Mae gan Gymru hanes enfawr o weithredu ar ran bywyd cymunedol, yn erbyn rhai mewn safleoedd o rym, a hefyd hanes o ymgyrchu dros gyfiawnder a heddwch.
Cafodd y darluniau i’r cardiau post hyn eu creu ar gyfer dau brosiect ar wahân gyda’r un math o themâu tu fewn iddyn nhw.
Gorymdaith heddwch o Benygroes 1926. Ymunodd 2,000 o ferched â’r orymdaith.
Gorymdaith heddwch o Benygroes 1926. Ymunodd 2,000 o ferched â’r orymdaith.
Saunders Lewis, Lewis Valentine, DJ Williams yn 1936, ar ôl rhoi’r ysgol fomio ar dân ac ildio, yn trafod barddoniaeth gyda’r sarjant ar ddyletswydd.
Penyberth, Saunders Lewis, Lewis Valentine, DJ Williams yn 1936, yn rhoi’r ysgol fomio RAF ar dân.
Casglodd merched Cymru 400,000 o lofnodion ar gyfer y Ddeiseb Heddwch a ddechreuwyd ganddyn nhw yn 1923 cyn mynd â hi i Efrog Newydd.
Annie-Jane Griffiths gyda Gladys Thomas, Mary Ellis ac Elined Prys yn cyflwyno’r Ddeiseb Heddwch yn Washington yn 1924. Casglodd merched Cymru 400,000 o lofnodion ar gyfer y Ddeiseb Heddwch a ddechreuwydd ganddynt ym 1923.
Ffurfiodd Owain Williams, Emyr Llywelyn, a John Albert Jones M.A.C (Mudiad Amddiffyn Cymru) a nhw fomiodd y trawsnewidydd ar gyfer safle adeiladu Argae Tryweryn, â adeiladwyd gan gyngor Lerpwl, ar ben pentre Capel Celyn.
Gwnaeth delweddau Y Ddeiseb Heddwch gael eu comisiynnu gan Darllen.co ar gyfer adnodd ar-lein ‘A Oes Heddwch’ wedi ei ysgrifennu gan Catrin Stevens. Mae’n dweud y stori am fenywod drwy Gymru yn 1924 yn casglu 400,000 o lofnodion i gefnogi sefydliad rhyngwladol a fyddai’n ceisio datrysiad heddychlon mewn ateb i sefyllfaoedd lle mae perygl o ryfel.
Yna ar gyfer Eisteddfod 2023 ym Moduan, wnes i weithio gyda’r cwmni celf And Now / A Rwan, yn cynnal ein gofod ac yn annog pobl i feddwl am ystyr y gair Heddwch ac yn gofyn a yw’r Gymru fodern yn cyfrannu at heddwch, neu at ryfel. Drwy gydol yr wythnos siaradais gyda phobl am hanes ymgyrchwyr lleol, gan gynnwys gorymdaith 1926 o Benygroes, digwyddiadau 1936 ym Mhen y Berth (Tân yn Llŷn), a’r gweithredu a ddigwyddodd yn 1963 fel ateb i’r dinistrio o gymuned Capel Celyn.
Rhoddwyd cardiau post i bobl dros yr Eisteddfod i annog sgwrs, a gwahoddwyd pobl i rhannu eu diffiniadau o’r gair ‘Heddwch’, ac fe wnaeth And Now / A Rwan ddefnyddio’r diffiniadau yma ar gyfer seremoni-cau yr Eisteddfod.