CYNFAS

Rhiannon Gwyn
25 Gorffennaf 2023

Y nefoedd yn toddi i’r tir: Cymru a Chymreictod

Rhiannon Gwyn

25 Gorffennaf 2023 | Minute read

Y nefoedd yn toddi i'r tir, GWYN, Rhiannon, © Rhiannon Gwyn 

Mae fy ngwaith yn archwilio’r cysylltiadau dwfn rhwng pobl a’r dirwedd. Mae gennyf ddiddordeb mewn gweld sut y gall deunyddiau ddangos hunaniaeth, gan ddylanwadu ar y ffordd rydym yn gweld ein hunain a’r byd o’n cwmpas trwy argraffu ein hemosiynau a’n cof ar ein hamgylchfyd.

Mae fy ngwaith yn darlunio harddwch garw y dirwedd o amgylch fy nghartref, sef pentref chwarelyddol yng ngogledd Cymru trwy ddefnyddio llechi Cymru a deunyddiau eraill lleol. Byddaf yn archwilio potensial llawn llechi trwy eu cyfuno â phrosesau cerameg i greu gwrthrychau sy’n dangos ffurfiau’r tir fel rhan o broses gylchol lle rwyf i wedi cael fy siapio’n bersonol gan y dirwedd ac yna’n ffurfio a siapio ei deunyddiau crai. Mae’n broses o ffurfio’r deunyddiau sydd wedi fy ffurfio i.

Caiff y nodweddion hyn eu hadlewyrchu yn siapiau’r llechi wrth eu tanio ar wres uchel nes eu bod yn meddalu ac ym mhatrymau a lliwiau’r cerameg a grëir gyda gwydredd o lechi a deunyddiau eraill byddaf yn eu casglu fel blodau’r eithin.

Share


More like this