CYNFAS

Lydia Niziblian
11 Awst 2023

Crogdlws

Lydia Niziblian

11 Awst 2023 | Minute read

Crogdlws, NIZIBLIAN, Lydia, © Lydia Niziblian 

Pan oeddwn i’n sâl roeddwn i’n teimlo’n hollol wag a fflat – fel gwactod llwyr, ofnadwy. 

Dros amser, dechreuodd darnau ohonof i ailymddangos yn raddol.

Gwthiodd y golau a’r gwead a’r gwallgofrwydd yn araf drwy’r craciau i’r gwactod nes oeddwn i bron fy hun eto. 

 

Crogdlws 55mm ar led, wedi’i wneud yn gyfangwbl o ddeunyddiau wedi eu hailgylchu: arian, aur 18 carat a gemau. 

 


Bio Lydia Niziblian  

Ers 2009 dw i wedi bod yn gweithio o fy stiwdio yn fy nhref enedigol, Caerdydd, fel dylunydd/gwneuthurwr gemwaith annibynnol. Rwy’n defnyddio technegau gefail traddodiadol a deunyddiau sy’n dod o ffynonellau sydd wedi’u canfod yn ofalus. Mae pob darn rwy’n ei wneud yn cael ei wneud gyda’r bwriad o ysbrydoli’r teimlad hapus o ddarganfod trysor.

Share


More like this