Artist yw Abby Poulson sy'n defnyddio ffotograffiaeth yn amlddisgyblaethol i drafod syniadau am ein perthynas â'r tir, yr amgylchfyd a chof, gan dynnu ysbrydoliaeth yn aml o dirluniau gwledig Cymru. Mae hi wedi ailddefnyddio delweddau o'i harchif ffotograffau o Gymru a'u troi yn farcutiaid, fel ffordd wahanol o brofi ac ymateb i'r tir. Profiad lle mae tiroedd y gorffennol yn hedfan, ac yn cael eu hatgyfodi gan y presennol.
Gallwch ddysgu mwy am waith Abby ar ei gwefan ac ar Instagram.