Gallwch archwilio, darganfod a dysgu popeth am y casgliad celf gyfoes cenedlaethol yma drwy gyfres o fideos, erthyglau a gweithgareddau. Dysgwch beth sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni a chwrdd â’r tîm sy’n gofalu am y casgliadau.
Ddim yn siŵr beth yw Celf Gyfoes? Peidiwch â phoeni, fe helpwn ni chi...gwyliwch y gyfres o fideos fydd yn ateb eich holl gwestiynau am orielau celf.
Rydyn ni am i bobl Cymru a thu hwnt gael eu hysbrydoli gan y casgliad – edrychwch ar yr ystod o weithgareddau a dysgwch am y casgliad sy’n perthyn i’r genedl gyfan.
Creu / Gwylio / Gwrando
Pum munud i’w sbario? Darllenwch erthygl, gwyliwch fideo, neu gwrandewch ar drac sain – mae’r cyfan yma ar flaenau eich bysedd – gadewch i’ch meddwl grwydro, a phwy a ŵyr, efallai y gwnewch chi ddarganfod rhywbeth newydd…
Adnodd dysgu
Chwilio am rywbeth mwy manwl? Ceisio cynllunio’r wers gelf berffaith neu eisiau archwilio’r casgliad celf mewn grwpiau? Edrychwch ar y pecynnau adnoddau rydyn ni wedi’u creu.