Mae’r stiwdio lle mae Paul Mpagi Sepuya yn creu mwyafrif ei ffotograffau hefyd yn un o’i brif destunau. O un gwaith i’r nesaf, ran amlaf mewn deialog â chyrff ei gariadon a’i gymrodorion, sydd fel arfer yn wrywaidd, yn Ddu ac yn noeth, awgryma’r artist bosibiliadau newydd ar gyfer delweddu potensial (a photensial delweddu) y stiwdio i gynnal gwahanol fathau o agosatrwydd corfforol. Mewn ffotograffau lle mae’n coreograffu cyrff, drychau a pheiriannau’n ofalus, daw’r stiwdio’n le o feddalwch a chyffyrddiadau tyner, lle caiff rhwydweithiau queer a chelfyddydol eu meithrin yn breifat ac yn gyhoeddus. Daw’r bobol mae Sepuya’n portreadu, y gofodau maen nhw’n meddiannu, a’r dechnoleg a ddefnyddir i’w delweddu, yn un, a dyma sy’n diffinio’r math nodedig o bortreadaeth gyfoes mae wedi adeiladu dros ei yrfa.
Mae cyrff yn ymddangos yn Studio (0X5A4983) gan Sepuya, sydd yn ein casgliad cenedlaethol, ond nid y cyrff na’r gofod o’u cwmpas yw protagonist y ddelwedd. Yn chwarae’r rôl yna mae’r camera ei hun. Yn ddu-bitsh reit ynghanol y ffrâm, mae'r peiriant yn datgan ei gryfder a'i ddylanwad, gan fynnu bod ei wyliwr yn cwrdd â’i edrychiad. Wrth bwysleisio offeryn ffotograffiaeth ei hun fel testun breintiedig y ddelwedd, amlyga’r artist artiffisialrwydd a natur berfformiadol y weithred o greu llun. Tra bod drychau, a cyrff wedi eu hadlewyrchu ynddynt, yn ymddangos dro ar ôl tro yn ei waith, dyma wthio gyrriad hunan-fyfyriol ei ffotograffau i’w eithaf: Pwy neu beth yw ‘testun’ y ddelwedd hon? Pwy neu beth yw'r artist? A ble ydyn ni'n ffitio i mewn?
Yn ei ddelweddau mwyaf adnabyddus, mae’r stiwdio’n ofod golau a chwareus. Yn ei waith mwy diweddar, llenni a pheiriannau a gwrthrychau du sy’n dominyddu. Caiff yr adwaith rhwng golau a thywyll, motiff hir-dymor, ei amlygu’n fwyfwy. (Enw arddangosfa unigol ddiweddara’r artist yn ei oriel Vielmetter yn Los Angeles oedd Daylight Studio/Dark Room Studio.) Pan mae cyrff yn ymddangos, maent fel arfer wedi eu torri i fyny a’u haniaethu. Nid ‘tywyllwch’ yn union mae tywyllwch penodol Sepuya yn dynodi ond posibilrwydd, dihangfa, dirgel. Wedi'u delweddu yn y tywyllwch, beth all cyrff fod?
A darkroom is a room for processing light-sensitive photographic materials. Darkroom, Dark Room, The Darkroom or The Dark Room may also refer to: Dark room (sexuality), a darkened room, sometimes located in a nightclub, gay bathhouse or sex club, where sexual activity can take place. All pages with titles containing dark room. All pages with titles containing darkroom. Black room (disambiguation). Dark (disambiguation). Room (disambiguation).
Ac ar y pwnc o ddihangfa. Mae gweld delwedd Paul Mpagi Sepuya yn fy anfon at le penodol, nid i unrhyw ofod a ddehonglir yn ei waith ond i le ac amser penodol yn fy mywyd i. Fe oedd yr artist ar glawr Artforum y mis i mi ymweld ag Efrog Newydd pan oeddwn yn ddau-ddeg-dau, sef hefyd fy nhro cynta’n gadael Ewrop. Mae rhywbeth am ymweld â dinas newydd, yn enwedig un mor or-gyfarwydd o lyfrau, ffilmiau, teledu a chyfryngau cymdeithasol, sy’n cryfhau eich cydnabyddiaeth o’r foment hanesyddol rydych chi yn ei chanol. Fel mae’n digwydd, hwn oedd hefyd y mis roedd y D.G. fod i adael yr Undeb Ewropeaidd yn swyddogol. Roeddwn i newydd ddechrau fy swydd gyntaf yn y byd celf, gyda gŵyl ffotograffiaeth yng Nghaerdydd. Roedd hi’n amser a roedd hi’n le, roeddwn i yn Efrog Newydd, ac roedd Paul Mpagi Sepuya ar glawr Artforum. Roedd pethau’n digwydd, a theimlais y cyfan ag angerdd ffrwydrol.
Roeddwn i yn Efrog Newydd ar fwrsari gan y Cyngor Prydeinig, fy nhrip “gwaith” cyntaf erioed. Roedd hi’n anodd credu mai dyma oedd fy mywyd, o leiaf am wythnos, ond credais y dylwn drio fy ngorau i esgus. Achlysur y clawr Artforum hwnnw oedd arddangosfa Sepuya yn oriel Team yn SoHo, The Conditions, sioe dwi’n ei chofio’n hynod glir. Dydy troi rhywun mlaen ddim yn flaenoriaeth yn ei waith, ond mae rhywbeth am edrych arnynt wedi’u grwpio gyda’i gilydd mewn gofod breintiedig sy’n amlygu eu perthynas â’r erotig. Rydym yn gwybod bod portreadaeth, cyfrwng sy’n cwmpasu gymaint o dechnolegau a hanesion â’r cysyniad o gelf ei hun, yn cydweddu at erotics o edrych. Fframio, tynnu, dal: geirfaoedd sy’n gyfoethog â chysylltiadau amwys. Roedd yr holl arddangosfa’n teimlo’n fyw, fel petai’r delweddau’n siarad ’nôl at fy edrychiad, yn sibrwd yn fy nghlust.
Mae bron yn anochel i’r profiad o fod mewn dinasoedd newydd ar ben eich hun wahodd cymhariaethau â’r weithred o cruisio hoyw. Mae’n gysylltiad mor gyfarwydd nes bod yn cliché o sgwennu hoyw, ond mae wedi cysylltu’n enwedig yn fy meddwl i gydag Efrog Newydd. Rwyt ti’n hyper-ymwybodol o symudiad cyrff dieithrod ymysg ei gilydd, a gall pob cyswllt llygad arwain at fyd o bosibilrwydd. Yr un diwrnod i mi ymweld â The Conditions, gwelais lwyfaniad Efrog Newydd o arddangosfa Cruising Pavilion, prosiect curadurol sy’n archwilio cysylltiadau rhwng rhyw hoyw a phensaernïaeth (ac, yn fwy cynnil, y weithred o greu arddangosfeydd). Yn neunydd yr arddangosfa i’r wasg, disgrifir Efrog Newydd fel “the ‘Teatro Olimpico’ of architecture’s sexual experiments,” gan amlygu hanes cyfoethog y ddinas o ofodau o ryddhäedigaeth i bobl hoyw/queer/traws allu darganfod ac arbrofi, ac hefyd moddau treisgar y ddinas o glampio lawr ar y fath ofodau. “Following Charles Jencks’ definition of postmodern cities as machines for sustaining difference,” sgwenna’r curaduron, “it appears that the relation between the metropolis and cruising is crucial for measuring its capacity to host and generate new ways of thinking, loving, living, belonging and allying.” Efallai na fod y weithred o edrych ar ffotograffau o gyrff, y weithred o ymlwybro dinasoedd newydd a’r weithred o cruisio am ryw mor wahanol i’w gilydd.
Chyhoeddais i fyth (tan nawr) yr un gair am y trip hwnnw, nag unrhyw beth welais yno; mae’r holl wythnos felly’n bodoli dim ond yn y cof, a dim ond i fi. Ddeng mis yn ddiweddarach, gwelais rhai o’r un darnau gan Sepuya yng nghyd-destun ei arddangosfa yn Modern Art yn Llundain. Er mod i’n cofio mwynhau, a gwerthfawrogi, y sioe honno, nid oedd y cyfarfyddiad rhyngof i a’r delweddau yn cyffroi mewn ffordd mor unigryw. Roedd y gwaith yr un peth, neu’n debyg iawn, ond roedd yr edrych ei hun yn teimlo gymaint fwy cyfarwydd, dwyster fy mhrofiad goddrychol o rannu gofod a lle gyda’r gwaith rhywsut yn llai grymus.
Beth sy’n diffinio profiad rhywun o edrych ar gelf? A sut mae hunaniaethau neu feddylfrydau queer yn effeithio ar hyn? Dyma gwestiynau oedd ar fy meddwl wrth ddatblygu rhifyn ‘queer looking|golwg queer’ Cynfas gydag Amgueddfa Cymru ynghanol y pandemig. Gan anelu i dorri’n rhydd o ymdriniaethau o gynhyrchiant celfyddydol queer wedi’u dominyddu gan ‘gynrychiolaeth,’ gweithiais gydag artistiaid a thîm golygyddol i ganoli safle’r edrychwr queer, i weld sut byddai gweithiau yng nghasgliad yr Amgueddfa (neu hyd yn oed y cysyniad o gasgliad amgueddfa ei hun) yn cael eu cymhlethu neu gyfoethogi o’u rhoi mewn deialog â diddordebau ymchwil a phrofiadau byw grŵp o artistiaid a sgwenwyr queer a thraws Cymreig. Daeth y moddau caiff cyrff eu delweddu yn thema cyson. (Crëom y rhifyn cyn i’r Amgueddfa gwblhau eu pryniant o Studio (0X5A4983); sgwn i petai ni’n creu dilyniant heddiw pa fath o ymholiadau byddai ffotograff Sepuya’n pryfocio.)
Clywaf y cwestiynau’n atseinio. Am beth ydyn ni’n sôn pan drafodwn y moddau mae artistiaid yn cynrychioli’r corff dynol? Beth mae’n olygu i bwyllo, ac edrych ar gyrff wedi’u fframio â sensitifrwydd? Sut fedrwn sicrhau ein bod yn adnewyddu’n ffyrdd o drafod cynhyrchiant gelfyddydol a ddiffinir gan safbwynt queer? Fel lens camera’n cyfarfod llygad edrychwr queer, neu lygaid yn cwrdd mewn ystafell dywyll, nid oes ateb syth i’r fath gwestiynau; dim ond gwahoddiadau. I deimlo’n fwy angerddol, ac i ddarganfod mwy o gyfeiriadau i edrych ohonynt.
Sgwennwr yw Dylan Huw sy’n gweithio mewn ffyrdd aml-gyfrwng ac aml-ieithog, ran amlaf yng nghyd-destun y byd celf. Mae ei sgwennu beirniadol yn ymddangos yn Artforum, e-flux, O’r Pedwar Gwynt ac Art Monthly, a llynedd cyrhaeddod rhestr fer yr International Award for Art Criticism (IAAC8). Yn 2022-3, mae Dylan yn cael ei gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru fel rhan o Gymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol. Mae’n dod o ardal Aberystwyth, ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd.