Mae Lua Ribeira yn ffotograffydd sy’n archwilio themâu fel gormes ac eithriad ac sy’n mynd i’r afael â’r deinameg rhwng y gorthrymedig neu’r rhai sydd wedi'u heithrio a’r diwylliant dominyddol.
Ganed a magwyd hi yn Galicia yn Sbaen. Mae ei hymwybyddiaeth o’r ormes ddiwylliannol a gwleidyddol a brofwyd yn y rhanbarth honno o dan unbennaeth Franco (1939–1975) yn sail bwysig i’w gwaith. Gadawodd Galicia i astudio Dylunio Graffig yn Ysgol Ddylunio BAU yn Barcelona cyn ennill gradd B.A. mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol De Cymru, gan raddio yn 2016. Mae hi bellach yn byw ym Mryste ac yn cyfuno ei gwaith fel ffotograffydd â darlithio.
Mae Ribeira yn ymchwilio'i phynciau yn fanwl iawn. Mae ei gwaith mwyaf adnabyddus, Noises, yn edrych ar ddiwylliant y neuaddau dawns Prydeinig-Jamaicaidd. Yn ogystal â chael ei denu gan y gerddoriaeth, roedd ganddi ddiddordeb hefyd yn y ffordd y mae’r neuaddau yn ffurf o wrthwynebiad i hanes trefedigaethol Prydain. Daeth i adnabod y diwylliant hwn trwy dreulio amser gyda’r bobl yr oedd yn eu cyfarfod yn y neuaddau dawns.
Yn Galicia, dogfennodd Ribeira fywyd bob dydd mewn dwy ganolfan sy’n gael eu rhedeg gan leianod Catholig ar gyfer menywod ag anableddau dysgu (Aristocrátas, 2016). Nôl ym Mryste, gwnaeth brosiect ar argyfwng y digartref yn y ddinas (Subida al Cielo, 2017 -2018). Ymhellach oddi cartref, yn Tijuana ym Mecsico, edrychodd ar y broblem ymfudo ar y ffin rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico (La Jungla, 2019), ac yn Melilla, cilfach Sbaenaidd ym Moroco, dogfennodd rai o’r ymfudwyr sy’n ceisio croesi'r ffin o Moroco i Sbaen.
Mae Ribeira wedi ennill nifer o wobrau ac mae'n aelod Cyswllt o Magnum. Mae dau waith ganddi yng nghasgliad Amgueddfa Cymru.
Mae Mari Griffith yn hanesydd celf sydd wedi gweithio ym maes amgueddfeydd ac orielau celf ers 30 mlynedd, yn datblygu a goruchwylio darpariaeth addysg a dehongli ar gyfer casgliadau cyhoeddus ac arddangosfeydd, gan gynnwys yn y National Gallery, National Gallery of Art a’r Royal Academy of Arts. Wedi cyfnod yn gweithio’n rhyngwladol ym maes dehongli celf a threftadaeth, mae hi’n awr yn ysgrifennu, golygu a chyfieithu’n llawrydd – am gelf gan fwyaf.