Dysgu

Hud y Model: Ar brosiect It’s Called Ffasiwn Clémentine Schneidermann a Charlotte James

Alix Beeston

20 Gorffennaf 2026 | munud i ddarllen

Dros y degawd diwethaf, mae’r ffotograffydd Clémentine Schneidermann a’r steilydd a’r cyfarwyddwr artistig Charlotte James wedi tynnu cannoedd o ffotograffau o blant a phobl ifanc cymoedd y de. Ond mae yna un ddelwedd—neu yn hytrach y broses o gynhyrchu’r ddelwedd—a wnaeth iddyn nhw sylweddoli bod ‘rhywbeth hudolus yn digwydd’.

Ar ddiwrnod cymylog ym mis Tachwedd 2016, cynhaliodd Schneidermann a James weithdy mewn canolfan ieuenctid ym Merthyr Tudful, lle buon nhw’n helpu pobl ifanc i steilio ac addasu dillad ail-law a ffabrig sbâr gyda pheiriannau gwnïo neu â llaw. Daeth grŵp o bump o ferched allan i’r stryd mewn dillad du o’u coryn i’w sowdl. Roedden nhw’n gwisgo ffrogiau wedi’u creu o felfed trwchus neu les pry cop. Roedden nhw’n gwisgo hetiau mawr neu fonedau pluog, yn rhwysgfawr ac yn edrych allan o le. Fe chwarddodd grŵp o fechgyn lleol arnyn nhw wrth iddyn nhw fynd heibio. Dyma un ohonyn nhw’n gweiddi: “Beth ydych chi’n gwisgo?” A dyma un o’r merched—gan gadw at ei llysenw, Sassy Keely—yn gweiddi ’nôl, “Ffasiwn yw e…dysga amdano fe!”

Amgueddfa Cymru
SCHNEIDERMANN, Clémentine & JAMES, Charlotte
SCHNEIDERMANN, Clémentine
© Clémentine Schneidermann and Charlotte James/Amgueddfa Cymru

Mae teitl portread grŵp o’r diwrnod hwnnw’n deillio o ateb Sassy Keely—a ddaeth hefyd yn deitl ar gyfres fwy o weithiau aeth Schneidermann a James ati i’w creu gyda phlant y cymoedd yn 2015. Mae’r merched yn sefyll ochr yn ochr, eu hwynebau gwyn yn amlwg yn erbyn tywyllwch eu dillad a lliw glas-lwyd brith y wal gerrig y tu ôl iddyn nhw (uchod). Mae ochr lorweddol y wal yn hollti’r llun yn ddau hanner, fel bod y cyfansoddiad yn pwysleisio pa mor fach yw’r merched yn erbyn y bryn glaswelltog a’r awyr gymylog. Mae eu maint bach yn gwrthgyferbynnu â’u gwisgoedd cywrain a’r steilio hynod: eu gwefusau lliw cwrel yn siâp bwa Ciwpid y 1920au, cudynnau o’u gwallt yn troelli ar draws eu talcennau a bochau.

Mae’r ddelwedd hefyd yn cynnwys mymryn o hiwmor, er nad yw’n cynnwys gwatwar y bechgyn ar ochr y stryd. Gallwn weld ychydig o wên ar geg y ferch ar y dde, fel pe bai hi’n rhan o jôc na wyddon ni amdani. Ac yn llygaid yr holl ferched mae dwyster ac uniongyrchedd sy’n mynnu ein bod yn eu cymryd o ddifrif yn eu gwisgoedd, yn eu hystumiau. Mae eu llygaid yn dweud wrthon ni mai ffasiwn yw e. Dysga amdano fe.

Mae gan rai o fy ffrindiau brint o’r ffotograff hwn yn hongian yn eu hystafell fwyta. Rydw i wedi edrych arno’n aml dros bryd o fwyd neu ddiod ac wedi meddwl tybed sut i ddehongli dillad y merched. Mae ffurfioldeb eu gwisg yn eu gosod ar wahân i’r bob dydd, hyd yn oed wrth i anacroniaeth eu dillad—y steiliau o wahanol gyfnodau yn gymysg—awgrymu nad ydynt yn perthyn i’r presennol. Yna mae ganddoch chi’r lliw, neu’r diffyg lliw yn hytrach. Mae Schneidermann a James yn dewis lliwiau ar gyfer gwahanol weithdai ar sail y tymhorau, er enghraifft olewydd yn y gwanwyn neu lelog yn yr haf. Ac eto, mae’r lliw du yn teimlo’n dywyll hyd yn oed ar gyfer gaeafau Cymru. Mae’n teimlo, rwy’n meddwl, bron yn angladdol. Ond os mai dyna’r nod, galaru am beth? Beth sydd wedi’i golli?

Y mwyaf rwy’n edrych ar y ffotograff hwn, y mwyaf rwy’n teimlo fy mod yn dechrau deall sut mae’n siarad yn ôl—fel Sassy Keely—i hanes modern o ddarlunio’r Cymoedd a’i phobl. Yn aml, mae’r ardal wedi cael ei darlunio fel safle melancolaidd, gofod o alaru a cholled. Ac mae hyn wedi digwydd yn bennaf drwy ffotograffiaeth: o’r portreadau enwog o lowyr â’u hwynebau huddygl a anfarwolwyd yng nghanol yr ugeinfed ganrif gan W. Eugene Smith a Robert Frank, i blant y glowyr hynny a ymddangosodd, yn ddiweddarach yn y ganrif, fel ffigurau unig yn nhirwedd llwm, du a gwyn y Gymru ôl-ddiwydiannol. Yn erbyn y safbwynt cyffredin hwn o’r Cymoedd o’r tu allan, mae’r merched mewn du—ffasiynwyr i gyd—yn creu cofeb eironig i ranbarth na fu erioed mor ddifywyd ac anobeithiol ag yr oedd rhai’n credu.

Celfyddyd Cydweithio

Mae hanes ffotograffiaeth y cymoedd yn cynnig enghreifftiau o duedd llawer ehangach i ymarfer neu ddeall portreadau ffotograffig fel sefyllfa o echdynnu a gwrthrycholi. O ystyried yr anghymesuredd rhwng pŵer a bregusrwydd ym mherthynas y ffotograffydd â’r rhai y mae’n tynnu lluniau ohonynt—yr un sy’n gweld yn erbyn yr un sy’n cael ei weld—gall portread ffotograffig fod yn rhywbeth sy’n cael ei gymryd oddi wrth y sawl yn y llun. Mae hyn yn arbennig o wir pan fydd gan y person o flaen y camera lai o rym diwylliannol neu ymarferol na’r person sy’n ei ddefnyddio. Ar draws hanes ffotograffiaeth, yn aml nid yw pobl dosbarth gweithiol a phobl ifanc wedi bod mewn rheolaeth o’u ffotograffau eu hunain. Hyd yn oed yn oes ffonau clyfar, mae astudiaethau’n awgrymu mai dim ond mynediad cyfyngedig sydd gan nifer sylweddol o blant dosbarth gweithiol yng ngwledydd Prydain at dechnolegau ffotograffig oherwydd anghyfiawnder economaidd.

Mae It’s Called Ffasiwn yn ymyrryd â’r syniad dychmygol poblogaidd o’r cymoedd yn union drwy unioni anghydraddoldebau mynediad, adnoddau a chyfleoedd sy’n seiliedig ar ddosbarth. Drwy gynhyrchu’r ffotograffau mewn gweithdai rhannu sgiliau—dylunio gwisgoedd, steilio, gweithredu’r camera, perfformio o’i flaen—mae James a Schneidermann yn ceisio rhannu rhyddid creadigol gyda’r bobl ifanc sy’n ymddangos yn y ffotograffau. Mae hon yn fath o ffotograffiaeth gyfranogol a chymunedol, sy’n ailddychmygu portreadu fel rhywbeth rhyngweithiol yn ei hanfod: gêm gydweithredol, wedi’i seilio ar ymddiriedaeth a gofal, sy’n gofyn am gyfranogiad gweithredol y ffotograffydd a’r sawl sydd yn y llun.

Mewn gwirionedd, mae It’s Called Ffasiwn yn cyfateb celf Schneidermann a James â chelf y plant maen nhw’n tynnu eu lluniau—ac mae hyd yn oed yn gwrthod gwahaniaethu rhyngddynt. Yn y portread o’r merched mewn gwisgoedd du mae rhosyn coch tywyll sy’n ganolbwynt i’r ddelwedd. Ond a yw’r ddelwedd wedi’i chydbwyso’n grefftus gan weithred y ferch o lithro’r blodyn dros ei chlust—dim ond un enghraifft o athrylith y plant gyda manylion bach, trawiadol. Neu a yw wedi’i drefnu ar sail cynllun manwl y ffotograffydd a’r steilydd o’r olygfa? Mae’r ddau beth yn wir, ar unwaith, wrth gwrs. Nid yn unig mae ffordd gain Schneidermann a James o gyfansoddi’r byd yn cael ei gyfateb, ond mae hefyd yn cael ei alluogi gan ffordd ffraeth a dyfeisgar y plant o fod o flaen y camera—a thu ôl iddo hefyd.

Wrth bwysleisio bodolaeth annibynnol a rhyddid creadigol y sawl yn y llun, mae prosiect Schneidermann a James yn ategu tuedd ehangach mewn ffotograffiaeth gyfoes a’r celfyddydau eraill: ail-fframio gwaith artistig o ran dwyochredd a chyfnewid rhwng yr artist a’r sawl yn y llun. Mae’r duedd hon yn adlewyrchu ffyrdd newydd o feddwl am ffigwr model neu awen yr artist. Yn gonfensiynol, dychmygir bod y model yn ffigwr goddefol neu ddi-rym. Er bod modelau wedi gallu dewis eu ffasiwn ar gyfer gweithiau celf erioed, ac yn gwneud hynny—dewis eu dillad, gosod eu gwallt, dewis eu hystumiau—fel arfer, roeddent yn cael eu hystyried yn swyddogion o fynegiant esthetig yr artist. Ac er ei bod hi’n rhan allweddol o’r broses (a hi fyddai hi fel arfer), roedd hyn yn gwneud y model yn rhywbeth atodol rhyfedd i’r broses artistig roedd hi’n rhan ohoni.

Amgueddfa Cymru
SCHNEIDERMANN, Clémentine & JAMES, Charlotte
SCHNEIDERMANN, Clémentine
© Clémentine Schneidermann and Charlotte James/Amgueddfa Cymru

Fodd bynnag, mewn celf gyfoes, fel y mae’r ysgolhaig Wendy Steiner yn ei nodi, mae cydweithio creadigol wedi dod i’r amlwg fel ‘thema bwysig’, ac mae modelu’n cael ei ystyried fwyfwy i gynnwys ‘cyfathrebu a chydraddoldeb, yn hytrach na dioddef neu ddarostyngiad’. Mewn portread cynnar arall o It’s Called Ffasiwn, mae dwy ferch o’r enw Paige a Lydia yn sefyll o flaen wal lwyd sgleiniog (uchod). Mae un yn gwisgo siwmper gwddf polo pinc golau gyda llewys mawr, ac mae’r llall yn gwisgo siaced siwt dynion las lachar a het haf. Gyda’i gilydd, maen nhw’n parodi normau rhywedd—pinc i ferched, glas i fechgyn—sydd yn eu ffitio a ddim yn eu ffitio, fel eu dillad mawr neu ryfedd. Does yr un o’r ddwy yn edrych ar y camera: mae’r ferch mewn glas yn dal ymyl llipa ei het i lawr i orchuddio ei hwyneb sy’n edrych am i lawr, tra bod y ferch mewn pinc yn edrych yn amheus ar y camera heb edrych yn syth tuag ato. Mae ei mynegiant aneglur yn glynu ataf heb adael i fi wybod am beth mae hi’n meddwl. Ac mae hi, fel ei ffrind o dan yr het, yn defnyddio ei dillad mewn ystum sy’n ymatal, gan lapio ei hun yn ei llewys hir llaes.

Mae modelu Paige a Lydia yn berfformiad bwriadol, wedi’i grefftio’n ofalus fel dull o ddatgelu a chuddio. Mae’n ddewis i gael eich gweld ac yn ddewis i beidio â chael eich gweld.

Celfyddyd yr Ystum

Wrth ddarllen arwyddion o ryddid creadigol y plant yn y delweddau hyn, nid wyf yn bwriadu rhamanteiddio’r gwaith hwn nac awgrymu bod y ffotograffau’n gyfystyr â ffordd bur, gyfartal o ddarlunio pobl eraill. Yn hytrach, rwy’n gweld Schneidermann a James yn gweithio i ddod o hyd i ddulliau ymarferol ac esthetig er mwyn ailgydbwyso’r gwahaniaethau pŵer sy’n llunio pob cyfarfyddiad ffotograffig yn y Cymoedd a thu hwnt—ac i roi sylw i’r ffurfiau o ryddid sy’n bodoli wrth lunio’r hunan drwy ddillad a ffotograffau.

Amgueddfa Cymru
SCHNEIDERMANN, Clémentine
© Clémentine Schneidermann/Amgueddfa Cymru

Mae llafur creadigol modelu yn thema ganolog mewn cyfres o bortreadau o bobl ifanc ym Mlaenau Gwent a wnaeth Schneidermann ochr yn ochr ag It’s Called Ffasiwn o 2015–2018. Yn ‘Aicha, Coed Cae’, mae merch ifanc mewn fest â ffwr, sgert gylch binc sgleiniog, a sanau streipiog hir yn eistedd ar gadair mewn stiwdio dros dro mewn neuadd gymunedol (uchod). Yn gefndir iddi mae’r hyn sy’n ymddangos fel cynfas pinc mawr, neu bapur wedi’i orchuddio, sy’n dad-rolio o ffrâm weladwy. Mae gofod ar bob ochr iddi, gyda golygfa lydan y camera yn cynnwys y plac ar y wal, baner Brydeinig lipa, a’r diffoddwr tân.

Mae’r ffotograff yn olygfa sy’n creu ei hun—ac nid yw hynny’n ddamweiniol nac yn ddi-drefn, hyd yn oed os yw’r ddelwedd yn ymgorffori gwrthrychau a allai deimlo fel annibendod gweledol. Yn y cydweddiad agos rhwng sgert y ferch a’r cefndir, y llinellau paent llorweddol a glân ar y wal, a’r sgwariau o olau lliw sy’n dawnsio’n fywiog o amgylch y gofod, mae’r ffotograff yn feistrolgar o steilus. Mae’r steilusrwydd hwnnw’n amlwg hefyd yn perthyn i Aicha, wrth iddi edrych tuag at y camera, a’i phen ar ogwydd. Mae ei mynegiant gonest a digyffro yr un mor gelfydd â’i hamgylchoedd.

Amgueddfa Cymru
SCHNEIDERMANN, Clémentine
© Clémentine Schneidermann/Amgueddfa Cymru

Yn ‘Shelby, Swffryd’, mae cefndir pinc y prif ffigwr yn cael ei ddarparu gan blentyn arall, sy’n sefyll y tu ôl iddi yn dal sgwâr o ddefnydd (uchod). Fel yn ‘Aicha, Coed Cae’, mae’r cefndir fel tric hud wedi ei ddatgelu, ond yma mae rhithweledigaeth doredig y llun yn ymddangos yn fwy amaturaidd. Mae’r ffabrig yn chwythu yn y gwynt a gallwn weld bysedd y plentyn sy’n ei ddal wrth ei gorneli. Gallwn weld ei hesgidiau chwaraeon hefyd, eu lliw neon yn fflachio o’r tu ôl i esgidiau Converse Shelby. Mae ystum rhydd Shelby, gyda’i breichiau’n hongian a’i gwddf yn ymwthio allan ychydig, hefyd yn cyfleu bod ganddi lai o reolaeth nag ystum Aicha.

Gallai’r agweddau hyn ar y ddelwedd, ynghyd â’r lleoliad awyr agored llawn sbwriel, wneud iddi ymddangos yn fwy ansicr wrth briodoli celfyddyd i’w phynciau nag yn ‘Aicha, Coed Cae’. Ac eto i gyd, gallai’r gwrthwyneb fod yn wir. Wedi’r cyfan, mae’r ddelwedd hon yn dangos pa mor hanfodol yw’r plant wrth greu’r portreadau hyn—yn enwedig pan rydyn ni’n cydnabod eu perfformiadau o flaen y camera fel math o lafur creadigol. Os oes ‘rhywbeth hudolus’ am ffotograffau Schneidermann a James o blant y Cymoedd, yna, mae hynny yn y rhyddid mae’r plant yn ei ddefnyddio wrth gyd-gynhyrchu eu portreadau. Mae yn eu gweithredoedd o wneud eu hunain yn weladwy ac yn anweledig, boed yn dal yr ystum neu’n dal y ffabrig.[


Awdur ac academydd sy’n byw yng Nghaerdydd yw Alix Beeston. Bydd ei llyfr nesaf, sy’n cynnig hanes beirniadol greadigol o fenywod a merched yn hanes ffotograffiaeth, yn cael ei gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Penn State yn 2027.


Share

More like this

David Hurn (1934-)
Mari Griffith
Mary Lloyd Jones: Haenau
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Beirdd Cymru
Jack Lewis
Mwizi Mwizi Mwizi
Cynthia MaiWa Sitei
Môrwelion
Steff ap Carys
Comisiwn Newydd: Gêm Frenhinol Urm...?
Amgueddfa Cymru a Chanolfan Grefft Rhuthun
Pwysau'r Byd
Sarah Merton
Astudio’r Croeshoeliad
James Milne a Rhian Israel, Amgueddfa Cymru
Ffiniau
Delphi Campbell
Hanesion lu Ifor Davies
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Galwad Agored: Portread
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Connected Roots
Ali Goolyad
Perfformiad Nash
Maria Hayes
Craigie Aitchison (1926-2009)
Carys Tudor, Curadur Cynnwys Digidol, Amgueddfa Cymru
David Nash: Doethineb Natur
Canolfan Grefft Rhuthun
Deialog
Oriel Davies
Curo'r Crysau Duon
Gareth Rhys Owen
Inc afalau derw
Jen Bowens, Cadwraethydd Papur, CELF
Comisiwn newydd: From land to Fire, 2025
Andrea Powell, Oriel Gelf Glynn Vivian
Sut i greu Gwawdlun
Siôn Tomos Owen
Going to Africa
Isabel Adonis
Grisaille I-III
Charlotte Grayland
Mam a'i phlentyn, a cherddi eraill
Tracey McMaster, cyfieithiadau gan Iestyn Tyne
Amser yw Arian
Anne Brierley, cyfieithiad gan Iestyn Tyne
The Waning
Rachel Helena Walsh
Teimlo
Efa Blosse-Mason a Karina Geddes
Wrth Ymyl y ffin
Paul Eastwood
Saunders Lewis
Paul Eastwood ac Owain Lewis
Cais am Gynigion Comisiwn
Celfyddydau Anabledd Cymru ac Amgueddfa Cymru
Croen Siwgr
Jasmine Violet
Clogfaen Pren 1978-2015
Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Stiwdio gyda Menyg yn Storiel, gweld casgliad y Llyfrgell mewn Gofod Newydd
Phoebe Murray-Hobbs, Swyddog Benthyciadau Cymunedol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Tirnodau Personol
Michal Iwanowski
Celf Mewn Ysbytai: Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Sara Treble-Parry, Steph Roberts a Siân Lile-Pastore
Lan yr Afon
Julian McKenny
Morlun Bach
Lucy Purrington
Thyrza Anne Leyshon: Eicon y Portreadau Miniatur o Gymru
Imogen Tingey, Cynorthwyydd Arddangosfeydd, Oriel Gelf Glynn Vivian
Dylunio GIFs Cymraeg
Sioned Young, Mwydro
Artcadia
Barbara Bartl, Rheolwr yr Amgueddfa ac Oriel Gelf, Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Cerdded Adref
Dagmar Bennett
Teulu Wakelin: chwarter canrif o gefnogaeth i artistiaid cyfoes
Andrea Powell, Cynorthwyydd Arddangosfeydd, Oriel Gelf Glynn Vivian
Helen Sear (g.1955)
Mari Griffith
David Nash (g.1945)
Mari Griffith
Rhyfel Mawr Glo Cymru
Maddie Webb, Curadur Gweithiau ar Bapur, Amgueddfa Cymru
Ymdeimlad o Le
Jon Pountney
Toriad
Ffin Jordão
Cadwraeth Paentiadau George Poole
Sarah Bayliss, Uwch Gadwraethwr Paentiadau, Amgueddfa Cymru
Frank Auerbach: Pen E.O.W
James Milne, Technegydd CELF, Ffotograffiaeth gan Rhian Israel, CELF
Ymson ar draeth
Iestyn Tyne
Tyrrau Mawr ar grwydr i Lanbedrog
Gwyn Jones, Alex Boyd Jones, Zoe Lewthwaite, Plas Glyn-y-Weddw
Gweithio gydag artist
Rhian Israel, Swyddog Ffotograffiaeth, CELF
Llwybr Tref Gŵyl Grefft
Rachel Vater, Cynorthwyydd Yr Oriel, Oriel Myrddin
Panopticon
Tina Rogers
Y Cyffredin
Ayesha Khan
Mapiau, celf, a dadgoloneiddio
Ellie King, Curadur Cynorthwyol Mapiau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Dadgoloneiddio’r Casgliad Celf Cenedlaethol
Morfudd Bevan, Curadur Celf, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Delfryd a Diwydiant: Curadu'r arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mari Elin Jones, Swyddog Dehongli, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Dan ddŵr sy'n llifo
Geraint Ross Evans
Golygfa Ddyrchafedig
Geraint Ross Evans
'Arhoswch adre'
Gwynfor Dafydd
Cardiau Post Protest
Osian Grifford
David Garner: Wylo
Nicholas Thornton a Ceri Jones, Amgueddfa Cymru
Storiel: Comisiynau Artistiaid
Esther Elin Roberts, Swyddog Celf Gweledol, Storiel
Collage Fabrig Scrap
Ella Louise Jones
Teulu
Ffion Rhys, Curadur, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Arddangosfa Teulu, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Ffion Rhys, Curadur ac Elin Vaughan Crowley, Artist - Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Oriel Myrddin: Comisiynau Artistiaid
Rachel Vater, Oriel Myrddin
Arnofio
Arddun Rhiannon
Geng Xue (g.1983)
Mari Griffith
Cerddi newydd gan ddisgyblion Cymru
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Dhruva Mistry: O’r astudiaeth i’r cerflunwaith
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Tu ôl i'r llen: Cadwraeth
Sarah Bayliss a Kitty Caiden, Amgueddfa Cymru
Darn Canol Bwrdd Con Brio: Comisiwn Ymddiriedolaeth P&O Makower
Andrew Renton, Pennaeth Casgliadau Dylunio, Amgueddfa Cymru
Arddangosfa Cyfoes: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Morfudd Bevan a Nia Dafydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Yr Eda
Llio Maddocks
Cymharu dau artist: John Selway a Denys Short
Nicholas Thornton, Pennaeth Celf Gain a Chelf Gyfoes, Amgueddfa Cymru
Caffaeliad newydd: Pulped Fiction gan David Shrigley
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Cerflunwaith Prydeinig Newydd yr wythdegau
Jennifer Dudley, Curadur Rheoli Casgliadau Celf a Hygyrchedd, Amgueddfa Cymru
Toredig Ond Prydferth
Apekshit Sharma, Intern Curadurol, Amgueddfa Cymru
Five Minutes
Mari Ellis Dunning
Swyn I
Efa Lois
Gesiye (g. 1992)
Mari Griffith
Eich Map Chi o’r Byd
Michal Iwanowski
Tirlun Anhysbys
Evie Banks
Crogdlws
Lydia Niziblian
Calon yn Deilchion
Tanyaradzwa Chiganze
Beth sy’n bosib ei wneud mewn oriel?
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Dwylo ar Dreftadaeth: Codi’r Llen ar Gaffael
Neil Lebeter ac Umulkhayr Mohamed
Rheolau Celf? Sgwrs gyda’r artist Caroline Walker
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Siarad â Phlant am Gelf
Sian Lile Pastore
Pêl-Droed Cymru a Byd Celf
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Rheolau Celf?
Neil Lebeter