CYNFAS

Rachel Vater, Oriel Myrddin
24 Mai 2024

Oriel Myrddin: Comisiynau Artistiaid

Rachel Vater, Oriel Myrddin

24 Mai 2024 | Minute read

Rydyn ni’n falch iawn i gyhoeddi ein bod ni’n cymryd rhan yng Ngŵyl Crefft Cymru // Craft Festival Wales, fydd yn Aberteifi o Fedi 6 – 8. Ymunwch â ni ar daith grefft arbennig drwy’r dref, sy’n cynnwys gwaith gan chwe chrefftwr talentog o Gymru: Ella Bua-In, Ffion Evans, Hannah Walters, Lewis Prosser, Rosa Harradine, a Rosie Lake.

Mae’r gweithiau celf unigryw hyn yn rhan o gydweithrediad OM gydag Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, fel rhan o fenter cyffrous yr oriel celf gyfoes genedlaethol i Gymru. Mae’r fenter yn galluogi gwell fynediad ac ymwybyddiaeth o’r casgliadau celf gyfoes cenedlaethol, gyda chefnogaeth hael gan Lywodraeth Cymru.

Er mwyn ein dechrau ar ein taith, fe gafodd OM a’r chwe chrefftwr dan gomisiwn eu gwahodd gan Amgueddfa Cymru i bori drwy’r casgliadau cyfoes am ysbrydoliaeth. Roedd e’n ddiwrnod arbennig, gan gynnig cymaint o syniad. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at rannu’r canlyniadau gyda chi!


Share


More like this