Mae'r Gêm Frenhinol Ur yn gêm fwrdd rasio strategol i ddau chwaraewr, math o gêm fwrdd a chwaraewyd gyntaf yn y Mesopotamia hynafol yn gynnar yn y drydedd fileniwm CC. Roedd y gêm yn boblogaidd ledled y Dwyrain Canol ymhlith pobl o bob haen gymdeithasol, ac mae byrddau ar gyfer ei chwarae wedi'u canfod mewn lleoliadau mor bell o Mesopotamia â Creta a Sri Lanka. Mae un bwrdd, a sydd yng nghasgliad yr Amgueddfa Brydeinig, yn deillio o dua 2600 – tua 2400 CC, gan ei wneud yn un o'r byrddau gêm hynaf yn y byd.
Weithiau mae'r Gêm Frenhinol Ur yn cael ei chymharu â gêm hynafol arall y mae'n debyg iawn iddi, sef Gêm yr Ugain Sgwâr.
Ar ei hanterth, roedd gan y gêm arwyddocâd ysbrydol, a chredwyd bod digwyddiadau yn y gêm yn adlewyrchu dyfodol y chwaraewr ac yn cyfleu negeseuon gan dduwiau neu fodau goruwchnaturiol eraill. Byddai’r Gêm Ur yn parhau’n boblogaidd tan ddiwedd yr henfyd, pan stopiodd gael ei chwarae, ac o bosib esblygu i fod yn fath o gêm fyrddau, neu gael ei disodli gan fath o gêm fyrddau. Yn y pen draw, cafodd ei hanghofio ym mhobman ag eithrio ymhlith poblogaeth Iddewig dinas Kochi yn India, a barhaodd i chwarae fersiwn ohoni o'r enw 'Asha' tan y 1950au pan ddechreuon nhw ymfudo i Israel.
Cafodd y Gêm Ur ei henw oherwydd iddi gael ei hailddarganfod gyntaf gan yr archaeolegydd o Loegr Syr Leonard Woolley yn ystod ei gloddiadau ym Mynwent Frenhinol Ur rhwng 1922 a 1934. Mae copïau o'r gêm wedi cael eu darganfod ers hynny gan archeolegwyr eraill ledled y Dwyrain Canol. Mae disgrifiad rhannol mewn cŵnffurf o reolau Gêm Ur fel y'u chwaraewyd yn yr ail ganrif CC wedi'i gadw ar dabled clai Babilonaidd a ysgrifennwyd gan yr ysgrifennydd Itti-Marduk-balāṭu.
Yn seiliedig ar y dabled hon a siâp y bwrdd gêm, ail-greodd Irving Finkel, curadur yr Amgueddfa Brydeinig, y rheolau sylfaenol o sut y gallai'r gêm fod wedi cael ei chwarae. Amcan y gêm yw rhedeg cwrs y bwrdd a chario’ch holl ddarnau o flaen eich gwrthwynebydd. Fel backgammon modern, mae'r gêm yn cyfuno elfennau strategol a lwc.
Gêm Frenhinol Urm...?
gan William Romeril
Yn 2025 ar gyfer comisiwn Ymddiriedolaeth P&O Makower, aeth y gof arian Will Romeril ati i ail-greu’r bwrdd gêm gydag 20 sgwâr sy’n cynnwys dyluniadau a gwybodaeth sy’n perthyn i ffeithiau ac ystadegau wedi’u canfod mewn adroddiadau’r llywodraeth, darparwr gwasanaeth a gwefannau data economaidd. Dyma adlewyrchiad ar y ffaith fod isadeiledd Prydain gyfoes yn gêm nad ydym ni’n gwybod sut i’w chwarae. Gyda'r teitl addas: Gêm Frenhinol Urm...?
Fersiwn chwarae o’r Gêm Frenhinol Urm...?
Roedd y cyfle i gomisiynu fersiwn chwarae o Gêm Frenhinol Urm…? mor bwysig ar gyfer hygyrchedd. Pan fydd unrhyw wrthrych yn cael ei arddangos mewn cas, caiff ei ddiogelu a'i roi mewn cyd-destun gwahanol. Caiff ei newid o rywbeth rydych chi'n ei gyffwrdd ac yn rhyngweithio ag ef i rywbeth rydych chi'n edrych arno ac yn ei ddychmygu.
Creodd Will Romeril fersiwn chwarae o'r Gêm Frenhinol Urm…? fel y gall ymwelwyr ddefnyddio'r gêm fel y bwriadwyd iddi'n wreiddiol. Er efallai nad ydym yn gwybod y rheolau, gallwn gysylltu â phobl a oedd yn byw filoedd o flynyddoedd yn ôl. Gallwn ddychmygu beth allai eu bywydau a'r systemau yr oeddent yn byw yn ôl fod wedi bod a'u cymharu â'n rhai ni.
Mae'r Gêm Frenhinol Urm...? yn gomisiwn gan Ymddiriedolaeth P&O Makower sydd ar fenthyg hir-dymor i Amgueddfa Cymru, ac yn cael ei arddangos yng Nghanolfan Grefft Rhuthun fel rhan o arddangosfa Casgliad Ymddiriedolaeth P&O Makower gan Amgueddfa Cymru o 28 Mawrth - 14 Mehefin 2026. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Canolfan Grefft Rhuthun.