Comisiwn digidol newydd yn ymateb i'r thema Gwleidyddiaeth, Protest ac Ymgyrchu gan Cynthia MaiWa Sitei.
Pan oedden ni'n ifanc, roedd fy mrawd a minnau'n dyst i gyfiawnder y dorf ar ei waethaf. Roedden ni newydd orffen yn yr ysgol ac ar ein ffordd adref i orffen y diwrnod. Dim ond pellter cerdded o'r ysgol oedd adref, heb fod yn rhy bell ond heb fod yn rhy agos chwaith. Yr hyn ddigwyddodd oedd mygio wedi mynd o'i le. Roedd dyn wedi ceisio dwyn pwrs oddi ar fenyw, roedd yn stryd agored brysur lle'r oedd llawer yn digwydd ac roedd yn olau iawn hefyd, dim ond 5pm y prynhawn oedd hi. Sgrechiodd y ddynes, "mwizi mwizi mwizi (lleidr lleidr lleidr), mae e newydd ddwyn fy mhwrs." Dechreuodd pobl redeg ar ôl y dyn ac yno cafodd ei ddal a'i guro o flaen pawb. Doedd hi ddim yn olygfa i neb ei gweld, heb sôn am blant oedd ar eu ffordd adref o'r ysgol.
Mae cyfiawnder y dorf yn weithred lle mae aelodau'r cyhoedd yn cymryd materion i'w dwylo eu hunain i gosbi pobl dan amheuaeth. Gweithred sy'n annerbyniol, ac na ddylai byth fod.
Mae wedi arwain at farwolaethau creulon lle mae pobl dan amheuaeth wedi eu lladd am ddwyn bwyd neu rywbeth mor ddiystyr â bag llaw neu bwrs. Ni ddylai unrhyw berson wynebu cosb heb broses gywir a threial teg. Mae cyfiawnder y dorf yn tynnu sylw at fethiant mewn plismona gan ei fod yn dangos nad oes gan aelodau'r cyhoedd hyder yn yr heddlu ac mae'n well ganddyn nhw gymryd materion i'w dwylo eu hunain.
Ni ddylai'r hyn a welais i a'm brawd fod wedi digwydd i blant mor ifanc â ni nac unrhyw blentyn arall oedd o gwmpas ar y pryd, buom yn siarad llawer amdano wrth dyfu i fyny gyda’n ffrindiau a'n teulu a hyd yn oed rhyngon ni’n hunain pan symudon ni i Brydain a meddwl tybed a oedd y dyn yna'n euog o ddwyn y pwrs hwnnw neu beidio. Cyhyd ag y gwyddon ni, gallai fod wedi bod yn pasio yn ddiniwed a chael ei adnabod ar gam fel lleidr, a beth os mai ef oedd y lleidr go iawn? Ai dyma sut y dylai oedolion ddelio â throseddu a throseddwyr? Pa esiampl oedd yr oedolion hynny oedd yn curo'r dyn yna yn ei dangos i ni a'u plant nhwythau os oes ganddyn nhw rai ac a oedd o gwmpas y lle ar yr un pryd?
A ble’r oedd yr heddlu meddech chi? Ac a wnaeth unrhyw un geisio ffonio'r heddlu cyn iddyn nhw ddechrau curo’r dyn yna? Cyn i'r dyn â'r garreg enfawr falu ei wyneb. Ac a gafodd y dyn yna a falodd wyneb y "lleidr" gyda charreg ei erlyn? A gafodd ei garcharu hefyd? Beth am bawb arall a gymerodd ran yn y curo creulon? A gawson nhw eu dal gan yr heddlu? A oedd yr heddlu hyd yn oed am chwilio amdanyn nhw? Neu a wnaethon nhw ddweud wrth bawb, da iawn a diolch am eich help.
Mae'r ffilm fer hon yn tynnu sylw at y materion sy'n ymwneud â chyfiawnder y dorf a phan fydd pobl yn mynd â'r gyfraith i'w dwylo eu hunain i gosbi troseddwr, sy'n parhau i ddigwydd mewn gwahanol rannau o Kenya ac Affrica hyd heddiw.
Ynglŷn â Cynthia MaiWa Sitei
Yn wreiddiol o Kenya, cafodd straeon ddylanwad mawr ar fagwraeth MaiWa; roedden nhw'n fath o adloniant yn ystod ac ar ôl swper ac yn ddull dibynadwy o gyfathrebu wrth ddod â phobl at ei gilydd a chreu gofodau lle’r oedd pawb yn gyfartal beth bynnag eu hoedran, eu cyfoeth a'u hiechyd. Mae ei gwaith yn integreiddio ffotograffiaeth a thestun, ac yn archwilio themâu stereoteipiau, rhagfarn a gwahaniaethu.
Symudodd MaiWa i Gymru yn 2017, lle dilynodd radd Meistr mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol De Cymru, gan raddio yn 2019.