Enw: Calon yn Deilchion
Cyfrwng: Paent olew
Pwnc: Dynes â’i brest ar agor. Mae’r galon yn gynllun pensaernïol o Adfeilion Simbabwe Fawr, a oedd ar un adeg yn ganolfan i Ymerodraeth Simbabwe Fawr yn Ne Affrica. O’u gweld o’r awyr, mae’r adfeilion hyn yn union yr un fath â’r hyn y mae’r galon ddynol yn edrych pan gaiff ei thorri yn ei hanner. Mae’r ddelwedd yn symbol o dreftadaeth adeiladwyr Karanga a greodd y rhyfeddod hwn o’r 9fed ganrif. Mae osgo a mynegiant y fenyw yn adlewyrchu’r hanes coll a niwl y cof a achoswyd gan gofnodion rhagfarnllyd gwladychwyr Prydeinig a oedd yn nodi na allai’r strwythur fod wedi ei adeiladu gan y bobl leol.
Maint: A1
Mae Tanyaradzwa Chiganze yn artist, cynorthwy-ydd pensaernïol, a dawnsiwr Lladin sydd wedi bod yn gwneud gwaith ymgyrchu celfyddydol ers 2018. Astudiodd ar gyfer BSc mewn Pensaernïaeth ym Mhrifysgol Caerfaddon, lle datblygodd ei chariad at uno bodau dynol â strwythurau adeiladau. Hyd heddiw, mae hi’n edmygu dirgelwch, harddwch, ac ystyr, gan greu delweddau hudol yn aml wedi eu hysbrydoli gan Simbabwe, Cymru a thu hwnt. Mae wedi arddangos ei gwaith celf mewn arddangosfeydd gan gynnwys Girl Xhibition yn Nheml Heddwch Caerdydd a Chynhadledd Llais Ieuenctid BAME yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Mae hefyd wedi cyflwyno sgyrsiau am ei phensaernïaeth a’i gwaith fel artist yn y digwyddiadau ‘Creative Mornings: Underdog’ a ‘RIBA Future Architects: Behind the Scenes in Practice’. Mae hi ar gael ar gyfer comisiynau ac yn parhau i werthu ei gwaith celf ar y llwyfannau isod: