‘Moment’ - Moment mewn amser, Tudweiliog a'i chymuned. Gwanwyn 2026. gan Anna Higson yn Plas Glyn-y-Weddw.
Ymateb yr artist Anna Higson i waith y ffoto-newyddiadurwr Geoff Charles a gofnododd fywyd yn y Gymru wledig drwy gyfrwng ffotograffau rhwng yr 1930au a’r 1970au ydi ‘Moment’.
Galluogwyd y comisiwn trwy gyllid prosiect CELF Llywodraeth Cymru, cynllun sydd wedi arwain at greu rhwydwaith o orielau er mwyn dod a chasgliad celf gyfoes Cymru allan i’r cymunedau.
HIGSON, Anna, Moment © Anna Higson / Plas Glyn-y-Weddw
HIGSON, Anna, Moment © Anna Higson / Plas Glyn-y-Weddw
Ar hyn o bryd mae detholiad o luniau o Gasgliad Geoff Charles sydd ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cael eu harddangos yn y Plas, ynghyd a dangosiad o ffilm Yr Etifeddiaeth a grëwyd gyda John Roberts Williams yn 1949. Bywyd Gwledig yn Llŷn ac Eifionydd - Drwy Lens Geoff Charles ydi teitl yr arddangosfa ac mae hi yn cael ei chynnal trwy gyllid, ac o dan faner CELF.
Tra’n gweithio ar y comisiwn bu Anna ar ymweliad â’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth a bu’n gwylio Yr Etifeddiaeth, cyn mynd ati i greu’r gwaith arbennig yma sydd â’i ffocws ar gymuned ardal wledig Tudweiliog ar arfordir gogleddol Llŷn.
HIGSON, Anna, Moment © Anna Higson / Plas Glyn-y-Weddw
HIGSON, Anna, Moment © Anna Higson / Plas Glyn-y-Weddw
Wedi’i lleoli ym Moduan, ger Pwllheli mae Anna yn artist aml-ddisgyblaethol sydd wedi datblygu edmygedd arbennig o’i chymuned leol dros gyfnod o flynyddoedd - edmygedd sydd wedi ei feithrin o ganlyniad i’w theithiau niferus yn Mecsico.
“Rwyf wedi derbyn ysbrydoliaeth ddofn o gymunedau, traddodiadau bywiog a charnifalau yn Mecsico yn ystod y blynyddoedd o deithio yno. Mae’r mannau ble mae y dylanwadau yma yn croesi gyda straeon a chymeriadau lleol yn fy nghymuned fy hun yn fy nghyfareddu,” meddai.
Gellir gweld ‘Moment’ - Moment mewn amser, Tudweiliog a'i chymuned. Gwanwyn 2026. gan Anna Higson yn Plas Glyn-y-Weddw o 22 Gorffennaf - 4 Hydref 2026. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Plas Glyn-y-Weddw.