After ‘A Baby’s Momentous First Five Minutes’, by Eve Arnold
After the blood, once the pelvic
scar has narrowed and paled
to a crescent moon, I take
up my camera. Brace for shutters
and makeshift light.
In Port Jefferson, the delivery
room is stark, a metallic tang
wetting the air. We wait,
poised –
and the baby unravels
from the umbilicus, his mother thundering
open. Lowing like a heifer.
And Steven is born.
At one minute old he curls a crinkled
foot towards the ceiling, splays
his toes like tulips. A bracelet is slapped
to each wrist, marked M for male. I watch,
thinking of other M words: mother,
momentous, miscarriage.
By two minutes, his catfish-blue
sheen begins to pink. The cord
already cut to a stump,
he hangs
like a hare
from the nurse’s fist. He is three minutes
old, twenty inches long, strong
enough to crunch his abdominals,
to buck his legs against
gravity’s unrelenting tug.
At four minutes, his father peers
through perspex, smiles his quiet approval:
a boy.
Already his soles have been pressed
to ink, his scalp sponged clean,
his eyes anointed. Already, I have
watched his whole life unfurl
through the lens.
He is five minutes old, swaddled
and laid bare in a plastic cot.
Arm outstretched,
he searches,
finds his mother’s fingertip, clings
to all he knows of the world.
I lower my camera.
Both our lives begin.
Ar ddiwedd y 1950au, dioddefodd Eve Arnold gamesgoriad a arweiniodd yn y pen draw at hysterectomi. Achosodd y ddioddefaint iselder dwys, a cheisiodd ei frwydro mewn astudiaeth agos o fecaneg genedigaeth yn Ysbyty Mather Long Island yn Port Jefferson yn ystod gaeaf 1959. Argraffwyd cyfres o luniau o’r astudiaeth yma, sy’n dogfennu genedigaeth Steven Woods, yng nghylchgrawn Life mewn traethawd ffotograffig o’r enw ‘A Baby’s Momentous First Five Minutes’.
Pan glywais fod Eve Arnold wedi ceisio lleddfu ei galar drwy rwymo ei hunan yn yr hyn a ddisgrifiodd fel ‘ffynhonnell’ ei phoen, roedd yn amhosib i ddioddefaint ei chamesgoriad a hysterectomi dilynol beidio â lliwio’r gerdd. Roedd y llun eiconig yn darlunio bywyd newydd, babi bach yn gafael ym mys ei fam ac yntai ond yn bum munud oed, wedi’i glymu gan drallod corfforol ac emosiynol colli plentyn. I Eve Arnold, roedd cymryd rhan yn y genedigaethau niferus a arweiniodd yn y pen draw at y traethawd lluniau enwog, a'r llun eiconig o'r ddwy law, yn ffynhonnell o iachâd, ac yn ffordd iddi ddechrau ei bywyd ei hunan o'r newydd.
Roeddwn i hefyd am gyfleu hanfod rhoi genedigaeth yn America’r pumdegau, y sterileiddio rhyfedd sydd iddo – yn lluniau Eve Arnold, mae’r babi’n cael ei slapio, tagio, pwyso, glanhau, mesur a’i eneinio a chaiff ei olion traed eu cofnodi. Byddai Steven wedi cael ei gludo i feithrinfa i gysgu, neu i grio yn ei grud, bron yn syth ar ôl ei enedigaeth. Mae gwrthgyferbyniad trawiadol rhwng yr amodau clinigol delfrydol a welir yn y lluniau du a gwyn, a realiti gweledol, gwaedlyd genedigaeth.
Tra bod llawenydd, cariad a dathlu i’w gweld yn y llun yma, mae tristwch a galar hefyd. Mae’r ddwy law, sy’n amlwg yn erbyn y cefndir du, yn cyflwyno sbectrwm o emosiwn dynol, ac roeddwn i’n teimlo ei bod yn hollbwysig cyfleu hynny yn y gerdd sy’n cyd-fynd â’r llun.
Cyrhaeddodd casgliad cyntaf o farddoniaeth Mari Ellis Dunning, Salacia, restr fer Llyfr y Flwyddyn 2019. Ers hynny mae hi wedi dod yn ail yng Nghystadleuaeth Stori Fer Lucent Dreaming a Gwobr Farddoniaeth Sylvia Plath. Mae Pearl and Bone, a ddewiswyd fel Casgliad Barddoniaeth Gorau Wales Arts Review yn 2022, ar gael gan Parthian nawr. Mae Mari yn ymgeisydd PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle mae’n ysgrifennu nofel hanesyddol wedi’i gosod yng Nghymru’r unfed ganrif ar bymtheg, yn archwilio’r berthynas rhwng cyhuddiadau o wrachyddiaeth, y corff benywaidd ac atgynhyrchu. Mae Mari’n byw ar arfordir gorllewinol Cymru gyda’i gŵr, eu dau fab, a’u poochon annwyl iawn.