Mae Teulu yn arddangosfa unigryw sydd yn gweld 4 teulu o Geredigion yn gweithio gyda Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth i gyd-curadu arddangosfa fawr sydd yn dangos gwaith a chymryd ysbrydoliaeth o’n casgliadau celf cenedlaethol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru a Ysgol Gelf, Amgueddfa ac Orielau, Prifysgol Aberystwyth.
Mae arddangosfa Teulu i'w gweld yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth o 2 Mawrth i 23 Mehefin 2024. Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch yr arddangosfa ar wefan Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.