CYNFAS

Morfudd Bevan a Nia Dafydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
19 Mawrth 2024

Arddangosfa Cyfoes: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Morfudd Bevan a Nia Dafydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

19 Mawrth 2024 | Minute read

Ers y llynedd mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi bod yn cyd-weithio yn agos gydag Amgueddfa Cymru ar brosiect digideiddio trawsnewidiol fydd yn gweld casgliad celf gyfoes eang y Llyfrgell yn cael ei rannu ar Celf ar y Cyd ochr yn ochr â chasgliadau’r Amgueddfa.

Rhoi Llwyfan i Gelf Cymru

Ar 28 Hydref 2023 agorwyd arddangosfa newydd yn Oriel Gregynog Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sy’n ddathliad o gelf gyfoes Gymreig a’r cynllun digideiddio arloesol hwn. Mae arddangosfa CYFOES: Celf Cymru Heddiw · Contemporary Welsh Art yn dwyn ynghyd detholiad o weithiau sy’n dyddio o 1945 hyd heddiw o’r Casgliad Celf Cenedlaethol.

Ymhlith uchafbwyntiau’r arddangosfa mae gwaith newydd sbon gan yr artist Dr Adéọlá Dewis, Y Fari Lwyd, sydd wedi’i gomisiynu’n arbennig fel rhan o waith y Llyfrgell i ddadgoloneiddio’r casgliadau celf; Cofeb Tryweryn gan John Meirion Morris; Greenham Peace Vigil gan Claudia Williams; a Ponterwyd / Gaia gan Mary Lloyd Jones.

Mae’r gweithiau yn yr arddangosfa - o weithiau olew, gludweithiau a ffotograffau i gerfluniau a gweithiau aml-gyfrwng - yn dangos ystod ac amrywiaeth casgliadau’r Llyfrgell. Maent yn adlewyrchiad o’r byd o’n cwmpas ac yn gofnod o’r byd trwy lygaid ein hartistiaid mwyaf nodedig.

Ymateb i themâu

Gan edrych ar sut mae celf gyfoes yn adlewyrchu’r grymoedd a materion sy’n rhoi siâp ar ein byd ni heddiw, mae'r arddangosfa’n cyflwyno’r gweithiau ar draws nifer o themâu sy’n rhan o Celf ar y Cyd:

Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Mari Elin Jones, ein Swyddog Dehongli, Adran Arddangosfeydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ddywedodd wrthym:

"Rydyn ni’n falch iawn o’r cyfle hwn i rannu detholiad arbennig o weithiau celf gan rai o artistiaid cyfoes mwyaf blaenllaw Cymru. Nod yr arddangosfa yw dathlu cyfoeth, amrywiaeth ac ystod celf gyfoes yng Nghymru. Yn ogystal ag arddangos gweithiau adnabyddus mae’r arddangosfa hefyd yn adlewyrchu bywiogrwydd parhaus celf yng Nghymru heddiw wrth i ni gynnwys gweithiau newydd sbon. Rydyn ni’n gobeithio’n fawr bydd ymwelwyr yn mwynhau’r cyfle hwn i weld y gorau o gelf gyfoes yng Nghymru, ac y bydd yr arddangosfa yn sbarduno deialog ac yn ysbrydoli creadigrwydd."

“Ers ei sefydlu ym 1907 mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi bod yn gefnogwyr brwd o gelf Gymreig ac mae’r casgliadau yn datblygu yn flynyddol.” Dywed Morfudd, “Mae Celf ar y Cyd yn ffordd hollbwysig o allu rhannu'i chasgliad o gelf gyfoes yn fyd-eang gan ddangos pŵer celf i ysbrydoli ac addysgu.”

Rhan o berthynas newydd

Mae’r Llyfrgell yn cydweithio gyda’n partneriaid i ddatblygu oriel gelf gyfoes genedlaethol i Gymru ac mae’r arddangosfa hon yn enghraifft o’r gweithiau sydd ar gael i’w benthyg i orielau ledled Cymru.


Bydd Cyfoes: Celf Cymru Heddiw yn cau ar Fawrth 23ain ac felly dyma eich cyfle olaf i weld yr arddangosfa arbennig hon.

Y Fari Lwyd, DEWIS, Adéọlá © Adéọlá Dewis

Cofeb Tryweryn, MORRIS, John Meirion © John Meirion Morris

Greenham Peace Vigil, WILLIAMS, Claudia © Claudia Williams

Ponterwyd / Gaia, JONES, Mary Lloyd © Mary Lloyd Jones


Share


More like this