Comisiwn digidol newydd gan Jack Lewis mewn ymateb i'r thema Gwleidyddiaeth, Protest ac Ymgyrchu.
LEWIS, Jack, Beirdd Cymru © Jack Lewis
Mae'r darn hwn yn adlewyrchu'r gerdd o’r un teitl, a gyfansoddwyd gan Janos Arrany ym 1857 sy'n darlunio gwrthwynebiad dychmygol beirdd Cymru yn erbyn Brenin Edward I ar ôl ei goncwest greulon a darostwng y bobl. Un wrth un mae’r beirdd yn ymwrthod ac yn cael eu lladd: cânt eu dienyddio a'u llosgi'n fyw wrth ganu sut oedd y Brenin Edward wedi dod â dim byd ond gofid a diffeithwch i’r wlad. Mae'r gerdd hon yn glyfar wrth ddefnyddio'r tensiwn hanesyddol rhwng Cymru a Lloegr fel mwgwd ar gyfer gwlad y bardd ei hun, Hwngari, a'i pherthynas debyg â’r Awstria gyfagos. Roedd Awstria wedi atal gwrthryfel cyn i Janos gael ei gomisiynu gan ymerawdwr Awstria i greu cerdd i ganu ei glodydd, un debyg i rai beirdd Cymru.
Jack Lewis Bywgraffiad
Mae fy ngwaith peintio yn archwilio hunaniaeth Gymreig drwy dirwedd, cymuned, hanes a llên gwerin. Gan ddefnyddio mynyddoedd, adfeilion, iaith a phobl bob dydd, rwy'n creu paentiadau beiddgar, onglog gydag arwynebau trwchus, llawn gwead sy'n pwysleisio pwysau a lle. Mae'r gwaith yn ystyried Cymreictod fel atgof a rennir a phrofiad byw, gan gyfuno myth, hanes a straeon cyffredin i ddangos hunaniaeth fel rhywbeth sydd wedi'i hadeiladu ac sy’n esblygu. Mewn cyd-destun ehangach, mae'r paentiadau hyn yn ymateb i dangynrychiolaeth diwylliant Cymru. Drwy roi naratifau, pobl a lleoedd lleol yn y blaen, mae'r gwaith yn honni gwelededd diwylliannol ac yn gwahodd ymgysylltiad ehangach â chwestiynau treftadaeth, perthyn a hunaniaeth o fewn cyd-destun byd-eang.