CYNFAS

Mari Griffith
17 Mehefin 2024

Josef Herman (1911-2000)

Mari Griffith

17 Mehefin 2024 | Minute read

Roedd Josef Herman yn un o nifer o artistiaid Iddewig a gafodd loches ym Mhrydain yn y 1930au a 40au. Treuliodd unarddeg mlynedd yn Ystradgynlais yng nghymoedd y De, cyfnod a oedd yn hollbwysig i’w gelf a’i yrfa.

Cafodd Herman ei eni a’i fagu yn Warsaw lle hyfforddodd fel cysodwr a dyluniwr graffig cyn troi at ddarlunio a phaentio. O’r dechrau, roedd ganddo arddull gref ac roedd yn ymddiddori mewn pobl a gweithwyr cyffredin, boed mewn ghettos dinesig, caeau amaethyddol neu – yn ddiweddarach – mewn pyllau glo.

The Jewish Shepherd
HERMAN, Josef
© Ystâd Josef Herman/Amgueddfa Cymru

Yn 1938, gyda thwf gwrthsemitiaeth, gadawodd Herman Wlad Pwyl; roedd yn 27 mlwydd oed. Aeth yn gyntaf i Frwsel cyn symud i Ffrainc ac wedyn i Brydain yn 1940 gan dreulio cyfnod yn Glasgow ac yna Llundain. Yn 1942, cafodd wybod fod ei deulu cyfan wedi marw yn Ghetto Warsaw.

Family
HERMAN, Josef
© Ystâd Josef Herman/Amgueddfa Cymru

Dechreuodd perthynas Herman â Chymru yn 1944. Ei fwriad oedd ymweld am bythefnos ond arhosodd hyd 1955. Ymgartrefodd ym mhentref glofaol Ystradgynlais, lle bu’r gymuned glos yn gysur ac ysbrydoliaeth artistig iddo ar ôl chwe blynedd aflonydd. Roedd y bobl leol yn ei adnabod fel ‘Joe Bach’. Mae ei ddarluniau o’r glowyr yn eu dangos fel ffigyrau solet gydag ysgwyddau sgwâr a dwylo fel rhaw – ffigyrau sy’n ymgorffori cryfder ac urddas. Pan gafodd ei gomisiynu i greu murlun ar gyfer y Festival of Britain yn 1951 (nawr yn Oriel Glynn Vivian, Abertawe), dewisodd baentio chwe glöwr enfawr.

Gadawodd Herman Cymru yn 1955 am hinsawdd sychach (er lles ei iechyd) gan symud yn gyntaf i Sbaen wedyn Suffolk ac yn olaf Llundain, lle parhaodd i weithio hyd at ei farwolaeth yn 2000.

Three welsh miners
HERMAN, Josef
© Ystâd Josef Herman/Amgueddfa Cymru

Mae Mari Griffith yn hanesydd celf sydd wedi gweithio ym maes amgueddfeydd ac orielau celf ers 30 mlynedd, yn datblygu a goruchwylio darpariaeth addysg a dehongli ar gyfer casgliadau cyhoeddus ac arddangosfeydd, gan gynnwys yn y National Gallery, National Gallery of Art a’r Royal Academy of Arts. Wedi cyfnod yn gweithio’n rhyngwladol ym maes dehongli celf a threftadaeth, mae hi’n awr yn ysgrifennu, golygu a chyfieithu’n llawrydd – am gelf gan fwyaf.

HERMAN, Josef, Mam a Phlentyn © Josef Herman Foundation / Llyfrgell Genedlaethol Cymru


Share


More like this