Dysgu

RMER ONE: Sut mae artist graffiti yn creu ei waith?

RMER ONE

15 Mai 2026 | munud i ddarllen

Fel rhan o CELF - fe wnaeth artist graffiti o Gaerdydd RMER ONE cael ei gomisynu i greu darn newydd o waith wedi'i hysbydoli gan y casgliad genedlaethol ac yna sgwennu am sut mae e'n creu ei gwaith ef. Darllenwch isod yn ei eiriau ef

Amdana I

Rwy’n artist hunan-ddysgedig ac yn arbenigo mewn celf graffiti ers dros 30 mlynedd. O oedran ifanc, sylweddolais mai celf oedd fy noddfa naturiol i, roeddwn i’n creu ac yn dwdlo drwy’r amser, ond ro’n i yn fy arddegau erbyn i fi weld yr hyn a fyddai’n dod yn ffenomen fyd-eang, Celf Graffiti.

I lawer, mae graffiti yn gyfystyr â theipograffeg, ac er i fi hogi fy sgiliau a fy nhechnegau i ddefnyddio’r can chwistrellu a thrin y paent drwy arddulliau llythrennau, roeddwn i bob amser yn cael fy nenu at elfennau mwy gweledol graffiti, roeddwn i bob amser yn edmygu’r cymeriadau fyddai’n cael eu paentio i gyd-fynd â chynyrchiadau mawr.

Ar ddiwedd y nawdegau, sefydlwyd criw graffiti Cruel Vapours yng Nghaerdydd gyda Hoxe, Skroe, Foe a Dyes. Roedd ein harddulliau’n ategu ei gilydd, ond roedd paentio fel rhan o gydweithfa yn rhoi’r lle a’r rhyddid i fi ganolbwyntio mwy ar gymeriadau a phortreadau.

Ers blynyddoedd rydw i wedi parhau i arbenigo mewn portreadau, ond yn fwy diweddar rydw i wedi esblygu’n raddol tuag at safbwynt mwy mewnsyllol, gan ganolbwyntio ar “y benglog”. Mae hyn bellach wedi dod yn gyfres barhaus, bron yn nodweddiadol o fy ngwaith celf.

I fi, daw’r benglog yn bortread mewnol, heb hidlydd rhywedd, hil na gwahaniaeth, gan ddatgelu’r harddwch sylfaenol rydyn ni i gyd yn ei rannu fel bodau dynol.

Yr Ysbrydoliaeth

Y briff ar gyfer y comisiwn yma oedd cael eich ysbrydoli gan ddarn o celf o casgliad Amgueddfa genedlaethol Caerdydd. Ar ôl archwilio’r casgliadau cefais fy syfrdanu gan yr amrywiaeth o waith celf a oedd ar ddangos.

Dau artist roeddwn i’n gallu uniaethu â’u gwaith oedd Eugène Carrière a Sawangwongse Yawnghwe, ac roeddwn i’n gwybod yn syth sut gallai steil unigryw’r ddau ysbrydoli fy ngwaith nesaf. Roedd gwaith ffigurol Eugène, delweddau allan o ffocws oedd yn ymdebygu i ysbrydion, yn hyfryd iawn, ac fe wnaeth paentiadau ffotorealistig steilus Sawangwongse, oedd yn gwrthdaro â siapiau graffeg llym, ddeffro fy meddwl.

Y Broses

Yn gyffredinol, rwy’n gweithio o ffotograffau ac yn eu trin yn ddigidol i greu fy nghyfansoddiadau a phennu palet lliwiau. Drwy ddylunio fel hyn, rwy’n creu darlun cynnar o sut y bydd y paentiad terfynol yn dod yn fyw. Mae hon bob amser yn broses barhaus lle rwy’n mireinio ac yn esblygu’r dyluniad cyn fy mod i’n barod i roi paent ar gynfas.

O’r fan yna, y cam cyntaf yw trosglwyddo llun llinell i gynfas gwag, rwy’n gwneud hyn gan ddefnyddio techneg grid. Mae’r dull yma’n fy helpu i sicrhau’r cyfrannedd cywir drwy ganolbwyntio a chopïo un adran ar y tro. Unwaith y bydd y dyluniad wedi’i fraslunio, yna mae’n bryd dod â’r caniau chwistrellu allan.

Mae gweithio gyda phaent aerosol ar gynfas yn cymryd amser i’w feistroli oherwydd cyfyngiad yr arwynebedd llai. Dros y blynyddoedd rydw i wedi arbrofi gyda gwahanol dechnegau i drin sut mae’r paent yn cael ei roi, gan weithio bob amser i gael mwy o fanylion yn y darn terfynol.

Dydw i ddim yn defnyddio stensiliau fel arfer ond rydw i wedi dechrau arbrofi’n ddiweddar, ac ar gyfer adran graffig y paentiad yma gweithiodd y dechneg stensil mor dda fel ei bod hi bellach yn rhywbeth yr hoffwn gynnwys mwy ohoni yn fy ngwaith yn y dyfodol.

Mae’r daith rydw i wedi bod arni drwy gydol y comisiwn yma, ar adegau, wedi mynd â fi allan o fy man cysurus creadigol, ond yn y pen draw mae wedi gwthio ffiniau fy null arferol ac wedi fy helpu i gymryd y naid i fyd newydd o ran fy steil.   

Wedi'ch hysbrydoli? Beth allwch chi ddarganfod yn y casgliad genedlaethol neith eich tanio chi i greu gwaith newydd?


Share

More like this

Pwysau'r Byd
Sarah Merton
Astudio’r Croeshoeliad
James Milne a Rhian Israel, Amgueddfa Cymru
Ffiniau
Delphi Campbell
Hanesion lu Ifor Davies
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Galwad Agored: Portread
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Connected Roots
Ali Goolyad
Perfformiad Nash
Maria Hayes
Craigie Aitchison (1926-2009)
Carys Tudor, Curadur Cynnwys Digidol, Amgueddfa Cymru
David Nash: Doethineb Natur
Canolfan Grefft Rhuthun
Deialog
Oriel Davies
Curo'r Crysau Duon
Gareth Rhys Owen
Inc afalau derw
Jen Bowens, Cadwraethydd Papur, CELF
Comisiwn newydd: From land to Fire, 2025
Andrea Powell, Oriel Gelf Glynn Vivian
Sut i greu Gwawdlun
Siôn Tomos Owen
Going to Africa
Isabel Adonis
Grisaille I-III
Charlotte Grayland
Mam a'i phlentyn, a cherddi eraill
Tracey McMaster, cyfieithiadau gan Iestyn Tyne
Amser yw Arian
Anne Brierley, cyfieithiad gan Iestyn Tyne
The Waning
Rachel Helena Walsh
Teimlo
Efa Blosse-Mason a Karina Geddes
Wrth Ymyl y ffin
Paul Eastwood
Saunders Lewis
Paul Eastwood ac Owain Lewis
Croen Siwgr
Jasmine Violet
Clogfaen Pren 1978-2015
Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Stiwdio gyda Menyg yn Storiel, gweld casgliad y Llyfrgell mewn Gofod Newydd
Phoebe Murray-Hobbs, Swyddog Benthyciadau Cymunedol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Tirnodau Personol
Michal Iwanowski
Celf Mewn Ysbytai: Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Sara Treble-Parry, Steph Roberts a Siân Lile-Pastore
Lan yr Afon
Julian McKenny
Morlun Bach
Lucy Purrington
Thyrza Anne Leyshon: Eicon y Portreadau Miniatur o Gymru
Imogen Tingey, Cynorthwyydd Arddangosfeydd, Oriel Gelf Glynn Vivian
Dylunio GIFs Cymraeg
Sioned Young, Mwydro
Artcadia
Barbara Bartl, Rheolwr yr Amgueddfa ac Oriel Gelf, Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Cerdded Adref
Dagmar Bennett
Teulu Wakelin: chwarter canrif o gefnogaeth i artistiaid cyfoes
Andrea Powell, Cynorthwyydd Arddangosfeydd, Oriel Gelf Glynn Vivian
Helen Sear (g.1955)
Mari Griffith
David Nash (g.1945)
Mari Griffith
Rhyfel Mawr Glo Cymru
Maddie Webb, Curadur Gweithiau ar Bapur, Amgueddfa Cymru
Ymdeimlad o Le
Jon Pountney
Toriad
Ffin Jordão
Cadwraeth Paentiadau George Poole
Sarah Bayliss, Uwch Gadwraethwr Paentiadau, Amgueddfa Cymru
Frank Auerbach: Pen E.O.W
James Milne, Technegydd CELF, Ffotograffiaeth gan Rhian Israel, CELF
Ymson ar draeth
Iestyn Tyne
Tyrrau Mawr ar grwydr i Lanbedrog
Gwyn Jones, Alex Boyd Jones, Zoe Lewthwaite, Plas Glyn-y-Weddw
Gweithio gydag artist
Rhian Israel, Swyddog Ffotograffiaeth, CELF
Llwybr Tref Gŵyl Grefft
Rachel Vater, Cynorthwyydd Yr Oriel, Oriel Myrddin
Panopticon
Tina Rogers
Y Cyffredin
Ayesha Khan
Mapiau, celf, a dadgoloneiddio
Ellie King, Curadur Cynorthwyol Mapiau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Dadgoloneiddio’r Casgliad Celf Cenedlaethol
Morfudd Bevan, Curadur Celf, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Delfryd a Diwydiant: Curadu'r arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mari Elin Jones, Swyddog Dehongli, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Dan ddŵr sy'n llifo
Geraint Ross Evans
Golygfa Ddyrchafedig
Geraint Ross Evans
'Arhoswch adre'
Gwynfor Dafydd
Cardiau Post Protest
Osian Grifford
David Garner: Wylo
Nicholas Thornton a Ceri Jones, Amgueddfa Cymru
Storiel: Comisiynau Artistiaid
Esther Elin Roberts, Swyddog Celf Gweledol, Storiel
Collage Fabrig Scrap
Ella Louise Jones
Teulu
Ffion Rhys, Curadur, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Arddangosfa Teulu, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Ffion Rhys, Curadur ac Elin Vaughan Crowley, Artist - Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Oriel Myrddin: Comisiynau Artistiaid
Rachel Vater, Oriel Myrddin
Arnofio
Arddun Rhiannon
Geng Xue (g.1983)
Mari Griffith
Cerddi newydd gan ddisgyblion Cymru
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Dhruva Mistry: O’r astudiaeth i’r cerflunwaith
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Tu ôl i'r llen: Cadwraeth
Sarah Bayliss a Kitty Caiden, Amgueddfa Cymru
Darn Canol Bwrdd Con Brio: Comisiwn Ymddiriedolaeth P&O Makower
Andrew Renton, Pennaeth Casgliadau Dylunio, Amgueddfa Cymru
Arddangosfa Cyfoes: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Morfudd Bevan a Nia Dafydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Yr Eda
Llio Maddocks
Cymharu dau artist: John Selway a Denys Short
Nicholas Thornton, Pennaeth Celf Gain a Chelf Gyfoes, Amgueddfa Cymru
Caffaeliad newydd: Pulped Fiction gan David Shrigley
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Cerflunwaith Prydeinig Newydd yr wythdegau
Jennifer Dudley, Curadur Rheoli Casgliadau Celf a Hygyrchedd, Amgueddfa Cymru
Toredig Ond Prydferth
Apekshit Sharma, Intern Curadurol, Amgueddfa Cymru
Five Minutes
Mari Ellis Dunning
Swyn I
Efa Lois
Gesiye (g. 1992)
Mari Griffith
Eich Map Chi o’r Byd
Michal Iwanowski
Tirlun Anhysbys
Evie Banks
Crogdlws
Lydia Niziblian
Calon yn Deilchion
Tanyaradzwa Chiganze
Beth sy’n bosib ei wneud mewn oriel?
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Dwylo ar Dreftadaeth: Codi’r Llen ar Gaffael
Neil Lebeter ac Umulkhayr Mohamed
Rheolau Celf? Sgwrs gyda’r artist Caroline Walker
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Siarad â Phlant am Gelf
Sian Lile Pastore
Pêl-Droed Cymru a Byd Celf
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Rheolau Celf?
Neil Lebeter