CYNFAS

Nicholas Thornton a Ceri Jones, Amgueddfa Cymru
5 Gorffennaf 2024

David Garner: Wylo

Nicholas Thornton a Ceri Jones, Amgueddfa Cymru

5 Gorffennaf 2024 | Minute read

Ers y 1990au mae'r artist David Garner wedi bod yn creu gwaith wedi'i ysbrydoli gan hanes a gwleidyddiaeth unigryw Cymoedd y De.

GARNER, David, Bwrdd poster yn cynnwys 'Wylo' © David Garner / Amgueddfa Cymru – Museum Wales

Mae'r themâu yn cynnwys effaith a chanlyniad dirywiad y diwydiant glo, a chyfraniad cymdeithasol y Cymoedd drwy fentrau arloesol fel gofal iechyd am ddim lle darperir gofal.

Yn y bwrdd poster hwn sy’n cynnwys ‘Wylo’ mae'r artist wedi printio delweddau o Aneurin Bevan, oedd heb eu cyhoeddi cyn hyn. Ysbrydolwyd Aneurin Bevan gan weithwyr iechyd Tredegar, ei dre enedigol, i gymryd rôl allweddol yn ffurfio'r GIG yn 1946.

Mae'r portread amwys hwn yn awgrymu y byddai Aneurin Bevan heddiw yn wylo at ddiffyg ymroddiad cymdeithas i'w weledigaeth o wladwriaeth les.

Rhan o gomisiwn newydd gan Amgueddfa Cymru ar gyfer project oriel celf gyfoes genedlaethol i Gymru, 2024.

GARNER, David, Bwrdd poster yn cynnwys 'Wylo' © David Garner / Amgueddfa Cymru

 

Share


More like this