9781000856170 (1).pdf

Ym mis Mawrth 1998, bu farw Rodney ag anemia’r crymangelloedd, yn 36 oed. Bu i’w yrfa artistig redeg dros ddau ddegawd, a chynhyrchodd rai o’r gweithiau mwyaf diddorol ac arloesol a welwyd gan artist o’i genhedlaeth ym Mhrydain. Mae amgueddfeydd a’r sector treftadaeth yn ehangach yn gweithio i ddod o hyd i ffyrdd o adrodd straeon cymhleth am eu casgliadau. Eu nod yw mynd i’r afael â chysylltiadau â chaethwasiaeth, gwladychiaeth ac ymerodraeth fel allwedd i ail-gyflunio ein dealltwriaeth o gymdeithas Prydain gyda’n gilydd. Mae corff o waith Rodney yn atgof pwerus o rôl celf wrth godi gwirioneddau creulon am hil, y corff, a (diffyg) perthyn, gan roi lle a myfyrdod i ymgodymu ac ymateb i’r materion hyn â chreadigrwydd, bwriad, a dewrder.

Roedd arddangosfa o’r enw ‘Reframing Picton’ yn ailedrych ac yn cynnig dehongliad mwy estynedig o’r Is-gadfridog Syr Thomas Picton (1758-1815). Roedd yn edrych ar ei waddol fel Llywodraethwr Trinidad ar dro’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan daflu goleuni ar ei greulondeb tuag at y bobl wedi’u caethiwo oedd ar yr ynys. Roedd cerflun Donald Rodney ‘My Mother. My Father. My Sister. My Brother’, sy’n cael ei gadw yn Amgueddfa Cymru, yn amserol wrth ein hatgoffa am yr angen parhaus i lunio ffyrdd newydd i bobl Cymru ail-fframio ein syniad o dreftadaeth a hanes Cymru. Ar yr un pryd, drwy ei ddefnydd arloesol o gyfryngau amrywiol – o baentio a gosodwaith i dechnoleg ddigidol – creodd Rodney gorff o waith sy’n parhau i herio ac i ysbrydoli. Mae ei archwiliad o hunaniaeth wedi’i wreiddio yn ei brofiad personol mewn ffyrdd sy’n cyfeirio at y brwydrau parhaus am gydnabyddiaeth a chydraddoldeb y mae cymunedau hil-ddiffiniedig yn eu hwynebu nid yn unig yng Nghymru a gwledydd eraill Prydain, ond ledled y byd. At hynny, mae ei waith yn apelio’n eang, gyda’i ddefnydd arloesol o ddeunyddiau a thechnegau, gan gynnwys delweddaeth feddygol, ei gorff ei hun a thechnoleg deallusrwydd artiffisial embryonig, gan ddangos yn glir bod ei gelfyddyd yn ymestyn ymhell tu hwnt i’w hunaniaeth fel artist Du Prydeinig. Mae ei waith mor bersonol ag y mae’n gyffredinol – yr union waith celf sydd ei angen i ysgogi ac i siapio’r modd mae straeon cenedlaethol yn cael eu hadrodd o’r newydd.

PostScript: Meddwl neu Wneud

Pwyntiau i’w Hystyried

1.     Mae gwaith Donald Rodney yn aml yn archwilio gwytnwch, teulu a hunaniaeth, gan amlygu breuder y corff dynol a chryfder, cysylltiadau a hunanoldeb. 

·        Beth mae hyn yn ei ddweud wrthon ni am rôl y celfyddydau fel ffynhonnell o ysbrydoliaeth ar gyfer newid cymdeithasol?

·        Sut gallai eich mynegiadau creadigol gyfrannu at sgyrsiau am wytnwch neu hunaniaeth?

2.     Roedd defnydd Rodney o’i gorff ei hun a deunyddiau meddygol mewn gwaith yn nodwedd allweddol o’i arfer

·          Sut mae hyn yn herio syniadau traddodiadol o’r hyn gall celf fod? 

·          Pa ddeunyddiau allech chi eu defnyddio? 

3.     Roedd gwaith Rodney yn amlwg yn wleidyddol. 

·        Sut mae celf Rodney yn adlewyrchu amgylchedd cymdeithasol-wleidyddol ei gyfnod, yn enwedig ei brofiadau fel rhan o Grŵp Celf BLK?

4.     Roedd gwaith Rodney yn arloesol, yn enwedig o ran ei ddefnydd cynnar o dechnolegau newydd. 

·        Beth all arbrofi Rodney â thechnolegau digidol, fel Autoicon, ei ddysgu i ni am bosibiliadau celf yn yr oes fodern?

Pethau i’w gwneud

·        Archwiliad Creadigol (pob oed): 
Dyluniwch ddarn o gelf gan ddefnyddio deunyddiau anghonfensiynol (e.e. eitemau wedi’u hailgylchu, gwrthrychau naturiol) i fynegi syniad neu stori bersonol, wedi’i hysbrydoli gan ddefnydd arloesol Rodney o’i gorff ei hun a delweddaeth feddygol.

·        Symbolaeth mewn Celf (Cynradd ac Uwchradd: 
Crëwch “dŷ symbolaidd” sy’n cynrychioli’r syniad o gartref a pherthyn. Gall disgyblion iau ddefnyddio crefftau, a gall disgyblion hŷn ysgrifennu myfyrdodau ar sut mae eu dyluniad yn cysylltu â themâu yng ngwaith house as body Rodney.

·        Ymchwil Gymdeithasol a Hanesyddol (Uwchradd): 
Ymchwiliwch i ddigwyddiad cymdeithasol-wleidyddol allweddol, cyd-destun cymdeithasol penodol, neu gyfnod a siapiodd fywyd a gwaith Rodney (e.e. y mudiad hawliau sifil, hiliaeth systemig ym Mhrydain). Cyflwynwch eich canfyddiadau drwy gyfrwng creadigol fel poster neu sioe sleidiau ddigidol.

·        Adrodd Straeon Rhyngweithiol (pob oed): 
Cynhaliwch drafodaeth grŵp lle mae’r cyfranogwyr yn dychmygu sut y gallai bywyd a chelf Rodney esblygu pe bai'n fyw heddiw. Gallwch ysgrifennu neu fraslunio ymatebion sy'n archwilio sut y gallai ei themâu hunaniaeth a gwytnwch edrych mewn lleoliadau cyfoes.


Ganed Roiyah Saltus ym Mermwda ac mae’n Wyddonydd Cymdeithasol, yn Ymchwilydd-Ymgyrchydd, ac yn Eiriolwr Treftadaeth, gyda’i gwaith yn cwmpasu themâu tegwch iechyd, cyfiawnder cymdeithasol, a’r celfyddydau. Fe’i magwyd mewn teulu o addysgwyr, ac roedd ei magwraeth wedi’i dylanwadu’n gryf gan Affroganoliaeth, ysbrydolrwydd Du, a’r celfyddydau perfformio, gyda ffocws ar naratifau Affricanaidd ar wasgar, hunaniaeth, a chof diwylliannol. Mae Roiyah yn defnyddio gwaith adrodd straeon a mynegiant creadigol i bontio rhwng ymgyrchu, y maes academaidd, a mynegiant creadigol ac i feithrin iachâd, cysylltiad, a grymuso diwylliannol. Mae hi’n byw yng Nghymru ers 2022, ac yn aelod sefydlu ac yn Gyfarwyddwr ar Laku Neg.


Share

More like this

Hanesion lu Ifor Davies
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Galwad Agored: Portread
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Connected Roots
Ali Goolyad
Perfformiad Nash
Maria Hayes
Craigie Aitchison (1926-2009)
Carys Tudor, Curadur Cynnwys Digidol, Amgueddfa Cymru
David Nash: Doethineb Natur
Canolfan Grefft Rhuthun
Deialog
Oriel Davies
Curo'r Crysau Duon
Gareth Rhys Owen
Inc afalau derw
Jen Bowens, Cadwraethydd Papur, CELF
Comisiwn newydd: From land to Fire, 2025
Andrea Powell, Oriel Gelf Glynn Vivian
Sut i greu Gwawdlun
Siôn Tomos Owen
Going to Africa
Isabel Adonis
Grisaille I-III
Charlotte Grayland
Mam a'i phlentyn, a cherddi eraill
Tracey McMaster, cyfieithiadau gan Iestyn Tyne
Amser yw Arian
Anne Brierley, cyfieithiad gan Iestyn Tyne
The Waning
Rachel Helena Walsh
Teimlo
Efa Blosse-Mason a Karina Geddes
Wrth Ymyl y ffin
Paul Eastwood
Saunders Lewis
Paul Eastwood ac Owain Lewis
Croen Siwgr
Jasmine Violet
Clogfaen Pren 1978-2015
Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Stiwdio gyda Menyg yn Storiel, gweld casgliad y Llyfrgell mewn Gofod Newydd
Phoebe Murray-Hobbs, Swyddog Benthyciadau Cymunedol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Tirnodau Personol
Michal Iwanowski
Celf Mewn Ysbytai: Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Sara Treble-Parry, Steph Roberts a Siân Lile-Pastore
Lan yr Afon
Julian McKenny
Morlun Bach
Lucy Purrington
Thyrza Anne Leyshon: Eicon y Portreadau Miniatur o Gymru
Imogen Tingey, Cynorthwyydd Arddangosfeydd, Oriel Gelf Glynn Vivian
Dylunio GIFs Cymraeg
Sioned Young, Mwydro
Artcadia
Barbara Bartl, Rheolwr yr Amgueddfa ac Oriel Gelf, Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Cerdded Adref
Dagmar Bennett
Teulu Wakelin: chwarter canrif o gefnogaeth i artistiaid cyfoes
Andrea Powell, Cynorthwyydd Arddangosfeydd, Oriel Gelf Glynn Vivian
Helen Sear (g.1955)
Mari Griffith
David Nash (g.1945)
Mari Griffith
Rhyfel Mawr Glo Cymru
Maddie Webb, Curadur Gweithiau ar Bapur, Amgueddfa Cymru
Ymdeimlad o Le
Jon Pountney
Toriad
Ffin Jordão
Cadwraeth Paentiadau George Poole
Sarah Bayliss, Uwch Gadwraethwr Paentiadau, Amgueddfa Cymru
Frank Auerbach: Pen E.O.W
James Milne, Technegydd CELF, Ffotograffiaeth gan Rhian Israel, CELF
Ymson ar draeth
Iestyn Tyne
Tyrrau Mawr ar grwydr i Lanbedrog
Gwyn Jones, Alex Boyd Jones, Zoe Lewthwaite, Plas Glyn-y-Weddw
Gweithio gydag artist
Rhian Israel, Swyddog Ffotograffiaeth, CELF
Llwybr Tref Gŵyl Grefft
Rachel Vater, Cynorthwyydd Yr Oriel, Oriel Myrddin
Panopticon
Tina Rogers
Y Cyffredin
Ayesha Khan
Mapiau, celf, a dadgoloneiddio
Ellie King, Curadur Cynorthwyol Mapiau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Dadgoloneiddio’r Casgliad Celf Cenedlaethol
Morfudd Bevan, Curadur Celf, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Delfryd a Diwydiant: Curadu'r arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mari Elin Jones, Swyddog Dehongli, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Dan ddŵr sy'n llifo
Geraint Ross Evans
Golygfa Ddyrchafedig
Geraint Ross Evans
'Arhoswch adre'
Gwynfor Dafydd
Cardiau Post Protest
Osian Grifford
David Garner: Wylo
Nicholas Thornton a Ceri Jones, Amgueddfa Cymru
Storiel: Comisiynau Artistiaid
Esther Elin Roberts, Swyddog Celf Gweledol, Storiel
Collage Fabrig Scrap
Ella Louise Jones
Teulu
Ffion Rhys, Curadur, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Arddangosfa Teulu, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Ffion Rhys, Curadur ac Elin Vaughan Crowley, Artist - Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Oriel Myrddin: Comisiynau Artistiaid
Rachel Vater, Oriel Myrddin
Arnofio
Arddun Rhiannon
Geng Xue (g.1983)
Mari Griffith
Cerddi newydd gan ddisgyblion Cymru
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Dhruva Mistry: O’r astudiaeth i’r cerflunwaith
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Tu ôl i'r llen: Cadwraeth
Sarah Bayliss a Kitty Caiden, Amgueddfa Cymru
Darn Canol Bwrdd Con Brio: Comisiwn Ymddiriedolaeth P&O Makower
Andrew Renton, Pennaeth Casgliadau Dylunio, Amgueddfa Cymru
Arddangosfa Cyfoes: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Morfudd Bevan a Nia Dafydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Yr Eda
Llio Maddocks
Cymharu dau artist: John Selway a Denys Short
Nicholas Thornton, Pennaeth Celf Gain a Chelf Gyfoes, Amgueddfa Cymru
Caffaeliad newydd: Pulped Fiction gan David Shrigley
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Cerflunwaith Prydeinig Newydd yr wythdegau
Jennifer Dudley, Curadur Rheoli Casgliadau Celf a Hygyrchedd, Amgueddfa Cymru
Toredig Ond Prydferth
Apekshit Sharma, Intern Curadurol, Amgueddfa Cymru
Five Minutes
Mari Ellis Dunning
Swyn I
Efa Lois
Gesiye (g. 1992)
Mari Griffith
Eich Map Chi o’r Byd
Michal Iwanowski
Tirlun Anhysbys
Evie Banks
Crogdlws
Lydia Niziblian
Calon yn Deilchion
Tanyaradzwa Chiganze
Beth sy’n bosib ei wneud mewn oriel?
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Dwylo ar Dreftadaeth: Codi’r Llen ar Gaffael
Neil Lebeter ac Umulkhayr Mohamed
Rheolau Celf? Sgwrs gyda’r artist Caroline Walker
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Siarad â Phlant am Gelf
Sian Lile Pastore
Pêl-Droed Cymru a Byd Celf
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Rheolau Celf?
Neil Lebeter