Wrth i bandemig COVID-19 waethygu a’r pwysau ar staff y GIG gynyddu yn ystod gaeaf 2020, roedd Amgueddfa Cymru am ddefnyddio’r casgliad celf cenedlaethol mewn ysbytai a safleoedd gofal i gynnig cysur i staff a chleifion.
Fel rhan o Celf ar y Cyd, cyfres o brojectau a lawnsiwyd yn gyntaf yn 2020, rydym wedi gweithio gyda byrddau iechyd drwy Gymru ar broject Celf Mewn Ysbytai, a buom yn fwyaf diweddar yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Athrofaol Aneurin Bevan. Roeddem yn awyddus i staff y GIG gael cyfle i fwynhau celf fel rhan o’u diwrnod gwaith, ac i benderfynu eu hunain sut ddylai celf gael ei ddefnyddio yn eu gweithle.
Isod y gwelir y gweithiau celf wedi’u dewis gan weithwyr y wardiau gofal meddygol. Mae atgynyrchiadau o’r rhain bellach ar y waliau i gael eu mwynhau gan y staff a chan gleifion. Cymrwch bip – pa weithiau celf sy’n apelio atoch chi?
Mae dyn mewn cap stabal yn cerdded y ci ar stryd serth ym Mhendyrus, y Rhondda. Mae’r ci’n anadlu’n drwm ac yn tynnu’n eiddgar ar y tennyn. Tu ôl iddynt, mae dau berson arall. Gallwn ni weld ar draws y dyffryn o’r fan hyn. Ar waelod y dyffryn mae rhesi o dai teras, traciau rheilffyrdd, ac adeiladau diwydiannol yn cordeddu, gan ddilyn ochrau’r mynydd.
Tynnwyd y ffotograff hwn gan David Hurn yn 1971. Heddiw, mae David Hurn yn un o ffotograffwyr dogfennol enwocaf Prydain. Treuliodd lawer o’i yrfa yn dogfennu bywyd bob dydd yng Nghymru.
Mae’n debyg i wneud y conga, ond mewn pwll nofio! Yn y ffotograff hwn gwelwn ddosbarth ymarfer corff ben bore mewn pwll nofio yn Arizona (UDA). Mae grwpiau o bobl yn creu cadwyni dynol, gyda’u dwylo ar ysgwyddau’i gilydd, a’r dŵr yn troelli wrth iddyn nhw symud mewn cylchoedd.
Tynnwyd y ffotograff hwn gan David Hurn yn 2002. Fe deithiodd David Hurn i Arizona droeon, a'i disgrifio fel ‘y dalaith fwyaf adain dde yn America, a’r sychaf. Y gwrthwyneb yn llwyr i Gymru fy mamwlad’.
Haf 1977 yw hi, ac mae grŵp o blant yn mwynhau ras ferfa ar y porfa wrth Abaty Tyndyrn. Cynhaliwyd y diwrnod mabolgampau ar achlysur jiwbilî arian y Frenhines ym mis Mehefin. Efallai eu bod nhw yno i ddathlu’r teulu brenhinol, neu i fwynhau diwrnod o hwyl gyda ffrindiau – does fawr o wahaniaeth. Gallwn ni deimlo cyffro’r plant yn y ffotograff.
Ffotograffydd dogfennol o Gymru yw David Hurn. Mae’n enwog am ei ffotograffau o fywyd bob dydd – pobl gyffredin yn gwneud pethau cyffredin.
Mewn tirlun gwyrdd, cyfoethog ger Penegoes, mae dau ffigwr yn pysgota yn eu cwrcwd ger afon. Ond efallai na fyddwch chi’n eu gweld nhw’n syth. Mae’n llawer gwell gan yr artist ddangos prydferthwch y dail coediog, a’r rhaeadr sy’n syrthio dros y clogwyn serth. Dathliad o natur yn ei holl ogoniant yw hwn. Pentref ger Machynlleth, ym Mhowys, yw Penegoes.
Wyddwn ni ddim pwy baentiodd y llun hwn, ond roedd pobl yn meddwl am amser taw Richard Wilson oedd yn gyfrifol – artist o Gymru gafodd ei eni a’i fagu ym Mhenegoes yn y 18fed ganrif.
Paentiwyd y llun hwn tua 1917 gan yr artist Christopher Williams. Cafodd ei eni ym Maesteg a dod yn un o artistiaid enwocaf Cymru yn y cyfnod. Roedd yn caru arfordir Cymru, ac fe baentiodd olygfeydd droeon ar ei deithiau rhwng Llangrannog a Phenrhyn Llŷn.
Dwy Sgrech y Coed sy’n clwydo ar gangen. Mae un yn edrych i lawr o’r dail yn llawn chwilfrydedd. Yn y cefndir mae tirlun o fryniau’n ymdonni. Ar ben y bryn mae tŵr carreg eglwys, o dan awyr lawn cymylau.
Mae’r olygfa yn Stoke-by-Nayland, Lloegr, oedd yn gartref ar y pryd i Cedric Morris, yr artist oedd yn wreiddiol o Sgeti, Abertawe. Fe baentiodd y llun hwn yn 1940. Roedd gan Cedric Morris ddiddordeb mawr mewn adar a natur, ac yn ddiweddarach yn ei yrfa fe dynnodd sylw at effeithiau plaladdwyr y diwydiant ffermio ar boblogaethau adar.
Golygfa llygad aderyn o Gwm Glaslyn yn Eryri a welwn ni yn y paentiad hwn. Mae afon yn troelli drwy’r mynydd-dir, gan ein harwain drwy’r dyffryn i’r gorwel glas. O bobtu’r afon mae’r caeau yn wastad, gyda chreigiau a mynyddoedd yn codi ar bob ochr. Mae’r lliwiau’n ysgafn a breuddwydiol. Cwm Glaslyn yw un o olygfeydd prydferthaf Cymru, ac mae’n gyfoeth o fywyd gwyllt.
Paentiwyd yr olygfa hon gan Vivian Pitchforth tua 1940. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd Vivian Pitchforth yn Artist Rhyfel Swyddogol.
Paentiad o gelli fechan yn Sir Gâr, wedi’i hamgylchynu a’i chysgodi gan goed. Mae dafnau o olau yn diferu drwy’r dail, gan oleuo’r borfa a’r blodau gwyllt ar lawr y goedwig. Mae’r goeden dalsyth, fwyaf, yn y blaendir ar y chwith, wedi’i gorchuddio â mwsog gwyrdd meddal.
Magwyd William Wilkins yn ne Cymru, ac roedd ganddo stiwdio yn Sir Gâr. Mae’n defnyddio techneg baentio pwyntilio, sef paentio gyda dotiau mân o liw. Gallwn ni weld y dechneg yn well o edrych yn agos.
Golygfa o Draeth y Castell yn Nimbych-y-pysgod, un o draethau mwyaf poblogaidd Cymru. Paentiwyd y llun gan Isambard Owen, yn niwedd y 19eg ganrif. Mae Dinbych-y-pysgod wedi newid tipyn ers hynny, ond gallwn ni adnabod y traeth o hyd – er y byddai’n llawn pobl ar ddiwrnod mor braf.
Ganwyd Isambard Owen yng Nghas-gwent, Sir Fynwy, a daeth yn ffigwr pwysig yn niwylliant Cymru. Roedd ei dad yn un o brif beirianwyr Great Western Railway, oedd yn gyfrifol am adeiladu’r rheilffordd drwy dde Cymru.
Mae golau haul yn dawnsio ar wyneb Afon Llugwy yn y tirlun hyfryd hwn o Eryri. Mae’r afon wedi’i hamgylchynu â llethrau a choetir gwyrdd trwchus. Edrychwch yn ofalus ac fe welwch chi bobl yn eistedd ar y lan yn mwynhau’r olygfa, a pherson gyda gwialen bysgota ar y lan bellaf.
Paentiwyd y llun gan Benjamin Williams Leader yn y 19eg ganrif. Ymwelodd ag Eryri am y tro cyntaf yn 1859, a dychwelyd droeon ar ôl cwympo mewn cariad â’r olygfa. Mae ei waith yn hynod fanwl, ac yn dangos cariad a pharch mawr at natur.
Golygfa llygad aderyn rhyfeddol o Ddyffryn Conwy yw’r llun hwn gan David Woodford. O’n blaenau mae’r mynyddoedd yn ymestyn am filltiroedd, cyn pylu i’r niwl glas egwan yn y pellter. Mae’n ddiwrnod cymylog, gyda phelydrau’r haul yn torri drwy’r cymylau llwyd. Efallai ei bod hi newydd fwrw, neu ar fin bwrw. Mae'r heulwen yn adlewyrchu oddi ar wyneb afon ar ei thaith drwy’r mynyddoedd.
Mae paentiadau David Woodford yn cyfleu prydferthwch gwyllt Eryri, yn ei holl dymhorau a thymherau.
Mae Forest Cove, a elwir bellach yn Aberfforest, i’r dwyrain o Ben Dinas, y penrhyn creigiog sy’n ffurfio pen dwyreiniol Bae Abergwaun. Mae’r cildraeth bach yn edrych yn groesawgar iawn yn yr olygfa dawel hon, gyda’r dŵr yn torri’n ysgafn ar y tywod aur. Yn y pellter mae cychod hwylio yn arnofio.
Treuliodd yr artist, John Brett, flynyddoedd diweddarach ei fywyd yn teithio a phaentio arfordir Prydain. Ysgrifennodd taw Sir Benfro oedd yr unig le glan môr digonol ar holl arfordir Ynysoedd Prydain.
Wrth i haul y prynhawn fachlud, mae dafnau o olau yn dawnsio ar wyneb y Gamlas Fawr yn Fenis, yr Eidal. Rydyn ni’n edrych ar draws y dŵr at y Palazzo Dario – palas ysblennydd ar ymyl y dŵr. Rhaid cymryd gondola at borth y palas, a gallwn ni weld gondola gwag wedi’i glymu wrth y lanfa – efallai bod rhywun newydd gyrraedd, neu ar adael.
Ymwelodd yr artist Claude Monet â Fenis yn 1908 a chael ei ysbrydoli gan adeiladau’r ddinas, y golau newidiol, a’r adlewyrchiadau’n dawnsio ar y dŵr.
Roedd Paul Signac yn hwyliwr brwd fyddai’n teithio ar hyd arfordir Ffrainc yn creu darluniau dyfrlliw. Hoffai arbrofi drwy ddefnyddio llyfiadau bach o liw llachar yn ei olygfeydd o’r môr a harbyrau bach. Yn y paentiad hwn mae’r môr a’r awyr yn gyfuniad o liwiau glas, pinc, porffor, melyn ac oren wrth i’r machlud ar y gorwel adlewyrchu yn y dŵr islaw.
Yn y llun dyfrlliw hwn gan J.M.W. Turner mae enfys liwgar yn hollti’r awyr, gan oleuo tŵr eglwys yng nghanol yr olygfa. Tu hwnt i’r enfys, mae’r awyr yn llawn cymylau glas a phinc gwlannog. Wyddon ni ddim os yw’r siapau ailadroddus yn y blaendir yn cynrychioli cae o laswellt tal, neu symud rhyddmig tonnau ar lan y môr. Mewn diwylliannau ledled y byd mae’r enfys yn symbol o obaith am ddyddiau gwell i ddod.
Yn y paentiad hwn gallwn ni weld un o fynyddoedd Eryri mewn glas a phorffor llachar, gyda chymylau lelog gwlanog yn yr awyr tu hwnt. Does neb i’w weld am filltiroedd ym mhrydferthwch gwyllt y cornel hwn o Gymru.
Roedd Christopher Williams, a anwyd ym Maesteg, yn un o baentwyr pwysicaf ei oes yng Nghymru. Paentiodd nifer o dirluniau ledled Cymru a thu hwnt.
Roedd golygfeydd mynyddig yn un o ffefrynnau Christopher Williams, ac yma mae’r tirlun wedi’i foddi mewn golau euraid wrth i’r haul fachlud. Yn y pellter mae pegynau creigiog y mynyddoedd yn bygwth, a llwybr treuliedig yn arwain tua’r chwith yn ein temtio i anturio yn y tirlun creigiog. Mae tawelwch a heddwch yr olygfa yn cyfleu cariad yr artist at dirlun garw a phrydferth Cymru.
Projectau Pellach
Mae côd QR yn cynnig rhagor o adnoddau a gwybodaeth ddigidol i staff rannu gyda chleifion. Mae wedi bod yn brofiad arbennig gweithio gyda’r staff ym Mwrdd Iechyd Athrofaol Aneurin Bevan i gynnal y project hwn. Ers lawnsio ein project Celf Mewn Ysbytai cyntaf yn 2020, rydym wedi parhau i weithio’n agos gyda byrddau iechyd drwy Gymru. Y project nesaf fydd yn lawnsio drwy Celf Mewn Ysbytai fydd datblygu Pecynnau Gofal Lliniarol ar gyfer cleifion a’u teluoedd gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Cyllid a Chefnogaeth
Gwnaed cefnogaeth Amgueddfa Cymru yn bosibl drwy Celf ar y Cyd. Dechreuodd Celf ar y Cyd fel cyfres o brojectau celf gweledol mewn cydweithrediad â Chyngor Celfyddydau Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, sy’n ein herio ni i rannu’r casgliad celf cenedlaethol mewn ffyrdd newydd ac arloesol yn ystod y pandemig. Mae llinynnau eraill y prosiect yn cynnwys ein cylchgrawn celfyddydau gweledol ar-lein, Cynfas, ac arddangosfa Celf 100. Mae Celf ar y Cyd yn wefan newydd arloesol ac yn elfen ganolog o’r Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i Gymru. Dilynwch ni ar Instagram @celfarycyd am ddiweddariadau rheolaidd ac ewch i’r wefan i archwilio’r casgliad celf gyfoes yn https://celfarycyd.cymru.