Comisiwn digidol newydd gan Steff ap Carys: Ymateb i arddangosfa o waith Môrwelion gan Garry Fabian Miller.
© Steff ap Carys
Wedi'i ysbrydoli gan gyfansoddiad gwaith Garry Fabian Miller, mae Steff ap Carys wedi cyfansoddi tair cerdd a'u gosod ar y papur i adlewyrchu'r gyfres ffotograffig Môrwelion - bloc o gerdd 'awyr' ar y top, bloc 'môr' ar y gwaelod, ac un linell o gerdd 'gorwel' yn y canol. Mae'r gwaith yn weledol, felly; y cerddi'n perthyn i'w gilydd fel chwiorydd ac yn creu perthynas newydd rhwng iaith a chelf weledol.
Mae Steff ap Carys yn artist amlddisgyblaethol ac ymchwilydd o Aberteifi. Enillodd radd BA mewn Theatr, Cerdd a’r Cyfryngau o Goleg y Drindod, Caerfyrddin, ac MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd o Brifysgol Caerdydd. Mae ar hyn o bryd yn gweithio ar ei ddoethuriaeth ym maes ffilmgerddi.
Garry Fabian Miller
The Sea Horizon, Rhif 18, 1976–77
© Garry Fabian Miller