Roedd John Selway a Denys Short yn ddau artist a oedd yn ymateb i fywyd a chymdeithas yn ne Cymru drwy eu celf. Yn y fideo hwn mae Pennaeth Celf Gain Amgueddfa Cymru, Nicholas Thornton, yn edrych ar sut mae’r ddau wedi darlunio de ddwyrain Cymru. Mae’n cymharu dau baentiad gafodd eu paentio ym 1960 ac yn edrych ar ddylanwad mudiadau celf rhyngwladol ar yr artistiaid a’r math o waith roedden nhw’n ei greu ar y pryd.
Am wylio’r fideo gydag isdeitlau? Cliciwch ‘CC’ ar y fideo i ddewis gwylio gydag isdeitlau [closed captions].
Pa debygrwydd sydd rhwng arddulliau’r ddau artist? Beth sy’n wahanol amdanyn nhw?
Y gweithiau celf yn y fideo hwn ydy: Cwm Nante a Melin Oer gan John Selway; a Capel a Thomen gan Denys Short.
Nicholas Thornton yw Pennaeth Celf Gain Amgueddfa Cymru. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn celf fodern a chyfoes o Gymru a chyswllt y diwylliant gweledol hwn â thrafodaethau cyfredol ynghylch moderniaeth drawswladol yn ogystal â’r cydgyfeiriant rhwng celf gymdeithasol a ffyrdd newydd o weithio gyda chasgliadau amgueddfeydd.