CYNFAS

Ayesha Khan
4 Hydref 2024

Y Cyffredin

Ayesha Khan

4 Hydref 2024 | Minute read

Mae menywod Mwslimaidd yn lleiafrif mewn lleiafrif, ac yn profi gwahaniaethu ar dair lefel: fel menywod, menywod Mwslimaidd, a menywod sy'n gwisgo dillad sy'n uniaethu a chrefydd Islam.

KHAN, Ayesha, Y Cyffredin © Ayesha Khan

KHAN, Ayesha, Y Cyffredin © Ayesha Khan

Mae rhyddid i fenywod Mwslimaidd wedi cael ei fesur yn ôl pa mor dderbyniol yw eu dillad i safonau'r Gorllewin. Mae nifer o bobl yn y Gorllewin wedi rhagdybio taw nid dewis menywod yw gwisgo mewn ffordd sy'n cymhathu â'u ffydd Islamaidd. Mae'r meddylfryd hwn yn dad-rymuso menywod Mwslimaidd sy'n dewis gwisgo'r hijab a dillad gwylaidd. Yn ogystal â stereoteipiau tebyg, mae gwisg Islamaidd wedi cael ei gysylltu'n negatif mewn rhannau o'r Wasg Brydeinig gyda phryderon am fewnfudo a therfysgaeth. Mae'r cysylltiad wedi troi o'r crefyddol i'r gwleidyddol, a pan fydd menyw yn gwisgo'r hijab mae hi'n dod yn Fwslim amlwg ac yn darged i Islamoffobia. Mae'r rhwystrau i integreiddio cymunedol felly'n cynyddu wrth ddewis ymddangos fel Mwslim.

KHAN, Ayesha, Y Cyffredin © Ayesha Khan

KHAN, Ayesha, Y Cyffredin © Ayesha Khan

KHAN, Ayesha, Y Cyffredin © Ayesha Khan

Drwy gynrychioli gwahanol gymunedau, mae'r delweddau yn y project hwn yn dechrau trafodaeth yng nghymuned y Gorllewin. Cytunodd y menywod i gael eu ffotograffio wrth eu gwaith neu yn ymlacio am eu bod nhw'n awyddus i herio'r stereoteip, a dangos sut mae nhw'n integreiddio. Yn ogystal â'r lluniau, cafodd y menywod eu cyfweld er mwyn personoli a rhoi llais i'w profiad – iddyn nhw a'r gynulleidfa. Mae'r dyfyniadau a ddewiswyd yn siarad â'r gynulledifa, yn eu herio i gwestiynu eu rhagdybiaeth.

KHAN, Ayesha, Y Cyffredin © Ayesha Khan

KHAN, Ayesha, Y Cyffredin © Ayesha Khan

KHAN, Ayesha, Y Cyffredin © Ayesha Khan


 

KHAN, Ayesha, Y Cyffredin © Ayesha Khan

KHAN, Ayesha, Y Cyffredin © Ayesha Khan

KHAN, Ayesha, Y Cyffredin © Ayesha Khan


Ffotograffydd o Gymru yw Ayesha Khan sy'n defnyddio ei phractis creadigol i herio camgynrychioliad menywod Mwslimaidd yn y wasg Brydeinig. Gyda'i chefndir hanner-Cymreig a hanner-Pacistani, mae hi'n deall y ddau ddiwylliant a'u gwahaniaethau. Mae hi hefyd yn fenyw Fwslimaidd sy'n gwisgo'r hijab, ac felly wedi gallu gweld y problemau allweddol o stereoteipio ac Islamoffobia yn ystod ei magwraeth yn y Cymoedd. Thema ganolog yn ei gwaith yw dangos menywod Mwslimaidd pwerus, fel ymateb uniongyrchol i'r stereoteip negyddol a welir mewn pob math o ddelweddau yn y cyfryngau.

Share


More like this