DYSGU

Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
25 Ionawr 2023

Pêl-Droed Cymru a Byd Celf

Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru

25 Ionawr 2023 | Minute read

Mae pêl-droed yn aml yn cael ei ddisgrifio gan gefnogwyr fel celf, rhywbeth sy’n gallu ymdebygu i ffurf ar gelfyddyd o’r natur buraf pan gaiff ei chwarae i’w lawn botensial.

Mae yna gysylltiad clir rhwng pêl-droed a chelf na fydd llawer yn ei ystyried o bosib. Gall gweithiau celf a phêl-droed roi ymdeimlad o hunaniaeth i ardal a'i phobl. Mae'n ymwneud â'r ffordd mae rhywbeth yn gwneud i chi deimlo: gall pêl-droed eich anfon drwy'r holl emosiynau yn yr un ffordd ag y gall celf ysgogi ymateb emosiynol. Felly mae dau fyd sy’n gallu teimlo’n hollol ar wahân i lawer yn debycach i'w gilydd nag y byddai rhywun yn ei feddwl.

A ellir ystyried pêl-droed fel ffurf ar Gelfyddyd Gyfoes felly? Gadewch i ni edrych ar hyn o safbwynt Cymreig…

Ar hyn o bryd, mae Cymru yn profi oes aur o ran pêl-droed, rhywbeth mae cefnogwyr sydd wedi dilyn pêl-droed Cymru wedi breuddwydio amdano ers blynyddoedd. Mae cyrraedd tri thwrnamaint mawr yn olynol y tu hwnt i freuddwydion llawer o gefnogwyr, ac yn rhywbeth nad oedden nhw erioed wedi gallu ei ddychmygu. Fel aelod o’r Wal Goch fy hunan ac aelod o Adran Addysg Amgueddfa Cymru, fe wnaeth i fi feddwl am sut mae pêl-droed Cymru yn cael ei bortreadu a’i ddogfennu yn y casgliad celf? A sut mae perthynas Cymru â phêl-droed yn cael ei phortreadu yn y byd Celf?

Pan fydd rhywun yn meddwl am Gymru, y gamp sy’n cael ei chysylltu’n ystrydebol â’r wlad efallai yw rygbi, ond wrth edrych ar y delweddau sydd yng nghasgliad Amgueddfa Cymru, rydych chi’n cael ymdeimlad bod pêl-droed wedi dal ei dir erioed ond ychydig yn llai amlwg efallai.

GB. WALES. Aberystwyth. A spontaneous football match within the grounds of the derelict castle. 2000.
HURN, David
© David Hurn / Magnum Photos / Amgueddfa Cymru
GB. WALES. Cardiff. During the last days before the closs down of East Moors steel in cardiff. 1978.
HURN, David
© David Hurn / Magnum Photos / Amgueddfa Cymru

Mae’r ddau gefnlen a welwch yn y ffotograffau yma gan David Hurn yn gynrychioliadol o Gymru ddoe a heddiw, y syniad hanesyddol a rhamantiaeth o gestyll, a diwydiannu mwy modern Cymru yn nelwedd y gweithfeydd dur. Mae'r ddwy ddelwedd hon hefyd yn cynrychioli sut y gellir chwarae pêl-droed yng Nghymru yn unrhyw le; hon yw gêm y bobl. Boed law neu hindda, mewn adfeilion castell neu lain o wair wrth ymyl y gwaith dur, mae pêl-droed wedi bod yn bwysig erioed ac yn parhau i fod yn bwysig i gymdeithas Cymru heddiw. Gall tynnu lluniau o’r natur hwn roi teimlad o hiraeth i bobl, gan edrych yn ôl ar ble y bydden nhw’n chwarae tra roedden nhw’n tyfu i fyny ym mhob cornel o’r wlad, ond hefyd mae’r ddwy ddelwedd hyn yn fythol. Gallen nhw fod wedi eu tynnu ddoe, gan fod y golygfeydd hyn yn cael eu hailadrodd yn ddyddiol.

Mae'r ymdeimlad o hunaniaeth sy’n perthyn i bêl-droed Cymru yn newid. Mae cefnogwyr a chwaraewyr fel ei gilydd yn dod yn rhan annatod o ddiwylliant Cymru, ac mae’r delweddau o hetiau bwced ac anthem wefreiddiol ‘Hen Wlad fy Nhadau’ ac ‘Yma o Hyd’ bellach yn rhan annatod o unrhyw gêm bêl-droed genedlaethol. Yna, darlunio'r golygfeydd hyn drwy gyfrwng ffotograffiaeth yw'r ffordd berffaith i arddangos pêl-droed yn y byd celf.

GB. WALES. Cardiff. Celebrations of Cardif FC promotion to the Priemiership. 2013.
HURN, David
© David Hurn / Magnum Photos / Amgueddfa Cymru
GB. WALES. Cardiff. Celebrations of Cardiff FC promotion to the Priemiership. 2013.
HURN, David
© David Hurn / Magnum Photos / Amgueddfa Cymru

Edrychwch ar y delweddau hyn sy’n darlunio’r golygfeydd o ddathlu yn dilyn dyrchafiad Clwb Pêl-droed Caerdydd i’r Uwch Gynghrair yn 2013. Mae hyn yn dangos pŵer ffotograffiaeth wrth ddal eiliadau mewn amser sydd ag ystyr diwylliannol i gymuned, gwlad neu bobl. Dyma un rheswm pam mae ffotograffiaeth ddogfennol yn cysylltu cymaint o bobl ar draws y byd.

GB. WALES. Cardiff. Cardiff v Everton football match. 1977.
HURN, David
© David Hurn / Magnum Photos / Amgueddfa Cymru

Rwy'n credu y byddai llawer yn diystyru pêl-droed fel rhan o'r byd celf yn syth heb feddwl dwywaith am y peth. Fodd bynnag, pan all rhywbeth sbarduno ymateb mor emosiynol, rwy’n credu eu bod yn debyg iawn mewn gwirionedd. Wrth edrych ar ymateb torf, chwaraewr neu wlad i gôl, neu fuddugoliaeth, neu frwydr dros 90 munud, mae rhywbeth o’i fewn sy’n ymdebygu i ddarn o gelf. Dewch o hyd i lun o Stadiwm Dinas Caerdydd lawn ar ddiwrnod gêm ryngwladol, a cheisiwch ddadlau gyda fi nad yw hynny’n ddarn o gelf ynddo’i hun…


Share


More like this