Mae’r artist Americanaidd James Turrell yn gweithio gyda golau ac yn creu gosodiadau sy’n ein gwahodd i gwestiynu ac ehangu’r ffordd yr ydym yn gweld a chanfod y byd.
Yn enedigol o Los Angeles, gwnaeth Turrell radd B.A. mewn Seicoleg o Pomona College yn 1965 cyn dechrau ar astudiaethau ôl-raddedig mewn Celf ym Mhrifysgol California. Ym 1973 enillodd M.A. mewn Celf o Claremont Graduate School.
Dechreuodd Turrell ddefnyddio golau fel cyfrwng yn y 1960au, gan gyfuno golau, lliw a gofod mewn ffyrdd gwahanol. Arddangosodd ei weithiau golau cyntaf yn Pasadena Museum of Art ym 1967, ac mae un o’i dafluniadau golau cynnar sy’n dyddio o 1968 Raethro, Pink yng nghasgliad Amgueddfa Cymru.
Mae Turrell hefyd wedi creu dros wyth deg o Skyscapes, sef gweithiau celf sy’n apelio at y synhwyrau. Ystafelloedd neu siambrau yw’r rhain gydag un agoriad fel ffenestr uwchben sy'n rhoi cipolwg o'r awyr. Yn ôl yr artist, mae'r gofodau hyn yn cyfeirio at Alegori’r Ogof gan yr athronydd Groegaidd Plato y mae Turrell yn ei ddyfynnu'n aml. Ynddi, mae Plato yn disgrifio sut y mae pobl sy’n gaeth mewn ogof yn profi'r byd trwy gysgodion ar y creigiau yn unig, ac mai dyna YW eu profiad nhw o'r byd – mae felly’n dadlau bod ein canfyddiad o’r byd yn oddrychol. Mae’r syniad hwn yn sylfaenol i waith Turrell.
Yn ogystal a bod yn artist, mae Turrell hefyd yn beilot brwd ac mae’n cael ysbrydoliaeth o weld ac astudio lliwiau diddiwedd yr awyr sydd iddo ef fel cynfas.
Mae'n gweithio o'i stiwdio yn Santa Monica, California.
Mae Mari Griffith yn hanesydd celf sydd wedi gweithio ym maes amgueddfeydd ac orielau celf ers 30 mlynedd, yn datblygu a goruchwylio darpariaeth addysg a dehongli ar gyfer casgliadau cyhoeddus ac arddangosfeydd, gan gynnwys yn y National Gallery, National Gallery of Art a’r Royal Academy of Arts. Wedi cyfnod yn gweithio’n rhyngwladol ym maes dehongli celf a threftadaeth, mae hi’n awr yn ysgrifennu, golygu a chyfieithu’n llawrydd – am gelf gan fwyaf.