Prosiect o gydweithrediad rhwng CELF: oriel gelf gyfoes genedlaethol i Gymru, Oriel Myrddin a disgyblion Ysgol Gyfun Maes y Gwendraeth – dan arweiniad yr artist Angharad Pearce Jones a Swyddog Addysg Oriel Myrddin, Mary Sikkel
Ysgrifenodd Angharad Pearce Jones am ei phrofiad
Pan gefais y gwahoddiad i gymryd rhan mewn prosiect i wneud Casgliad Celf Gyfoes Cenedlaethol Cymru yn berthnasol i gynulleidfaoedd newydd, doedd genai ddim rhagfarn am pa weithiau o’r casgliad hwnnw fyddai’n ysbrydoli pobl ifanc Sir Gaerfyrddin.
Gan fy mod yn gweithio gyda dur, ar raddfa ddiwydiannol, cefais fy nenu yn gyntaf at ffotograffau David Hurn o Waith Dur Shotton a menywod yn gweithio mewn ffatrïoedd ledled Cymru yn y 1980au. Edrychais hefyd ar brintiau monocrom Frank William Brangwyn o bontydd yn cael eu hadeiladu ac yna symudais ymlaen at y ffotograffydd Almaeneg, Peter Keetman. Mae'r casgliad digidol, fodd bynnag, wedi'i gynllunio mewn ffordd sy'n awgrymu artistiaid eraill i edrych arnynt, a dyna sut ddos i ar draws set o Lithograffau gan artist nad oeddwn erioed wedi clywed amdano o'r blaen. Yr artist hwnnw yw Hanlyn Davies, o Gorseinon, a astudiodd Gelfyddyd Gain yng Ngholeg Celf Abertawe cyn croesi’r mor i astudio yn Havard, yr Unol Daleithiau ac sy'n parhau i fyw yn yr UD hyd heddiw.
Cefais fy nenu i ddechrau at y dryswch o linellau lliwgar yn ei brintiau ac ro’n i wrth fy modd â'r ymdeimlad o drefn, er gwaethaf yr argraff o anhrefn. Yn yr un modd, mewn cerfluniau diweddar fy hun, rwyf wedi bod yn ail-greu golygfeydd o 'Rheiliau wedi'u Malu' ac yn ceisio dyrchafu'r anhrefn i weithiau celf newydd. Yr her fyddai sut i ddiddori grwpiau o ddisgyblion Ysgol Uwchradd mewn set o brintiau haniaethol o’r 1970au.
Penderfynais gyfuno gweledigaeth Hanlyn Davies gyda fy sgiliau adeiladu, i ryddhau dychymyg y plant. Adeiladais 3 ffrâm ddur enfawr ar olwynion, i gynrychioli ymylon llun a chyflwynwyd y disgyblion i wahanol sgiliau pren a metel ynghyd â deunyddiau newydd fel ffyn pren, bariau dur, mesh, gwifren ddur a phapur wal. Mewn grwpiau, cawsant y dasg o ddefnyddio gwaith Hanlyn Davies fel ysbrydoliaeth ar gyfer paentiadau 3D ar raddfa fawr y gellid eu gweld o'r ddwy ochr.
Roedd sgiliau, dyfeisgarwch a gallu’r disgyblion i ganolbwyntio yn llawer gwell na'm disgwyliadau a'r hyn a'm synnodd fwyaf oedd nad oedd yr un disgybl yn cwestiynnu’r ffaith ein bod ni’n creu gwaith hollol haniaethol. Trafodwyd pwysigrwydd cyfansoddi a chreu sylfaen cryf ar gyfer celf gweledol 'brysur' ac ar yr ail ddiwrnod, cawsant eu hannog i olygu ac ailweithio, gan wneud newidiadau i rannau o'r gwaith nad oedd mor llwyddianus ag eraill. Drwy gydol y ddau ddiwrnod, fe wnaethom hefyd edrych ar sut mae gwaith Hanlyn Davies yn ffitio yng nghyd-destun celf haniaethol rhyngwladol ac artistiaid sy'n cynnwys eitemau a deunyddiau 3-dimensiwn bob dydd yn eu gwaith, fel Anselm Kiefer, Louise Nevelson a Jessica Stockholder.
Mae addysg gelf mewn ysgolion wedi dod yn fwyfwy cyfyngedig i lyfrau braslunio a gweithiau ar bapur, a dyna pam mae gweledigaeth swyddogion addysg orielau, megis Mary Sikkel mor bwysig, gan roi cyfle i bobl ifanc fynegi eu hunain mewn amrywiaeth enfawr o gyfryngau a graddfeydd. Mae ei chrynodeb o’i huchafbwyntiau hi, dros gyfnod y prosiect yn crynhoi'r profiad yn berffaith.
Ysgrifennodd “Pan ddaeth y grŵp yn gynnar ar yr ail ddiwrnod pan oeddwn i yno ar ben fy hun - yn llawn egni, fe wnaethon nhw i gyd ruthro i fyny'r grisiau i barhau. Pan gafodd y disgyblion siarad â Hanlyn Davies, 84 oed, ar alwad fideo ar-lein. Pan roddodd y cynorthwyydd addysg gwtsh mawr i mi a dweud faint roedd y profiad hwn yn ei olygu i rai o'r disgyblion sy'n cael dysgu yn yr ystafell ddosbarth yn fwyaf heriol. Gweld y cysylltiadau a wnaed a hyder y pobl ifanc i greu darnau unigol, llai, wedi seilio ar y cerfluniau mwy a roeddent mor falch ohonynt ac yn olaf, rholio'r darnau gorffenedig i'r oriel i bawb gael eu gweld.”
Diolch yn fawr i Angharad, i Mary, i Hanlyn ac wrth gwrs i holl ddisgyblion Ysgol Maes y Gwendraeth.