CYNFAS

Geraint Ross Evans
9 Awst 2024

Dan ddŵr sy'n llifo

Geraint Ross Evans

9 Awst 2024 | Minute read

Rhaeadrau; O’r Gorffennol hyd Heddiw

Fy ngwaith diweddaraf Llif yr Ymwybod yw’r archwiliad cyntaf o syniad yn ceisio dwyn ffrwyth a chael ei sylweddoli.

Mae Llif yr Ymwybod yn dechrau gydag hunanbortread rhannol yn sefyll o dan raeadr, llygaid ar gau ac yn myfyrio. Mae’r dŵr wrth iddo lifo dros ben y prif gymeriad yn arf sy’n galluogi’r gwyliwr i deithio drwy’r llun wrth i’r dŵr symud i fyny ac i lawr y papur a theithio i lawr yr afon. Llifo heibio ‘golygfeydd’ a chyfarfodydd mae’r dŵr. Nid yw treigl amser yn llinol wrth i’r dŵr ruthio heibio ffigyrau hynafol, sy’n un â natur ar un plyg, a chwrdd â gliniadur a cheir ar un arall. Dyw’r darluniau sy’n cael eu portreadau ddim yn aros o fewn teyrnas ‘real’; triciau myfyriol gaiff eu chwarae gan ein ymwybod. Neu f’un i o leiaf. Mae’n gynrychioliad o waith dwi’n ei wneud ar fy hun, ar f’ymwybod, i gael clirio’m meddwl. Mae’r gwaith hwn yn ddarluniad ar bapur 1m wrth 2.3m wedi’i frwsio gyda grwnd pinc, gan ddefnyddio palet cyfyng o sialc gwyn a phensil lliw glas.

EVANS, Geraint Ross, Llif yr Ymwybod © Geraint Ross Evans

Fe ddechreuodd Llif yr Ymwybod wrth i mi deithio i ac ymdrochi i raeadrau de Cymru, yn sylwi ar feddyliau ac emosiynau drwy gydol y profiad hwn er mwyn rhoi gymaint o ddyfnder â phosib i’r gwaith. Yn gyfochr â hwn, roedd gwaith ymchwil wrth y bwrdd ac ymchwil o fewn amgueddfa yn allweddol wrth symud o syniad i’r dalen. Mae chwilio ‘rhaeadr’ o fewn Celf ar y Cyd yn gwobrwyo’r ymchwilydd gyda 59 o ganlyniadau. Yn gymysg o baentiadau, printiau, darluniau a ffotograffau. Oll yn darlunio taith fertigol dŵr yn arllwys. Yma, bydda i’n archwilio drwy rhai darnau dewisol, a fersiwn tipyn byrrach o’r broses a ddaeth i’w therfyn gyda Llif yr Ymwybod.

Ymgyfarfod ym Mro’r Sgydau

Mae darluniau inc niferus William Weston Young yn gain ac yn dra manwl eu portreadau o fyd natur. Mae’r teimlad yn olygfa o fewn ffrâm ffenest bell. Mae hwn yn gwneud synnwyr llwyr, mae gan Young ddiddordeb yn y pictiwrésg. Fe greodd y darluniau hyn i ddarlunio’i lyfr Guide to the Scenery and Beauties of Glyn Neath, gafodd ei gyhoeddi ym 1835. Roedd am wneud bro sgydau Glyn Nedd yn hygyrch. Eich encil penwythnosol rhag gwaith llafur a diwydiant y 19eg ganrif gyda’r wythnos. A fyddai wedi rhagweld y meysydd parcio?

Melincwrt Fall
YOUNG, William Weston
© Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Yn aml, mae ffigyrau bychain yn byw eu penwythnosau ar waelod ei ddarluniau o raeadrau; yn pysgota, darllen, disgwyl. Cyfeiriad maint dynol sy’n gwahodd ein dychymyg i’r gwagle.

Mae darluniau inc John Piper yn cyferbynnu’n llwyr gyda rhai Young. Mae’r ddau ddarlun o raeadrau o fewn y casgliad yn archwilio fertigoledd y pwnc, gyda lluniau sy’n sefyll uwch ein pennau. Rydyn ni bellach yn sefyll lle mae ffigyrau Young wedi’u cyfleu, rydyn ni’n gweld trwy eu llygaid nhw.

Mae Piper yn llwyddo i greu mynegiant enfawr mewn inc o garreg a dŵr; llinellau gwrychog, marciau brwsh fel mop a niwl myglyd wedi’i osod gyda phren balsa o bosib; y dechneg o ganol y ganrif fyddai’n gydradd â sychu pen marciwr. Mae’n hawdd dychmygu dylanwad paentio tirluniau Tseina yma. Mae ei waith yn fwy gwyllt, wedi dod gan ei brofiad o fod yno, ei ymgyfarfyddiad.

Crooked Anvil Pyrddin
PIPER, John
© Ystâd Piper/DACS 2024/Amgueddfa Cymru

Mae darluniad safle Piper Crooked Anvil Pyrddin yn teimlo’n drwm gan ficrohinsawdd y pwnc. Mae’r ewyn wedi taro’r dudalen gan roi’r olwg o ddŵr tywyll i’r graig gyda’r rhaeadr ei hun wedi’i gadw’n lanach, yn debycach i graig.

Mae yna bwysau i’r tywyllwch yma. Gydag absenoldeb llythrennol ffigyrau, mae’r presenoldeb dynol yn brofiadol a seicolegol. Mae’r darlun yn arteffact o leoliad a theimlad yn y modd nad yw pellter diogel Young yn ei gynnig.

Dwi’n dod o hyd i ddealltwriaeth o fewn y gwaith yma. Roeddwn yn teimlo pwysau a gwylltineb yn fy ymdrochiad dŵr oer fy hun yn y rhaeadrau uwchben Blaenrhondda a Glyn Nedd. Ym mis Rhagfyr y llynedd, fe wnes i baratoi i gyfarch y rhaeadrau oer, grymus. Rwy’n sefyll o dan garreg tywyll sy’n diferu, mae’n taflu dros ei sawdl, wedi’i tanseilio gan amser. Dychmygaf deulu o fwystfilod sy’n hel bywoliaeth y tu fewn. Yn y pen draw dwi’n cyflwyno fy hun, a chael fy amgylchynu gan ddŵr sy’n rhuthro, rhewllyd ac yn rhuo. Porth i’r cychwyn pell cysefin. Mae fy nghalon sy’n carlamu a’n anadlu twfn yn arafu wrth i mi ennyn rheolaeth. Mae fy meddwl yn tawelu.

Yn sych, dwi’n dod o hyd i ynys fach. Dwi’n gwneud defnydd o’r tawelwch i greu astudiaethau o lle mae dŵr yn cyrraedd pwll, archwilio’r symudiad drwy’r siapiau y patrymau a’r gweadedd, blaenau fy mysedd yn wyn. I’r gwrthwyneb â selfie stick, y broses darlunio nid yr allbwn yw’r ffocws fan hyn. Mae’r marciau’n dangos olion cysylltiad â’r byd tu fas. Ymhen yr hir a’r hwyr mae’r papur yn gwlychu gormod ac mae fy mhensiliau siarcol yn gadael marciau tywyll gludog ar draws y papur. Amser i fynd oddi yno.

Mae’r sŵn yn tawelu wrth i mi ail-ymuno â “chymdeithas” drwy gyfres o arwyddbostau; gweddillion tân, rhywfaint o haearn wedi’i ddirdroi, fy olion traed ben-i-waered yn y mwd, argae bach concrit, can cwrw gwag, llwybr troed, botel blastig, can cwrw gwag arall, bodau plastig wedi’u clymu wrth giât. Mae sŵn hirbell y ffordd yn malu gweddillion hud y gwylltir.

Yn ôl yn y stiwdio

Dwi’n adlewyrchu ar fy mhrofiadau, fy archwiliadau a’m ymchwil. Mae darluniau Young a Piper yn rhannu’u gwreiddiau yn y neilltuol. Boed yn ymgyfarfyddiadau neu gyfathrebu, maen nhw’n disgrifio lleoliadau. Gyda Llif yr Ymwybod rwy’n dymuno cyrraedd yn bellach. I fynegi nifer o feddyliau a theimladau sy’n siapio’r profiad dynol. Taith sy’n gorfodi ehangu ar yr olygfa tu hwnt i’r rhaeadr, dilyn llif y dŵr yn datblygu i lawr yr afon drwy gamau ei fywyd.

Dwi’n defnyddio creu delweddau fel man chwarae i archwilio syniadau. Tra’n creu Llif yr Ymwybod dwi’n ystyried sut mae’n edrych a theimlo i fod yn fyw ar hyn o bryd. Sut mae profiadau mewnol ac allanol yn uno. Mae fy narluniau’n arbrofion, a’r un hwn yn ddim gwahanol. Dwi eu hangen i ddeall teimladau, meddyliau a sylwadau sydd ddim yn ymgyfarfod mewn realiti. Yn Llif yr Ymwybod, dwi’n ystyried;

Sut ydyn ni’n ymgysylltu gyda’n rhaeadrau ac afonydd heddiw?

Sut mae llygrwyr y meddwl yn amlygu eu hunain fel llygrwyr y byd go iawn?

Ydy deall meddwl rhywun yn ein galluogi i ganfod nerth, dewrder a mewnweliad i newid pethau er y gorau?

Wedi f’amgylchynu gan ddarluniau, atgofion a dychmygion sylwadol; dwi’n gosod her i mi o allu gadael fynd, darlunio wrth i bynciau ddod i’r meddwl, ddim yn cwestiynu eu pwysigrwydd, gwerth neu leoliad. Mae’r cwrs dŵr ei hun yn ‘lif yr ymwybod’. Mae ‘llygrwyr’ y meddwl yn weledol yn mynd i’r dyfrffordd, gan amlygu fel llygrwyr go iawn, rhwystrau ac ymyriadau yn teithio i lawr yr afon. Dyma fy myfyrdod fy hun ar bynciau cyfoes sy’n gallu ein taflu fel unigolion ac aelodau o’r boblogaeth fydol.

Cafodd fy narluniau, yn cynnwys Llif yr Ymwybod eu hardddangos fel rhan o Silent Revolution / Chwyldro Tawel – arddangosfa ar y cyd gyda Sue Williams yn BayArt yng Nghaerdydd yn 2024.


Artist ffigurol o Gaerdydd yw Geraint Ross Evans sy’n defnyddio darlunio fel man chwarae i archwilio materion cyfoes cymhleth drwy olwg pobl a lle. Fe astudiodd ym Mhrifysgol Metorpolitan Abertawe a’r Ysgol Ddarlunio Brenhinol yn Llundain, lle mae bellach yn addysgu. www.geraint-evans.com @geraintevans_artist


Share


More like this